Plant ifanc iawn yn bryderus, unig a ddim yn hyderus - arolwg

Lucy a'i dwy ferch ar y traethFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae merch Lucy, Lola, ar y dde, yn gallu poeni'n fawr am bethau

  • Cyhoeddwyd

Mae pryder, diffyg hyder, unigrwydd, pwysigrwydd ymddangosiad a defnydd o'r ffôn yn broblemau i blant ysgolion cynradd bellach, medd arolwg.

Mae'r arolwg sy'n ymchwilio i iechyd a lles plant ysgol drwy Gymru gyfan wedi gofyn i ddisgyblion oedran cynradd, am y tro cyntaf, sut maen nhw'n teimlo ac mae'r atebion yn codi pryderon.

Dywedodd Lucy, bod ei merch Lola, sy'n 11 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cogan ym Mhenarth, Bro Morgannwg "yn eithaf pryderus ac mae hi'n gorfeddwl am bopeth".

Mae'r arolwg yn dangos bod gan un o bob saith o blant rhwng 7 ac 11 oed anawsterau emosiynol "arwyddocaol yn glinigol", sy'n golygu eu bod yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth broffesiynol.

I'w roi mewn cyd-destun, mae hynny oddeutu pedwar o blant ym mhob dosbarth.

Mae gan un o bob tri anawsterau emosiynol dwys, sy'n golygu eu bod yn teimlo'n bryderus, yn drist ac yn ofidus yn rheolaidd.

7 o bob 10 yn cael trafferth cysgu

Gofynnodd yr arolwg iechyd a lles gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) dan arweiniad rhaglen Decipher Prifysgol Caerdydd amrywiaeth o gwestiynau i dros 50,000 o ddisgyblion mewn 510 o ysgolion cynradd am eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Roedd 7 o bob 10 yn cael trafferth cysgu'n rheolaidd, eu hanner wedi cael eu bwlio yn yr ysgol, eu hanner yn berchen ar ffôn clyfar, a llai na hanner yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd.

Faint o effaith mae hyn yn ei gael ar y genhedlaeth ifanc?

Mae Lucy, Sorraya a Kayleigh yn rhieni sydd â merched a gymerodd ran yn yr arolwg, ac o ganlyniad i'r adborth dienw a roddwyd i bob ysgol, cawsant eu gwahodd i ymuno â rhaglen a gynlluniwyd i wella lles disgyblion.

Mae gan Lucy dair merch, 22 ac 8 oed, yn ogystal â Lola.

Roedd Lola yn un o'r plant a gymerodd ran yn y cynllun Flourish ym Mlwyddyn 6 sy'n tynnu grwpiau o blant allan o'r ystafell ddosbarth am sesiynau dros wyth wythnos, gyda'r nod o wella perthnasoedd â chyfoedion a hybu hunanhyder.

Eliza a'i mham, SorrayaFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sorraya yn dweud bod ei merch, Eliza, wedi datblygu gorbryder am ffrindiau ar ôl cyfnod o unigrwydd yn ystod Covid

Roedd merch Kayleigh, Skylar, yn tueddu i fod yn swil ac yn "cuddio" mewn grwpiau mawr y tu hwnt i'w ffrindiau agos.

Dywedodd: "Roedd hi'n cael trafferth gyda'i hyder yn yr ysgol, gyda gwneud pethau'n anghywir neu efallai edrych yn wirion os yw hi'n gwneud pethau'n anghywir yn ei gwaith. Roedd hynny'n broblem fawr wrth siarad allan yn y dosbarth neu ymuno â phethau."

Fel Skylar, roedd merch Sorraya, Eliza, yn gyfforddus yn ei grŵp bach o ffrindiau, ond sylwodd Sorraya ar newid mawr yn y ffordd y daeth hynny i'r amlwg ar ôl i'r pandemig daro.

"Hi oedd yr unig blentyn gartref gyda dau riant a oedd yn weithwyr rheng flaen yn ystod Covid" ac fe "effeithiodd arni o ran ychydig o unigrwydd" pan nad oedd hi ddim yn gallu gweld ei ffrindiau gymaint.

Mae'r rhieni yn cytuno "100%" eu bod wedi gweld mwy o orbryder a gofid emosiynol ymhlith plant iau nag o'r blaen.

Kayleigh a'i merch SkylarFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kayleigh yn meddwl bod ei merch Skylar yn mynd yn orbryderus am beryglon posib oherwydd pethau y mae hi wedi'u gweld ar-lein

Mae Lucy wedi gweld gwahaniaeth gwirioneddol yn y pwysau sy'n wynebu Lola o gyfryngau cymdeithasol a ffonau symudol.

"Pan aeth fy merch hynaf i'r ysgol, dim ond ffôn oedd ganddi a doedd ganddi ddim yr holl apiau hyn.

"Byddai'n dod adref a byddai hi ddim yn siarad â rhywun drwy'r nos a fyddai pethau ddim yn parhau o'r ysgol."

Hyd yn oed gyda rheolaeth rhieni a therfynau amser ar waith, bydd Eliza yn deffro i fwy na 300 o negeseuon ac yna'n poeni ynghylch yr ofn o "beidio â cholli allan".

Dywedodd Lucy ei bod yn credu bod Lola yn poeni am beryglon posib ac yn meddwl y gwaethaf o hyd am ei bod "wedi gweld cymaint o bethau'n mynd o chwith".

Cefnau disgyblion ysgol cynradd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 50,000 o blant wedi cymryd rhan yn arolwg cyntaf Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion sy'n cael ei anelu at ddisgyblion cynradd

Dywedodd Dr Kelly Morgan, cyfarwyddwr y rhwydwaith a arweiniodd yr arolwg hwn ac sydd wedi gweithio ar un cyfatebol i ysgolion uwchradd, nad oedd yr "adroddiadau pryderus" yn syndod.

Ond, ychwanegodd: "Yr hyn sy'n drawiadol yw bod nifer uchel eisoes yn cael trafferth gyda'u hiechyd emosiynol.

"Y cyfan sy'n mynd i ddigwydd ydi bod hynny'n parhau ac yn gwaethygu dros amser os nad yw polisi ac ymarfer yn rhoi rhywbeth ar waith."

Ond mae negeseuon cadarnhaol yn ymddangos hefyd, gan gynnwys nifer y plant sy'n dweud eu bod yn teimlo eu bod yn gysylltiedig â'r ysgol a'u cyfoedion, a'u bod yn cael eu cefnogi gan athrawon - hyd yn oed tra'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.

Sesiynau codi hyder yn llwyddo

Tom Lewis, Ysgol Cogan Ffynhonnell y llun, Tom Lewis

Mae Prosiect Flourish yn canolbwyntio ar weithgareddau fel gwaith tîm, hunan-barch a meithrin hyder.

Tom Lewis yw cydlynydd lles Ysgol Gynradd Cogan ym Mhenarth ac mae o'n dweud fod athrawon y dosbarth wedi sylwi bod gan blant sy'n cymryd rhan yn y sesiynau safbwynt a dull mwy creadigol o ddatrys problemau, ac mae hynny mewn gwirionedd yn helpu'r grŵp ehangach yn y dosbarth, yn ogystal â hybu eu perfformiad academaidd.

Mae Tom yn credu bod llawer o ffactorau gan gynnwys Covid a chostau byw wedi chwarae rhan yng nghanlyniadau'r arolwg.

Ond mae'n ychwanegu: "Mae cymdeithas wedi newid mewn sawl ffordd. Mae'n gyfrifoldeb ar ysgolion i addasu i'r newidiadau hynny a sut rydym yn ymgysylltu â phlant."

I Lola, Skylar ac Eliza, roedd y canlyniadau'n hynod gadarnhaol.

Dywed Sorraya fod Eliza wedi dysgu bod yn fwy llafar ac ychydig yn fwy hyderus.

Fe wnaeth hefyd dawelu ei phryderon ynghylch dal gafael ar gylch bach o ffrindiau fel y gallai ymlacio i fod yn rhan o gylch ehangach, sydd wedi helpu gyda'r symud i'r ysgol uwchradd a gwneud ffrindiau newydd yno.

Dywed Lucy ei bod wedi cael sioc pan ddywedodd Lola wrthi, ar ôl y cwrs, ei bod hi eisiau ymuno â thîm pêl-droed er nad oedd hi'n adnabod unrhyw un a oedd yn mynychu.

Mae Skylar wedi sylweddoli, drwy gael amgylchedd wahanol, ei bod hi'n iawn gwneud pethau'n anghywir yn y gwaith neu grwpiau ac i ofyn am help.