Pryder y gallai tomen yn harbwr Aberaeron atal cychod rhag hwylio

Y domen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r domen wedi'i ffurfio o silt, tywod a cherrig mân

  • Cyhoeddwyd

Mae pryder yn Aberaeron ar ôl i domen ffurfio ger wal harbwr y dref a allai atal cychod rhag hwylio i mewn ag allan o'r harbwr.

Mae'r domen - sydd wedi'i ffurfio o silt, tywod a cherrig mân - wedi tyfu ers i amddiffynfeydd llifogydd newydd gael eu hadeiladu yn y dref.

Cyngor Ceredigion oedd yn arwain y prosiect amddiffynfeydd newydd - sy'n cynnwys morglawdd, grwynau pren a gatiau llifogydd - ar gost o bedair miliwn o bunnoedd yn fwy na'r gyllideb wreiddiol o £31.6m.

Dywed Cyngor Ceredigion bod y cynllun amddiffyn arfordirol yn gweithredu fel y bwriadwyd.

Dai Lewis yn sefyll o flaen ei gwch, yr Aeron Breeze
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dai Lewis yn ystyried gwerthu ei gwch [tu ôl iddo], sydd â'r enw 'Aeron Breeze'

Lai na phedwar mis ers cwblhau'r gwaith ar yr harbwr, mae Dai Lewis yn ystyried gwerthu ei gwch.

"Y broblem i ni fel perchnogion cychod hwylio yw'r drafft. Mae'r lle sydd angen arno' ni oddi tano, i fynd â'r cychod i mewn ac allan, yn mynd yn llai a llai.

"Doedd hi ddim yn hawdd cael y cychod i mewn ac allan o'r harbwr beth bynnag, heb yr holl broblemau hyn.

"Mae fy mhartner a minnau'n ystyried gwerthu ein cwch. Dyw e' ddim gwerth y drafferth. Mae'r ffioedd angori hefyd wedi cynyddu i lefelau aruthrol," meddai Dai.

Harbwr Aberaeron

Dywedodd Dai fod y maes parcio yn llawn cychod ddwy flynedd yn ôl: "Ond edrychwch arno nawr, mae'n wag.

"Mae'r amddiffynfa forol ei hun yn gwneud y gwaith o amddiffyn yn iawn, ond nid yw wedi gwneud unrhyw les o gwbl i berchnogion cychod.

"Mae perchnogion cychod eraill yn ystyried y dyfodol o ran gwerthu eu cychod."

Ychwanegodd Dai: "Rhaid bod tunnell o dywod a silt yno, ble maen nhw'n mynd i'w roi e? Mae'n mynd i ddod yn ôl dro ar ôl tro."

Pier Aberaeron

Nod y cynllun amddiffyn arfordirol yw lleihau'r risg o lifogydd i 168 eiddo preswyl ac anfasnachol yn Aberaeron ac amddiffyn rhag y cynnydd sy'n cael ei ragweld yn lefel y môr yn y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi cynnwys adeiladu rhwystrau enfawr o graig yn y môr a grwynau pren ar draeth y de i leihau effeithiau erydiad arfordirol, ailadeiladu strwythur adfeiliedig pier y de.

Hefyd, mae wedi cynnwys adeiladu wal lifogydd o waith maen a gwydr gyda phwyntiau mynediad i gerddwyr ar hyd Pen Cei.

Mae yna hefyd giât llifogydd newydd ac ardal gyhoeddus uchel o fewn Pwll Cam ger canol y dref a thorglawdd newydd i leihau uchder y tonnau yn yr harbwr.

Dai ac Els Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r domen yn "tyfu pob dydd", yn ôl Dai a Els Parry sy'n byw yn Aberaeron

"Mae'n tyfu pob dydd", meddai Dai a Els Parry sy'n byw yn Aberaeron, gan ychwanegu eu bod "yn siomedig mwy na dim byd fod hyn wedi digwydd".

"Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi meddwl am beth oedd yn mynd i ddigwydd pan ddodon nhw'r cynlluniau i mewn gyntaf."

Dywedodd Els y "bydd rhaid dod â sawl lori yma i glirio hwn bant, a n'ôl daw e. Bydd rhaid neud e'n aml. A pwy sy'n talu am na? Ni siŵr o fod!"

Cwch a chewyll

Mae Cynghorydd Aberaeron, Elizabeth Evans, wedi trefnu cyfarfod gyda phrif weithredwr Cyngor Ceredigion i drafod y problemau.

"Wrth gwrs, mae llawer iawn o bryder gan drigolion a pherchnogion cychod ynghylch y tywod a'r banc cerrig mân sy'n cronni wrth aber yr afon.

"Rwy'n rhannu eu pryderon," medd Ms Evans.

Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

"Doedd hi ddim yn hawdd cael y cychod i mewn ac allan o'r harbwr beth bynnag," medd Dai Lewis

Dywedodd Ms Evans ei bod hi'n "gwybod bod llawer yn digwydd y tu ôl i'r llenni i fynd i'r afael â'r mater hwn yn y tymor hir a thu hwnt i'r carthu a fydd yn digwydd yn yr wythnosau nesaf".

"Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod angen i ni ailosod y grwyn oddi ar y pier deheuol, ond nid wyf yn beiriannydd," ychwanegodd.

Bydd gwaith atgyweirio ar wahân yn cael ei gynnal ar ran o lwybr y morglawdd am y bythefnos nesaf, gyda'r llwybr ar gau i gerddwyr yn ystod y cyfnod.

Dywed Cyngor Ceredigion bod y gwaith yn digwydd yn unol â'r disgwyl.

"Fe nodwyd symudiad y garreg a'r posibilrwydd o rai gofynion ychwanegol am gloddio mewn sawl adroddiad a baratowyd cyn sicrhau'r cymeradwyaethau angenrheidiol ar gyfer y cynllun," medd llefarydd.

"Mae'r torfaen eisoes wedi diogelu Aberaeron yn ystod Storm Amy a Storm Bran, gyda lleihad sylweddol yn uchder y tonnau o fewn y harbwr.

"Yn ystod y gwaith adeiladu, gosodwyd dros 7,000m³ o gregyn ychwanegol, o sylfaen y torfaen, ar Draeth y De, ac mae rhywfaint o'r garreg, yn ddealladwy, wedi dod i mewn i'r sianel yn ystod y digwyddiadau storm hyn ac yn unol â'r modelu cyn-adeiladu.

"Mae swyddogion wrthi'n cwblhau trefniadau ar gyfer tynnu'r garreg ac mae hynny i fod i ddigwydd yn ystod yr wythnosau nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig