Gwario £4m yn fwy na'r bwriad ar gynllun i warchod arfordir Aberaeron

Dyma sut mae'r rhan newydd o'r harbwr yn edrych, wedi ei gwblhau
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i warchod arfordir Aberaeron wedi costio £4m yn fwy na'r gyllideb wreiddiol.
Clywodd cynghorwyr Ceredigion y bydd gorwario ar y prosiect oherwydd "amrywiadau" i'r cytundeb er mwyn gwneud gwaith ychwanegol yn ardal harbwr mewnol y dref.
Cyllideb wreiddiol y prosiect oedd £31.6m, wedi'i gwasgaru dros dair blwyddyn ariannol rhwng 2023 a 2026.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido 85% o'r gost, a Chyngor Ceredigion yn gyfrifol am 15%.
Cwblhau'r gwaith o amddiffyn harbwr Aberaeron rhag llifogydd
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2025
Croeso i gynllun amddiffyn Aberaeron rhag stormydd
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
Angen gwaith 'ar frys' i achub muriau harbwr
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020
Yng nghyfarfod pwyllgor trosolwg a chraffu adnoddau corfforaethol y cyngor sir, clywodd cynghorwyr bod cost lawn y gorwariant "yn disgyn ar y cyngor i'w ariannu", ond bod trafodaethau yn cael eu cynnal sy'n archwilio "sawl llwybr ariannu allanol" i gwrdd â'r costau ychwanegol.
Clywodd cynghorwyr hefyd bod trafodaethau'n parhau i weld a fydd Llywodraeth Cymru'n talu 85% o'r gorwariant.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu cyllid ar gyfer y prosiect ac mai Cyngor Ceredigion oedd yn "gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau".
Clywodd cynghorwyr mai cynllun gwarchod arfordir Aberaeron oedd prosiect cyfalaf mwyaf y cyngor yn y blynyddoedd diwethaf.
Roedd y prosiect wedi gor-redeg o tua 43 wythnos gyda'r gwaith ychwanegol – a gyfrannodd at y gorwariant - yn cynnwys gwaith yn ardal Pwll Cam a giât fewnol newydd yr harbwr, gwaith o amgylch adeilad yr Hive a growtio wal afon Aeron.
'Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol'
Dywedodd Cyngor Ceredigion: "Mae trafodaethau ariannu yn parhau ac mae disgwyl y bydd y sefyllfa ariannu derfynol yn hysbys erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
"Ni fyddai'n briodol gwneud sylwadau pellach nes bod y trafodaethau ariannu hynny wedi dod i ben, fel arall mae risg y bydd y trafodaethau hynny'n cael eu peryglu."
Dywed Llywodraeth Cymru mewn datganiad ddydd Llun: "Rydym yn darparu cyllid i Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru ar gyfer prosiectau sy'n helpu i gyflawni amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol yng Nghymru.
"Unwaith y bydd cyllid wedi'i sicrhau o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, asiantaethau unigol sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau hyn.
"Felly, Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gynllun rheoli risg arfordirol Aberaeron."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.