Zahra Errami: 'Cyffuriau wedi bod o amgylch fi ers fy arddegau'

Zahra Errami mewn ffatri ganabisFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Zahra Errami mewn ffatri ganabis

  • Cyhoeddwyd

"Mewn ardaloedd mwy dinesig mae cyffuriau yn cael eu trafod yn fwy ond mewn cymuned bach distaw mae'n rhywbeth mae pobl yn gwneud ond mae'n teimlo yn fwy cuddiedig."

Mewn cyfres newydd ar S4C, Cymru ar Gyffuriau, mae'r newyddiadurwr Zahra Errami o Sir Fôn yn ymchwilio i'r cynnydd yn y defnydd o ganabis, cocên a ketamine yng Nghymru.

Yn y gyfres mae'n siarad gyda phobl ifanc ac hefyd delwyr cyffuriau mewn ardaloedd gwledig a threfol ar hyd a lled y wlad.

Meddai: "Dwi'n berson ifanc so ti'n gweld bod pobl yn cymryd cyffuriau yn aml, bob penwythnos rili. Dwi wedi gweld o first hand.

"Dwi ddim yn meddwl fod llawer o bobl yn gwybod am yr extent yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig."

Deliwr cyffuriau sy' wedi sefydlu ei fusnes yng nghanolbarth CymruFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Deliwr cyffuriau sy' wedi sefydlu ei fusnes yng nghanolbarth Cymru

Un o'r ardaloedd hynny yw canolbarth Cymru ac mewn sgwrs gyda deliwr cyffuriau yno mae Zahra'n trafod mai cocên yw'r cyffur mwyaf poblogaidd yn yr ardal.

Mae'r deliwr, sy'n cuddio ei wyneb, yn sôn ei fod wedi cychwyn delio yn 12 oed a'i fod yn delio cocên i bobl proffesiynol yn ogystal â phobl ifanc yr ardal.

Meddai Zahra: "Cocên sy' fwyaf cyffredin ond dydy o ddim yn arbennig i bobl ifanc bellach, mae o'n rhywbeth sy'n cael ei gymryd gan bob oedran.

"Mae'n rhywbeth dwi'n sicr wedi gweld yn y cymunedau bach – mae pawb yn cymryd cocên, ddim jyst pobl ifanc."

Mae'r deliwr sy'n siarad gyda hi yn y rhaglen wedi dod o'r ddinas i gefn gwlad er mwyn gwerthu yno: "Mae'n amlwg bod 'na rhyw fath o big operation yn digwydd.

"Oedd o'n un o'r ddinas ond wedi penderfynu sefydlu ei fusnes yng nghefn gwlad yn y gorllewin – oedd o'n gweld y demand am gyffuriau yno."

Zahra gyda'r un o'r cyfranwyr yn y rhaglenFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Zahra gyda'r un o'r cyfranwyr yn y rhaglen

Stigma

Wrth deithio i wahanol ardaloedd yng Nghymru gan gynnwys Ceredigion, Sir Benfro, Sir Fôn a Sir Ddinbych bu Zahra'n trafod y pwnc gyda nifer o bobl ifanc sy'n cymryd cyffuriau. Mae nifer yn cuddio'u wynebau.

Meddai: "Y peth mwyaf wnaeth taro fi oedd bod stigma cyffuriau ddim yn helpu yr achos – mae'r rhaglenni yn edrych ar straeon difrifol pobl ond mae'r bobl hynny wedi cadw bod yn gaeth i'r cyffur yna yn rili gudd.

"Mae'n dod lawr i broblemau iechyd meddwl ac maen nhw'n defnyddio'r cyffur fel ffordd i oroesi. Mae 'na stori i bob un unigolyn sy'n cymryd cyffuriau ond dydi pobl ddim yn edrych tu ôl i'r clawr.

"Mae cymryd cyffuriau yn anghyfreithlon felly dydi pobl ddim yn teimlo'n gyfforddus i siarad amdano. Pan mae'n dod i gael y sgyrsiau yna mae'n dal i gael ei weld yn tabŵ.

"Mae pobl ifanc yn siarad efo ffrindiau eraill sy'n gwneud cyffuriau ond pan mae'n dod i greu rhaglen dydi nhw dim isho mynd yn gyhoeddus."

'Snow City'

Un o'r trefi mae Zahra yn ymweld â yw Rhuthun, sy'n cael ei adnabod gan rai fel 'Snow City' yn ôl cyfrannydd i'r rhaglen oherwydd y defnydd o cocên yno.

Meddai Zahra: "Dwi'n dod o Sir Fôn a dyna pam o'n i isho ffocysu ar cocên yng nghefn gwlad achos dwi wedi gweld cynnydd. Doedd o ddim yn sioc i fi fod o'n rhywle fel Rhuthun – fod na rhywbeth tebyg yn digwydd."

Deliwr ar y rhaglen yn dangos ei gyflenwad o cocênFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Deliwr yn dangos ei gyflenwad o cocên ar y rhaglen

Ketamine

Mae'r defnydd o ketamine wedi dyblu yn y ddegawd diwethaf ymhlith pobl ifanc ac mae dipyn o sylw i effeithiau'r cyffur ar ddefnyddwyr yn y rhaglen, meddai Zahra: "Er 'mod i ddim yn meddwl fedri di roi barn ar pa gyffur sy' mwya' peryglus gan fod hi lawr i faint ti'n defnyddio, Ketamine yw'r un sy' 'di shocio fi fwya'. Mae wedi dod mwy poblogaidd."

Un o gyn ddefnyddwyr y cyffur yw Ollie o dde Cymru a oedd yn gaeth i ketamine am wyth mlynedd. Mae'n dweud yn y rhaglen fod y cyffur wedi effeithio yn ddifrifol ar ei gorff, yn arbennig ar ei bledren.

Meddai Zahra: "Mae Ollie wedi gorfod cael syrjeri i dynnu ei bledren yn gyfan gwbl ac mae nawr yn byw efo bag stoma.

"Mae'n ddatblygiad mawr mewn bywyd rhywun ifanc.

"Oedd hwnna wedi agor fy llygaid i'r niwed mae'r cyffur yn gallu gwneud.

"Mae mwy o heip o amgylch ketamine a'r ochr mwy peryglus ar hyn o bryd ond mae cocên hefyd yn gallu cael effaith."

Ollie'n dangos ei fag stoma yn y rhaglenFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ollie'n dangos ei fag stoma yn y rhaglen

Cymunedau

Nid yw'r defnydd o gyffuriau yng nghefn gwlad yn syndod i Zahra gyda un cyfrannydd ar y gyfres yn dweud am ei ardal: "Does dim unrhyw le i fynd, does dim escape gen ti."

Meddai Zahra: "Mewn llefydd distaw mae pobl yn mynd i'r gwaith ac yn aml yn labro neu gweithio yn hospitality. Fel ffordd i ymlacio ti'n mynd i'r pyb ac unwaith mae un person o'r gymuned yn cyflwyno cocên i'r mix mae'n rhywbeth ecseiting."

Mae'r diffyg adnoddau a gwasanaethau hefyd yn broblem fawr yn ôl Zahra: "Mae mwy o adnoddau a gwasanaethau yn y dinasoedd. Mae wedi cael ei wneud yn anodd iawn iddyn nhw [yng nghefn gwlad] i ffeindio help."

Neges Zahra yw fod stori bersonol gan bob un sy'n defnyddio cyffuriau: "Yn amlwg dwi wedi bod mewn cylchoedd lle dwi wedi nabod pobl sy' wedi bod yn gaeth i gyffuriau.

"Mae cyffuriau wedi bod o amgylch fi ers fy arddegau.

"Dwi'n meddwl dyna oeddwn i eisiau amlygu drwy'r gyfres... pobl ydy pobl er gwaetha'r cyffur maen nhw'n gymryd. Mae 'na stori i bawb.

"Oedd agwedd fi yn eitha agored – dydi'r rhaglenni ddim wedi newid y ffordd dwi'n edrych ar bobl sy'n cymryd cyffuriau ond mae wedi agor fy llygaid i i'r ochr mwy peryglus o bethau.

"Mae cyffuriau yn gallu 'neud lot o niwed pan maen nhw'n cael eu gwneud mewn ffordd eithafol."

Os yw'r stori hon wedi effeithio arnoch mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.