Wrecsam allan o Gwpan yr FA ar ôl colli yn erbyn Chelsea

Sam Smith yn bwrw i lawr ar y gôl
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam allan o Gwpan yr FA ar ôl colli yn erbyn Chelsea yn amser ychwanegol ym mhumed rownd y gystadleuaeth.
2-4 oedd y sgôr yn y Cae Ras nos Sadwrn, gyda'r goliau yn dod gan Sam Smith a Callum Doyle i Wrecsam ac Arthur Okonkwo yn rhoi'r bêl yn rhwyd ei hun cyn i Josh Acheampong, Alejandro Garnacho a João Pedro sgorio i'r gwrthwynebwyr.
Dyma oedd y tro cyntaf i Wrecsam gyrraedd y bumed rownd ers bron i 30 mlynedd.
Mae'r Dreigiau yn chweched yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd a'n gobeithio sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Callum Doyle a Sam Smith ar ôl sgorio gôl gyntaf y gêm
Fel y bysai Phil Parkinson wedi disgwyl cyn y gêm, roedd Chelsea yn rheoli'r meddiant o'r gic gyntaf.
Ond roedd pethau'n ddigon cyfforddus i Wrecsam am y chwarter awr gyntaf, gyda'r pwysau'n cael ei leddfu yn aml wrth iddyn nhw ennill y bêl yn ôl yn hanner y gwrthwynebwyr.
Gyda 17 munud ar y cloc a'r meddiant gyda Wrecsam, fe wnaeth yr amddiffynnwr Callum Doyle saethu pêl wych dros y top tuag at Sam Smith a enillodd ei frwydr gyda Tosin Adarabioyo cyn gyrru'r bêl heibio'r golwr ac i mewn i'r rhwyd.
Er bod Chelsea yn parhau i reoli'r meddiant, roedd gwaith pwyso oddi ar y bêl gan Wrecsam yn gwneud bywyd yn anodd iddyn nhw wrth i ymosodiadau ddod i ben cyn iddyn nhw ddechrau.
Ar ôl 30 munud, cafodd Smith gyfle i ymestyn y sgôr ond iddo ddisgyn yn y bocs ar ôl rhediad addawol o'r asgell chwith.
Ychydig o funudau wedyn daeth ergyd cyntaf Chelsea o'r gêm ond fe wnaeth y golwr Arthur Okonkwo redeg oddi ar ei lein yn gynnar i neidio ar y bêl wrth iddyn nhw dorri trwy'r amddiffyn wrth ymyl y bocs.
Ychydig o funudau wedyn, fe wnaeth Liam Delap basio'r bêl i Garnacho a ergydiodd wrth gamu i mewn o'r asgell chwith.
Aeth y bêl heibio Okonkwo ac am eiliad roedd George Thomason yn meddwl ei fod wedi atal gôl ond i'r bel a gliriodd oddi ar y lein daro Okonkwo yn ôl i mewn i'r rhwyd i wneud y sgôr yn 1-1 ar ddiwedd yr hanner.

Cafodd George Dobson gerdyn coch am dacl gwael ar Garnacho
Ychydig o funudau i mewn i'r ail hanner ac roedd Wrecsam ar y droed flaen unwaith eto.
Daeth pedwerydd ergyd o'r gêm i Wrecsam gan yr amddiffynnwr Max Cleworth a beniodd dros y gôl yn dilyn cic cornel.
Gydag awr o'r gêm wedi mynd, roedd Wrecsam yn parhau i roi Chelsea dan bwysau a daeth cyfle gorau'r hanner i'r Dreigiau ar ôl pas llac gan y golwr Sanchez.
Er i Chelsea weld mwy o'r bêl yn y cyfnod a ddilynodd, Wrecsam oedd y tîm a oedd yn edrych y fwyaf tebygol o sgorio ail gôl - yn achosi trafferth i amddiffyn y gwrthwynebwyr ac yn ennill cyfres o giciau cornel yn y broses.
Daeth yr ail gôl o'r diwedd ar ôl i ergyd wrth ymyl y bocs gan Ryan Longman daro Doyle i fynd heibio'r golwr.
Ond nid oedd Wrecsam ar y blaen am hir, ac o fewn pedwar munud roedd y sgôr yn gyfartal unwaith eto ar ôl i Josh Acheampong wneud y mwyaf o lithriad gan George Dobson wrth ymyl y bocs.
Aeth Chelsea yn agos i sgorio am y trydydd tro ar ôl i ergyd gan João Pedro daro ffrâm y gôl.
Ond yn dilyn yr ergyd honno aeth Wrecsam i lawr i 10 ar ôl i Dobson dderbyn cerdyn coch am dacl gwael ar Garnacho wedi i VAR ymyrryd.

Gyda Wrecsam i lawr i 10, roedd y rhan helaeth o'r amser ychwanegol yn cael ei chwarae yn hanner y tîm cartref.
Ar ôl bod dan bwysau ers i'r gêm ailddechrau, fe wnaeth Alejandro Garnacho roi Chelsea ar y blaen gydag ergyd ger y postyn pell yn dilyn croesiad gan Dário Essugo.
Gyda 10 munud yn weddill, cafodd Wrecsam gic rydd wrth ymyl y bocs yn dilyn trosedd ar Kieffer Moore, ond i Josh Windass fethu'r targed.
Am ychydig o eiliadau roedd Lewis Brunt yn meddwl ei fod wedi sgorio'r trydydd i Wrecsam ar ôl peniad gan Moore o gic cornel ond i VAR ddyfarnu ei fod yn camsefyll.
Ac wrth i'r gêm ddod i ben, fe wnaeth João Pedro sgorio'r pedwerydd i Chelsea i sicrhau eu lle yn yr wyth olaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.