Ai 'Deadeye Jac' o Flaenau Ffestiniog fydd dyfodol dartiau Cymru?

Jonny ClaytonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymro Jonny Clayton sydd ar frig yr Uwchgynghrair Dartiau ar hyn o bryd

GanRhodri Tomos
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Am wlad fechan, mae Cymru yn gwneud yn rhyfeddol o dda yn y byd dartiau.

Cymro oedd y pencampwr byd cyntaf erioed yn 1978 pan gipiodd Leighton Rees y teitl.

Erbyn heddiw mae pump o Gymry wedi bod yn bencampwyr byd, gyda Gerwyn Price y diweddaraf i gyflawni'r gamp.

Ar ben hynny, y Cymro Jonny Clayton sydd ar frig tabl Uwchgynghrair Dartiau'r Byd wrth i'r gystadleuaeth ddod i Gaerdydd nos Iau (5 Mawrth).

Jac Dei ReynoldsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd Jac Dei Reynolds y 32 olaf ym mhencampwriaeth Meistri Ifanc y Byd yn ddiweddar

Ond beth am y genhedlaeth nesaf - y genhedlaeth ifanc?

Y pencampwr byd presennol yw Luke 'The Nuke' Littler sydd ond yn 19 oed.

Un sy'n gobeithio dilyn ôl ei draed yw Jac Dei Reynolds o Flaenau Ffestiniog, sydd eisoes yn gwneud ei farc yn y gamp ar lwyfan y byd yn 15 oed.

Bu'n sgwrsio gyda Aled Hughes ar ei raglen ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar.

Jac Dei ReynoldsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â chystadlu yn erbyn goreuon y byd yn ei grŵp oedran, mae Jac Dei hefyd ar frig ei gynghrair leol ym Mlaenau Ffestiniog ym mhob oedran

"Fues i'n cystadlu yn y Junior World Masters yn Milton Keynes yn ddiweddar ac es i drwodd i'r 32 olaf, sy'n grêt," meddai Jac Dei.

"Dwi'm yn dda iawn yn maths yn yr ysgol, ond dwi'n g'neud y maths i gyd fy hun wrth chwara... dwi jyst yn gwbod be' dwi angen.

"Fyddai'n ymarfer am o leia' awr neu ddwy bob dydd. Dwi jyst yn dal i chwara' tan mod i'n gwella.

"Dwi hefo Academi Dartiau Gwynedd, a 'da ni'n gorfod neud challenge bob wythnos i benderfynu ar ein ranking. Dyna sut dwi'n mynd drwodd i'r competitions mawr yma.

"Hefyd dwi'n chwarae yn y league yma yn Blaenau ac ar y funud dwi'n top - number 1!"

Luke LittlerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Luke 'The Nuke' Littler yn cipio pencampwriaeth y byd am yr eildro ym mis Ionawr eleni

Mae gan bob chwaraewr dartiau proffesiynnol lysenw, o Luke 'The Nuke' Littler a Gerwyn 'The Iceman' Price i Jonny 'The Ferret' Clayton, felly beth yw llys enw Jac Dei?

"O'n i'n gwylio teledu hefo dad rhyw noson ac oedd rhyw foi ymlaen hefo llygad cam o'r enw Deadeye.

"Mae'r un peth gen i so dyma dad yn deud 'dyna chdi - gei di alw dy hun yn Deadeye Jac'."

Cofiwch yr enw, a dilynwch y dartiau dros y blynyddoedd i ddod!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig