Y Cymro sy'n chwarae ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd

144 yw safle David Davies yn rhestr chwaraewyr dartiau gorau'r byd
- Cyhoeddwyd
Mae gan David Davies "ddigon o dalent i guro Luke Littler" yn ôl un o'i gyd-chwaraewyr dartiau.
Mae Davies, 40 oed, o Ddinbych yn paratoi i chwarae ei gêm gyntaf erioed ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd ddydd Sadwrn ar ôl ennill twrnamaint rhagbrofol y DU ac Iwerddon ddechrau fis Tachwedd.
"Dwi mor gyffrous, dwi'n nerfus, dwi jyst methu aros," meddai Davies wrth siarad gyda Cymru Fyw.
"Mae'n amhosib gwybod sut mae'n mynd i fynd.
"Dwi'n chwarae'n dda ond ti'n gallu troi lan wedi ennill y 100 gêm ddiwethaf a cholli.
"Mae popeth ar y diwrnod."
Ond yn ôl Deian Roberts, sy'n dod o ardal Corwen yn Sir Ddinbych ac sydd wedi cynrychioli Cymru ochr yn ochr â Davies yn y gorffennol, mae ganddo siawns go dda o lwyddo.
"Mae o'n chwarae'n reit dda ar y funud ac mae o wedi cael blwyddyn arbennig yn gyffredinol," meddai Deian.
"Mae o wedi ennill sawl cystadleuaeth wahanol, gan gynnwys cwpan y byd gyda Chymru, felly mae o reit ar dop ei gêm."

Mae Davies yn sicr o ennill £15,000 hyd yn oed os yw'n colli ei gêm gyntaf
Mae Davies wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn rhannu ei amser rhwng ei swydd lawn amser o fewn y gwasanaeth iechyd a chwarae yn ail haen y PDC (The Professional Darts Corporation).
Y flwyddyn ddiwethaf yw ei flwyddyn fwyaf llwyddiannus yn y byd dartiau hyd yma.
Chwaraeodd ran allweddol yn llwyddiant Cymru yng nghwpan y byd yn Ne Corea, enillodd y PDC Challenge Tour a'r Red Dragon Champion of Champions.
Yna daeth ei lwyddiant diweddaraf yn y twrnamaint rhagbrofol sydd wedi ei gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Dartiau'r Byd.
"Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod y twrnamaint rhagbrofol yn bodoli," meddai Davies.
"Digwydd bod gwnaeth rhywun sôn am y peth tra o'n i allan yn Ne Corea ar gyfer Cwpan y Byd.
"Ar ôl dod nôl 'nes i edrych mewn iddo fe a gweld bod modd chwarae am gost o £90, felly dyna 'nes i a 'nes i ennill."
Mae cymhwyso ar gyfer prif ddigwyddiad dartiau'r flwyddyn ym Mhalas Alexandra yn Llundain yn dod â gwobrau ariannol.
Bydd Davies yn derbyn £15,000 hyd yn oed os bydd yn colli yn rownd gyntaf y gystadleuaeth.
Mae enillydd y bencampwriaeth yn ennill £1 miliwn.

Mae Richard-Eirig Rowlands a Davies wedi chwarae i dîm dartiau Gwynedd gyda'i gilydd
Ond, gydag enwau adnabyddus y byd dartiau yn y gystadleuaeth, fel Luke Littler, Gerwyn Price a Luke Humphries, mi fydd hi'n "sialens heriol iawn" i Davies medd un o'i gyn gyd-chwaraewyr ar dîm dartiau Gwynedd, Richard-Eirig Rowlands.
"Mae'n mynd i fod yn hynod o anodd, yr her fwyaf mae o wedi ei wynebu ers dechrau chwarae.
"Bydd o'n gorfod cymryd hi one round at a time a gobeithio gallith o fynd heibio'r rownd gyntaf yna."
Ond mae Rowlands, enillydd Pencampwriaeth Dartiau Cymru 2025, yn ffyddiog y gall Davies brofi llwyddiant.
"Dwi'n gwybod bod o'n mynd i mewn efo'r mentality bod o'n gallu ennill a hynny sy'n bwysig.
"Mae'n ddigon anodd i chwarae yn ei erbyn yn fy mhrofiad i.
"Mae ganddo'r gallu ac mae'r gwaith caled mae wedi rhoi mewn dros y blynyddoedd diwethaf yn talu."
'Un yr un' rhwng Littler a Davies
Bydd Davies yn wynebu Mario Vandenbogaerde yn y rownd gyntaf.
Os yn llwyddiannus bydd chwaraewr gorau'r byd ar hyn o bryd, Luke Littler, yn aros amdano yn yr ail rownd ar ôl curo Darius Labanauskas o Lithuania ddydd Iau.
"Littler yw enw mwya'r gamp ar hyn o bryd, mae'n anhygoel beth mae o wedi gwneud," meddai Davies.
"Mae'n anodd credu gallwn i chwarae yn ei erbyn o ar lwyfan mwyaf darts.
"Mae clywed pethau fel 'na a fy enw i yn yr un frawddeg ddim yn swnio'n iawn."
Nid dyma fyddai'r tro cyntaf i Davies chwarae yn erbyn Littler.
"Dwi wedi chwarae a churo Littler yn y gorffennol mewn cystadleuaeth ar Ynys Manaw.
"Dwi'n meddwl oedd o'n 13 oed ar y pryd, ond rhowch hwnna i un ochr, dwi dal yn cyfri hi fel buddugoliaeth.
"Curodd Littler ein hunig gêm arall ni hyd yn hyn, felly un yr un yw hi ar hyn o bryd."

Mae Deian a David wedi chwarae yn erbyn ei gilydd ac wedi bod ar yr un tîm sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf
Bydd ail rownd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng 20 a 23 Rhagfyr.
Mae Deian Roberts yn teimlo'n hyderus y gall Davies guro Littler, os yw'n ennill ei gêm gyntaf.
"Dwi'n meddwl bod gyda fe'r dalent i guro Littler," meddai.
"Mae'n reit anodd chwarae yn ei erbyn o (Davies) chwarae teg achos os mae'n cael rhw sgôr sâl mae o wastad yn dod 'nôl a sgorio 180 neu 140 sy'n dod â fo syth nôl i'r gêm.
"Yn amlwg mae'n dibynnu ar y diwrnod, fel maen nhw'n dweud, ond dwi'n gobeithio ceith o hwyl golew yn y gêm gyntaf.
"A bydd e'n exposure grêt os mae fe'n chwarae Littler."
Bydd Davies yn chwarae ei gêm gyntaf am 12:30 ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr.