Reform yn blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol

Arweinydd Reform UK, Nigel Farage, yn cyflwyno Dan Thomas fis diwethafFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Reform UK, Nigel Farage, yn cyflwyno Dan Thomas fis diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Reform yn dweud y bydden nhw'n blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol os bydd yn ennill etholiad nesaf y Senedd.

Bydd y blaid yn lansio ei maniffesto ddydd Iau yng Nghasnewydd, gan addo dileu'r terfyn cyflymder 20mya ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.

Dywedodd Reform y byddai'n blaenoriaethu tai cymdeithasol "yn seiliedig ar breswylfa hirdymor" pe bai'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Bydd y blaid hefyd yn addo "cefnogi'r iaith Gymraeg" medden nhw.

Dywedodd Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, fod y "maniffesto yn gynllun ar gyfer newid go iawn".

Reform yw'r ail blaid i gyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd - dogfen sy'n nodi'r addewidion y mae plaid yn eu gwneud i bleidleiswyr.

Dan arweiniad Nigel Farage yn y DU, y gred ydy bod Reform yn cystadlu â Phlaid Cymru i fod y brif blaid wedi'r bleidlais ar 7 Mai, yn ôl polau piniwn.

Dywedodd Thomas, a benodwyd gan Farage ym mis Chwefror ac sy'n gyn-arweinydd cyngor yn Llundain: "Gyda'r glasbrint hwn, mae gennym yr holl flociau adeiladu i ddod â chenhedlaeth o ddirywiad i ben yma yng Nghymru."

Dywedodd Farage, a fydd hefyd yn mynychu'r digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Iau: "Mewn ymgyrch etholiad i'r Senedd sydd wedi'i nodweddu gan economeg ffantasi gan y pleidiau eraill, mae'r ddogfen hon yn gynllun difrifol i gyflawni'r newid gwirioneddol y mae Cymru'n ei haeddu."

Rhoddodd Reform grynodeb o rai manylion y maniffesto dros nos - gan gynnwys y byddai'n blaenoriaethu "Cymry ar gyfer tai cymdeithasol".

Pan ofynnwyd iddynt beth oedd hynny'n ei olygu, a phwy fyddai'n cael ei ystyried yn Gymry, dywedodd llefarydd Reform: "Mi fydd yn seiliedig ar breswylfa hirdymor".

Dywedodd y blaid y byddai'n cael gwared ar gymorth rhyngwladol ac yn lle hynny'n "gwario arian trethdalwyr yng Nghymru".

Fel arfer, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gymorth rhyngwladol, er bod £1m wedi'i glustnodi ar gyfer "datblygu cynaliadwy rhyngwladol" yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27.

'Uwchraddio ffyrdd allweddol'

Mae'r blaid yn addo cynnal refferenda os bydd awdurdodau lleol yn codi treth y cyngor mwy na 5%, yn debyg i bolisi a lansiwyd gan y Torïaid yn gynharach yr wythnos hon.

Addawodd Reform "uwchraddio ffyrdd allweddol" gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 yn ne Cymru a'r A55 yng ngogledd Cymru - yn debyg i addewidion a wnaed gan y Ceidwadwyr.

Dywedodd y byddai'n "dileu" terfynau 20mya diofyn. Dywedodd y Torïaid hefyd y bydden nhw'n gwrthdroi'r terfyn ac yn "mabwysiadu dull wedi'i dargedu".

Dywedodd Reform "y bydd gwasanaeth iechyd Cymru bob amser yn parhau i fod yn rhad ac am ddim" ac y byddai'n "addo torri rhestrau aros, rhoi terfyn ar ofal coridorau a diogelu'r GIG ar gyfer y dyfodol trwy uwchraddio ysbytai a seilwaith digidol".

Byddai'r cynllun ffermio cynaliadwy - y cynllun dadleuol sydd wedi disodli cyllid ffermio'r Undeb Ewropeaidd - yn cael ei ddiwygio i "adael i ffermwyr ffermio", meddai Reform, gan ychwanegu y byddai'n gweithio gyda ffermwyr i gyflawni strategaeth fwyd 10 mlynedd.

Bydd Reform yn lansio'r maniffesto yng Nghasnewydd.

Mae wedi gwahodd aelodau'r blaid, a fydd yn talu £5 yr un, i'r digwyddiad, yn ogystal â'r wasg.

Mae dau AS Ceidwadol wedi ymuno â'r blaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - Laura Anne Jones a James Evans. Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones, hefyd wedi ymuno â'r blaid.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.