'Roedd rhaid parhau â gêm rygbi, er anaf pen a gwaed ar fy nghrys'

Ross Coombs mewn top hoody du yn sefyll mewn clwb rygbi gan edrych yn syth i'r camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross Coombs wedi cael diagnosis dementia cynnar a chyflwr yr ymennydd sy'n gysylltiedig ag ergydion niferus i'r pen

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewyr rygbi amatur sydd â dementia cynnar yn dweud eu bod wedi eu gadael gyda "dim cymorth a dim gobaith".

Mae'r cyn-filwr a chyn-blismon Ross Coombs, 43, a gapteiniodd dimau Byddin Prydain a chlybiau yn ne Cymru, wedi cael diagnosis dementia cynnar a CTE (Chronic Traumatic Encephalopathy) tebygol - cyflwr yr ymennydd sy'n gysylltiedig ag ergydion niferus i'r pen.

Dywed Ross, sy'n cofio gorfod parhau â gêm rygbi wedi anaf pen a adawodd ei grys "yn soeglyd" o waed, bod cefnogaeth feddygol ac ariannol "ddim yn bodoli".

Dywed Llywodraeth Cymru bod cefnogaeth ar gael i gyn-chwaraewyr trwy Wasanaethau Asesu Cof a Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru, ac y dylai gwasanaethau dementia "fod yn ymwybodol o risg CTE".

Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at deimladau hunanladdol.

Fe ddechreuodd Ross chwarae rygbi yn naw oed, cyn ymuno â'r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol (REME) yn 16 oed a chwarae'n fuan wedyn yn nhîm y gatrawd.

Aeth ymlaen i chwarae rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair dros y Fyddin a'r lluoedd arfog cyfun, a chwarae gemau clwb ar benwythnosau.

Fe gapteiniodd dimau Merthyr a Threcelyn, cyn chwarae i glybiau eraill fel Casnewydd, Nelson, Blaenafon, Bargoed a Mynwy.

Fel swyddog heddlu chwaraeodd i dîm Heddlu De Cymru.

"Ar un pwynt, rhwng rygbi'r gynghrair a rygbi'r undeb, ro'n i'n chwarae tua 50 gêm y flwyddyn," meddai.

Mae Byddin Prydain, Undeb Rygbi Cymru a chorff World Rugby wedi cael ceisiadau am ymateb.

Ross yn ystod gêm rygbi, yng nghanol nifer o chwaraewyr eraill - mae'r bêl yn ei law chwith ac mae'n gafael yn ei wyneb gyda'r law dde Ffynhonnell y llun, Gareth Roberts Photography
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ross nad yw'n cofio'r rhan fwyaf o'r gêm yma oherwydd anaf i'r pen ychydig cyn tynnu'r llun

Tra'n chwarae, fe ddioddefodd Ross waedu rhydwelïol, fe gollodd ddannedd, ac fe gafodd sawl anaf pen a chyfergyd.

Mae'n disgrifio gorfod parhau i chwarae ar ôl cael ei daro'n anymwybodol.

"Roedd yn gyfnod eithaf macho," meddai.

Un o'r anafiadau gwaethaf, dywedodd, "ac mae'r creithiau'n dal yna", oedd "torri twll llygad, asgwrn boch a'r gên", ac mae'n cofio "parhau i redeg mewn panig" wedi'r ergyd.

Bu'n rhaid gosod platiau metel yn ei wyneb.

Yn aml, yr unig driniaeth feddygol bosib oedd sbwnj wlyb, oedd yn cael ei alw'n "magic sponge".

Wedi un achos o daro pennau, dywedodd bod ei grys "yn soeglyd o waed", ond fe gafodd orchymyn i "roi vaseline ar hwnna, newidia dy grys a dychwela i'r maes".

Erbyn hyn mae Ross yn rhwystredig na chafodd chwaraewyr "eu diogelu'n well".

"Mae'n rhwystredig meddwl y gellid fod wedi atal hyn - galluogi pobl i gario ymlaen a rhoi eu hunain dan y fath risg."

Dan ganllawiau World Rugby mae chwaraewyr elît nawr ond yn cael chwarae hyd at 30 gêm llawn y flwyddyn.

Ross yn lifrai'r Fyddin yn ysgwyd llaw â'i dad, Jon, ar ddiwrnod seremoni nodi cwblhau hyfforddiant ymuno â'r FyddinFfynhonnell y llun, Ross Coombs
Disgrifiad o’r llun,

Ross yn ysgwyd llaw â'i dad, Jon, ar ddiwrnod seremoni nodi cwblhau hyfforddiant ymuno â'r Fyddin

Fe gafodd Ross ddiagnosis dementia cynnar a CTE yn 2024.

Gall symptomau CTE gynnwys newidiadau tymer ac ymddygiad, a phroblemau cofio a symud. Mae ond yn bosib cadarnhau diagnosis swyddogol o'r cyflwr wedi marwolaeth person.

"Ar yr wyneb, ry'ch chi'n ceisio ymddangos eich bod yn iawn ond tu mewn ry'ch chi'n gwybod nad ydych chi," dywedodd.

Mae'n dweud iddo gael "meddyliau hunanladdol, iselder a cholli'r cof" ac ni allai gofio genedigaeth ei fab.

"Yn llythrennol, ni alla'i gofio bod yn yr ystafell - ni alla'i gofio dim o'i blentyndod."

Mae ei frawd, cyn-glo Cymru Andrew Coombs, 41, wedi cael diagnosis o'r un cyflyrau.

"Does dim gwybod beth sydd rownd y gornel i ni," meddai Ross.

Mae World Rugby ac Undeb Rygbi Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod wedi ymdrechu i ddiogelu chwaraewyr.

Cefnogaeth 'ddim yn bodoli'

Cynyddu mae pryder ymhlith cyn-chwaraewyr amatur ynghylch pa mor eang yw'r broblem.

"Mae'r gefnogaeth a gofal - dyw e ddim yn bodoli, does dim byd yna," meddai Ross.

Roedd cyn-chwaraewr arall, nad yw'r BBC am enwi er lles ei deulu, yn aelod o dimau gan gynnwys tîm dan-21 Cymru. Fel chwaraewr ieuenctid roedd yn yr un carfanau â rhai o chwaraewyr amlycaf y gêm.

Dywedodd ei fod wedi ystyried lladd ei hun gan deimlo ei fod wedi ei adael â "dim help a dim gobaith".

Mae rhai cyn-chwaraewyr yn ofni trafferthion talu'r morgais a chynnal eu teuluoedd petai'n rhaid rhoi'r gorau i chwarae yn gynnar.

"Does dim cefnogaeth, does dim byd o gwbl," meddai Ross. "Rwy' wedi gweld dau niwrolegydd [a] doedd yr un ohonyn nhw ag unrhyw ddealltwrieth ddwfn ynghylch CTE."

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'n ymchwilio ar hyn o bryd i gadarnhau pa mor gyffredin yw CTE ymhlith cyn-chwaraewyr, nac yn ymwybodol o unrhyw waith ymchwil arall.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi rhannu Canllaw Cyfergyd y DU gyda byrddau iechyd, clybiau chwaraeon a chyrff llywodraethu yn 2023.

Ross yn eistedd ar gadair mewn clwb rygbi wrth gael ei holi gan ohebydd sydd â'i gefn at y camera
Disgrifiad o’r llun,

Siaradodd Ross gyda'r BBC yn yr ystafell yng Nglwb Rygbi Nelson sydd wedi ei henwi i anrhydeddu ei frawd Andrew Coombs

"Un o'r pethau sydd bellach yn hollbysig i mi yw sicrhau bod fy nheulu'n iawn yn ariannol," medd Ross, sy'n ceisio cael arian pensiwn yn gynnar gan y Fyddin a'r heddlu.

Fel sawl cyn-chwaraewr arall, mae hefyd yn ceisio cael arian polisi yswiriant.

"Wnes i drio hawlio arian o fy mholisi salwch critigol, dan y categori anaf ymenyddol trawmatig [a] darparu sgan sy'n nodi'n glir niwroddirywiad o fewn yr ymennydd."

Mae'n dweud i'r cais gael ei wrthod gan nad yw ei adroddiad meddygol yn cynnwys y cymal "marwolaeth meinwe ymenyddol".

Mae ei gwmni yswiriant, Legal and General, wedi ymddiheuro dros "unrhyw ofid neu rwystredigaeth" a gafodd ei achosi yn ystod y broses hawlio a chynnig £450 mewn iawndal, ond yn dweud nad yw diffiniad anaf trawmatig i'r ymennydd yn cynnwys CTE.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae tîm meddygol y cwsmer wedi cynnig sganiau pellach, ac rydym wedi dweud wrtho y gallen ni roi ystyriaeth bellach i'r cais os yw canlyniadau'r rhain yn cael eu darparu."

Cyn-gapten Cymru Ryan Jones yn dathlu ennill pencampwriaeth y Chwe GwladFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-gapten Cymru a'r Llewod, Ryan Jones, ymhlith cannoedd o gyn-chwaraewyr sy'n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyrff llywodraethu rygbi

Mae Ross ymhlith cannoedd o gyn-chwaraewyr rygbi - gan gynnwys cyn-gapten Cymru, Ryan Jones - sy'n mynd â chyrff llywodraethu rygbi i'r gyfraith gan honni eu bod wedi dioddef anafiadau pen tra'n chwarae.

Mae'n ofni bod graddfa'r sefyllfa heb ei gydnabod hyd yn hyn, ac yn dweud ei fod wedi gweld newidiadau ymhlith ffrindiau a chyn-chwaraewyr.

"Rwy' 100% yn bendant bod llawer o bobl sy'n debyg iawn i mi, wedi chwarae ar yr un lefel - heb y meddygon - oedd yr gorfforol iawn, gyda niwroddirywiad a CTE posib," meddai.

"Mae'n rhaid bod 'na filoedd o bobl yn yr un cwch â minnau."

Lesley Butcher - menyw gwallt golau mewn top du, sgarff binc a sbectol, yn sefyll mewn ward ysbyty ymarfer, gyda sawl gwely gwag yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ynghylch CTE, medd yr arbenigwr dementia Lesley Butcher

Yn ôl Lesley Butcher, arbenigwr dementia, nyrs gofrestredig ac uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae llawer o gleifion "â phryderon sut maen nhw am dalu'r morgais, ydyn nhw'n mynd i anghofio enwau eu plant, wynebau eu gwragedd, ydyn nhw am allu gweithio eto?"

Dywedodd bod "meini prawf diagnostig cymhleth" CTE yn golygu bod y cwestiwn o ba mor gyffredin yw'r cyflwr "heb ei wir gadarnhau".

"Ni allwn roi diagnosis o'r cyflwr nes i rywun farw, sydd ddim yn helpu," dywedodd.

"Mae'n anodd... y meddyg teulu yw'r pwynt cysylltiad cyntaf. Heb fod eisiau cyffredinoli, ond does dim astudiaethau wedi bod i gadarnhau pa mor ymwybodol yw meddygon teulu o CTE.

"Mae angen i'r gwasanaeth iechyd fynd ati er mwyn nodi hynny."

Ychwanegodd bod yna botensial am "densiwn" a "rhwystredigaeth" os yw cyn-chwaraewyr yn ceisio cael gwasanaethau iechyd, arian yswiriant a phensiynau cynnar "gan fod dim meini prawf diagnostig cadarn".

'Hyfforddi canfod dementia yn gynnar'

Dywedodd Llwydoraeth Cymru: "Does dim triniaeth benodol ar gyfer CTE, ac mae diagnosis pendant ond yn bosib wedi marwolaeth.

"Fodd bynnag, mae Gwasanaethau Asesu Cof ar draws Cymru'n gweithio i nodi dementia'n gynt trwy gryfhau cysylltiadau gyda meddygon teulu a chymunedau, hybu iechyd yr ymennydd a chefnogi diagnosis amserol.

"Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i wasanaethau dementia fod yn ymwybodol o risg CTE ble mae hanes o drawma i'r pen.

"Gall cyn-chwaraewyr gael cefnogaeth trwy Wasanaethau Asesu Cof a'r Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru."

Ychwanegodd bod "gwaith cenedlaethol dan arweiniad Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cynnwys darparu hyfforddiant i feddygon teulu i wella canfod dementia yn gynnar".

Mae Byddin Prydain, Undeb Rygbi Cymru a World Rugby wedi cael ceisiadau am ymateb.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd World Rugby, Undeb Rugby Cymru a'r RFU: "Gan weithredu ar y wyddoniaeth, tystiolaeth ac arweiniad arbenigol annibynnol diweddaraf, rydym yn gyson yn ymdrechu i ddiogelu a chefnogi ein holl chwaraewyr - boed yn chwaraewyr y dyfodol, y presennol neu'r gorffennol."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.