Lluniau: 20 mlynedd ers agor Y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae 1 Mawrth eleni'n nodi 20 mlynedd ers agoriad swyddogol adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.
Pleidleisiodd Cymru o blaid datganoli ar 18 Medi, 1997, a arweiniodd at sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dros y blynyddoedd fe esblygodd y sefydliad i fod yn Senedd gyda phwerau cynradd, ac fe fydd yr etholiadau nesaf ar 7 Mai eleni.`
Cafodd y tir ei dorri ar y lleoliad ar Ddydd Gwyl Dewi 2001, gan nodi dechrau ffurfiol i'r gwaith adeiladu.
Dyma gasgliad o luniau o'r adeilad eiconig dros y blynyddoedd.

Dechrau'r gwaith ym Mae Caerdydd. Cafodd dros 16,700 tunnell o goncrid ei ddefnyddio i ffurfio sylfaen a phrif strwythur y Senedd

Canolfan y Mileniwm ac adeilad y Pierhead i'w gweld yn y cefndir

Cynhaliodd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain gystadleuaeth ryngwladol i benderfynu pwy fyddai'n dylunio'r adeilad newydd. O'r 55 ymgeisydd yn y gystadleuaeth, Partneriaeth Richard Rogers ddaeth i'r brig

Y twndis yn cael ei rhoi mewn lle. Fe wnaeth to'r Senedd ddefnyddio 421 tunnell o ddur gyda 21,900 o folltiau a 2,088 o gysylltiadau. Daeth y dur a ddefnyddir yn y Senedd o Corus (Tata Steel) ym Mhort Talbot

Siambr Hywel, ble roedd yr aelodau yn eistedd tra bod y Senedd yn cael ei hadeiladu, ac yn ystod y gwaith i ehangu'r Senedd yn ddiweddar

Agorwyd y Senedd yn swyddogol gan Y Frenhines, yng nghwmni Dug Caeredin, y Tywysog Charles a Duges Cernyw. Yma, mae'r teulu brenhinol yng nghwmni'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan

Y Frenines Elizabeth II a'r Llywydd ar y pryd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn cerdded mewn i'r siambr yn ystod yr agoriad swyddogol

Y Tywysog Charles, fel oedd ar y pryd, yn cyfarfod â'r cyhoedd ar y grisiau o flaen y Senedd

Cafodd to'r Senedd ei gynllunio'n arbennig i gasglu dŵr glaw, sy'n cael ei storio mewn dau danc enfawr o dan yr adeilad

Mae adeilad y Pierhead (yr adeilad coch) yn gartref i tua 20,000 o wenyn, sy'n byw mewn dau gwch gwenyn ar y to. Bydd y nifer yn cynyddu i tua 50,000 yn ystod yr haf

Ar 6 Mai, 2020 daeth y newid enw yn swyddogol, pan cafodd yr enw 'Cynulliad' ei ollwng, a'r Senedd/Parliament ei ddefnyddio'n gyfreithiol

Mae'r llechi sydd i'w gweld yn y Senedd yn dod o Gwt-y-Bugail, ger Llan Ffestiniog. Mae'r lloriau mewnol, y grisiau a'r ardal o gwmpas y Senedd i gyd yn defnyddio'r llechen hon

Mae'r Senedd wedi defnyddio mwy na 1,000 tunnell o lechi Cymreig sy'n gorchuddio tua 10,000m2

Mae'r gedrwydden, a ddaw o goedwigoedd cynaliadwy yng Nghanada, yn hawdd iawn gofalu amdano. Mae'n naturiol yn gallu gwrthsefyll pydru, a'r lliw'n goleuo'n raddol wrth iddo heneiddio.
Mae'r dodrefn yn yr oriel wylio gyhoeddus a'r Siambr yn defnyddio derw Cymreig

Un o'r mannau gorau i weld y mannau agored yn y Senedd, ac allan am Fae Caerdydd a Phenarth yn y pellter

Un o'r grisiau sydd bob ochr i'r brif fynedfa

Y Siambr gyda lle i 60 o aelodau

Yr oriel wylio, ble mae'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd yn gallu dod i graffu ar waith y gwleidyddion

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn ateb cwestiynau gan y gwrthbleidiau yn ddiweddar

Y Byrllysg sy'n eistedd yn y siambr. Cafodd ei roi i'r Senedd pan agorwyd yn 2006, fel rhodd gan Llywodraeth New South Wales yn Awstralia

Rhes arall o ddesgiau yn cael eu gosod ar gyfer yr aelodau newydd fydd yn dod wedi etholiadau 2026, pan fydd y nifer o aelodau'n cynyddu o 60 i 96

Ar 8 Mai, 2024, pasiwyd y ddeddf i gynyddu'r nifer o aelodau. Roedd angen dwy rhan o dair o'r aelodau i gefnogi'r mesur, ac fe ddigwyddodd hynny, gyda 43 yn pleidleisio o blaid, ac 16 yn erbyn

Y Senedd newydd yn barod am etholiadau 2026, ble fydd 96 aelod yn cymryd eu seddi
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Mai 2025

- Cyhoeddwyd1 Ionawr
