Y Doctor Cymraeg: Rhaid derbyn bratiaith i gael mwy o siaradwyr

Stephen RuleFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Stephen Rule ddegau o filoedd yn ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol fel y Doctor Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae angen rhoi llai o bwyslais ar ramadeg a threiglo a derbyn bratiaith er mwyn annog mwy o bobl i siarad Cymraeg, yn ôl athro sydd â dilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Stephen Rule - y Doctor Cymraeg - yn dweud mai'r brif flaenoriaeth ydy cynyddu'r nifer sy'n cyfathrebu bob dydd yn yr iaith.

Dywedodd mai dyna'r sefyllfa gyda'r Saesneg yn Lloegr, ble mae bron pawb yn gallu ei siarad ond bod safon iaith yn amrywio.

Awgrymodd yr athro ysgol uwchradd bod cael mwy o bobl i siarad Cymraeg yn fwy posib heddiw gan fod agweddau tuag ati yn fwy positif.

'Cael pawb i siarad Cymraeg'

Mae Stephen Rule yn cael ei adnabod fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ble mae ganddo dros 100,000 o ddilynwyr.

Mae'n postio fideos i geisio gwneud dysgu'r iaith yn hwyl a rhoi anogaeth a hyder i siaradwyr newydd.

Ers 15 mlynedd mae'n gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ger Wrecsam.

Cafodd ei fagu yn yr ardal ar aelwyd ddi-Gymraeg, cyn iddo ddysgu'r iaith yn yr ysgol.

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, dywedodd bod angen blaenoriaethu codi'r nifer sy'n siarad Cymraeg o'r ffigwr presennol - tua 20% o'r boblogaeth - yn nes at 100%.

Stephen RuleFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Stephen Rule ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Y ffordd orau o wneud hyn, meddai, ydy addasu'r ffordd mae'r iaith yn cael ei dysgu a newid agweddau tuag at safon a chywirdeb.

"Be' 'swn i'n licio neud ydy, os ydan ni'n peidio rhoi gymaint o bwyslais ar ramadeg ar y dechrau - dim anwybyddu treigladau, jest cyflwyno nhw fel rhywbeth naturiol yn lle gwneud gwersi arnyn nhw," meddai.

"Dwi yn gweld rhyw sefyllfa yn y pendraw lle gallwn ni gael pawb i siarad iaith - 'nawn ni alw fo'n bratiaith - ond siarad iaith sy'n ddigon da am sgwrs ar y stryd.

"Os 'da ni'n gallu cael hwnna i bawb yng Nghymru - 100% - wedyn fydd pobl sydd isio mynd ymlaen i barchu'r gramadeg bach mwy ac i ddefnyddio'r iaith yn flodeuol, fyddan nhw ddim yn dod o rywle lle maen nhw'n dysgu'r iaith o'r newydd."

'Llacio disgwyliadau'

Dywedodd y byddai hyn yn arwain at lawer mwy o bobl yn siarad Cymraeg, a byddai canran o'r rheiny yn mynd ymlaen i gael safon uwch.

Ychwanegodd ei fod yn meddwl bod gramadeg, iaith safonol a llenyddiaeth Cymraeg yn bwysig, ond bod angen newid pwyslais er mwyn cael mwy o siaradwyr yn y lle cyntaf cyn codi safon.

"Weithiau mae 'na le i leihau'r disgwyliadau ac i lacio disgwyliadau bach, a derbyn rhywbeth fwy fel bratiaith weithiau, er mwyn rhoi ryw sylfaen i bobl gael y gallu i siarad yr iaith a'r gallu i wella yn y dyfodol," meddai.

"Ar hyn o bryd 'da ni ddim yn cael pobl sy'n rhugl."

Fel athro ysgol uwchradd ar y ffin, mae'n dod ar draws nifer o bobl ifanc sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Dywedodd bod mwy o ddiddordeb yn yr iaith y dyddiau yma, a bod disgyblion yn fwy parod i ddysgu a gydag agwedd bositif tuag at yr iaith.

Pan ddechreuodd ddysgu yn yr ysgol 15 mlynedd yn ôl doedd Cymraeg Lefel A ddim yn cael ei gynnig, ond bellach mae rhwng wyth a 10 yn sefyll yr arholiad bob blwyddyn.

"O'n i lawr mewn ysgol yn y canolbarth heddiw - reit ar y ffin mewn ysgol ffantastig - ac o'n i ddim yn clywed pobl yn d'eud pan yn mynd i'r dosbarthiadau 'pam dwi'n gorfod gwneud hyn?' - ac roedd rhai o'r plant yna o Loegr hefyd," meddai.

"Dwi wirioneddol yn meddwl bod 'na ryw newid.

"Dydyn nhw ddim jest yn derbyn y ffaith bod nhw'n gorfod 'neud o - mae 'na fwynhad yna hefyd.

"Dwi'n meddwl bod o'n newid mewn agwedd sy'n genedlaethol."

Gallwch wrando ar gyfweliad Stephen Rule, Y Doctor Cymraeg, ar Beti a'i Phobol am 18:00 ar 1 Mawrth ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.