Rhys Meirion i wireddu dymuniad ei gyfaill Mike Peters gyda chân newydd

Bu farw Mike Peters ym mis Ebrill 2025
- Cyhoeddwyd
Mewn rhaglen arbennig ar S4C nos Sul am 20:30, fe fydd y canwr Rhys Meirion yn gwireddu dymuniad ei gyfaill, y diweddar Mike Peters, drwy recordio trac arbennig.
Cân a gyfansoddwyd gan Mike Peters yw Cofio Dewi Sant, ac mae meibion Mike, Dylan ac Evan, hefyd yn perfformio ar y gân.
Bu Rhys Meirion yn sgwrsio ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru fore Mercher, gan ddechrau drwy egluro mwy am y rhaglen, Neges Olaf Mike Peters, a ddaeth i fod yn dilyn sgwrs a gafodd y ddau ganwr.

Mike a Jules Peters gyda'u meibion Evan a Dylan
"Dyma'r rhaglen fwya' personol i mi wneud erioed," meddai.
"Fe wnaeth Mike ofyn i mi recordio un o'i ganeuon o yn Gymraeg. Roedden ni'n trafod y peth pan oedd gen i broblemau iechyd fy hun, ond o'n i ddim am ei boeni o gyda hynny ar y pryd... roedd Mike wastad yn gwella - wastad yn bownsio nôl.
"Ond y tro yma, ddaru o ddim bownsio nôl ac yn drist ofnadwy fe gollon ni Mike ym mis Ebrill.
"Aeth peth amser heibio cyn i mi drafod y peth gyda Jules [gweddw Mike Peters] ond roedd hi wrth ei bodd gyda'r syniad.
"Mae Dylan ac Evan, meibion Mike a Jules, yn perfformio hefyd ac fe fuon ni'n ffodus i gael Osian Candelas, Aled o Cowbois Rhos Botwnnog a Chôr Meibion Trelawnyd ar y gân hefyd.

Rhys Meirion
"Roedd Mike yn ysbrydoliaeth i bawb. Mae ei bersonoliaeth a'i ysbryd wedi ei drosglwyddo i'w feibion ac fe welwch chi hynny yn y rhaglen.
"Roedd Dylan, Evan a minnau yn teimlo personoliaeth Mike yn bresennol yn Stiwdio Sain wrth recordio'r gân."
Bydd Neges Olaf Mike Peters yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul, 1 Mawrth am 20:30.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Mai 2025

- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd7 Awst 2025
