Dyw Brisbane ddim yn nefoedd, nag Awstralia chwaith!

Mae Elan a Deio wedi symud i fyw yn Awstralia ers mis Medi
- Cyhoeddwyd
Ym mis Medi fe benderfynodd Elan Rayner a'i phartner Deio symud i fyw i Awstralia.
Y gobaith oedd sefydlu bywyd newydd yn yr haul a dod o hyd i swyddi yn Sydney.
Dyna'r freuddwyd Awstralaidd sydd wedi ysgogi sawl person ifanc o Brydain i symud allan yno dros y blynyddoedd.
Mae Elan sydd o Benrhyndeudraeth a Deio bellach yn byw yn Brisbane ers mis Tachwedd. Beth felly sydd wrth wraidd symud i ddinas wahanol mor sydyn, ac yw Brisbane yn nefoedd, yn enwedig yn yr haf?
'Prisiau ofnadwy'
"Ro'n i jest isho trafaelio, ro'n i wedi clwad lot o betha da am Awstralia a'r cyfleoedd gwaith da yna," meddai Elan ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
Mae Elan yn dogfennu ei hantur ar ei chyfrif Tik Tok â'r 23,000 o bobl sydd yn ei dilyn.
Mae hi'n gweithio mewn siop trin gwallt ac mae hi'n rhybuddio pobl i fod yn barod i beidio credu'r holl bethau camarweiniol maen nhw'n ei glywed am y freuddwyd o fyw yn Awstralia.
"Neshi ddod yma efo meddwl agored, ond neshi cael job efo trin gwalltiau, dyna nes i yn coleg, nes i ddechre yn ffres yn fama.
"Mae'n anodd iawn, wnaethon ni stryglo ffeindio rhywle i fyw yn Sydney, lle oeddan ni yn bwriadu aros, achos mae 'na gymaint o bobl yn mynd yno i fyw.
"Mae'r prisiau yn ofnadwy, dyna pam nathon ni ddod i fyny i Brisbane a ffeindio rhywle i fyw yn haws.
"'Dan ni'n byw mewn ystafell mewn fflat ac yn rhannu efo cwpwl arall. 'Dan ni'n talu $600 yr wythnos i gymharu â $800 yr wythnos rhyngddon ni yn Sydney.
"Mae o'n cael ei bortreadu bach fwy hawdd nag ydio," meddai.

Dyw Cymry a Phrydeinwyr yn symud i Awstralia ddim byd newydd.
Fe sefydlwyd y freuddwyd Awstralaidd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd i gyd fynd â'r "Ten Pound Poms" yn y 1950au. Dyma'r cyfnod yr oedd Prydeinwyr yn symud i Awstralia gyda'r addewid o gartref, swydd a'r gobaith o well ansawdd bywyd.
Roedden nhw yn cael eu galw'n Ten Pound Poms gan mai £10 oedd y gost weinyddol i gyrraedd Awstralia.
Fe wnaeth dros filiwn o Brydeinwyr gymryd y cynnig dros gyfnod o 25 mlynedd, ac mae mwy yn parhau i gyrraedd Awstralia hyd heddiw.
"'Dan ni wedi ffeindio swydd reit hawdd, mae'n dibynnu pa fath o swydd rydach chi'n chwilio amdano hefyd," meddai Elan.
Wrth i'r cwpwl setlo yn Brisbane mae ganddyn nhw dal fwriad i deithio rhagor o'r wlad a thu hwnt.
"Dwi'n falch ein bod wedi symud i Brisbane, mae hi'n boeth yma, 'dach chi'n cael yr ochr ddinasol o fyw yma, mae'n teimlo bach fwy cartrefol na Sydney," meddai.
Ym mis Ebrill bydd y ddau yn mentro i Seland Newydd am bythefnos, ac yna'n ceisio canfod gwaith ym Melbourne neu Perth.
Hefyd o ddiddordeb:
'Mae Darwin fel Llandudno': Y barbwr o Gymru yn Awstralia
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
O frwydro canser i nyrsio mewn cymuned frodorol yn Awstralia
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.