Cyngor i gefnogi cais tai i Wynedd ar yr amod bod tenantiaid yn siarad Cymraeg

Llun o'r cae mae'r cais i ddatblygu 15 dai yn NhreforFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gall 15 o dai fforddiadwy gael eu hadeiladu ar gyfer siaradwyr Cymraeg ar y cae yma yn Nhrefor

  • Cyhoeddwyd

Mae cyngor cymuned yng Ngwynedd wedi dweud y bydd yn cefnogi cais i adeiladu stad o dai fforddiadwy, ar yr amod bod y cartrefi'n cael eu cadw i bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.

Bwriad Grŵp Cynefin yw codi 15 o dai, gydag un neu ddwy lofft yr un, ar dir ger stad Llys yr Eifl ym mhentref Trefor.

Ond mae cyngor cymuned Trefor a Llanaelhaearn yn awyddus i roi amod iaith cyn cefnogi'r cais, gan ddweud bod cyfle i fod yn "wirioneddol flaengar ac arloesol".

Yn eu hymateb i'r cais cynllunio mae'r cyngor yn dweud nad ydyn nhw'n credu y byddai'n anghyfreithlon i osod amod o'r fath ar y datblygiad, ar sail trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

Mewn datganiad i BBC Cymru, mae swyddfa'r comisiynydd wedi cadarnhau eu bod wedi rhannu "dealltwriaeth gyfreithiol o'r mater" gydag ymholydd, sef "y gellid cynnwys amod ieithyddol fel rhan o bolisi, ond nad yw hynny uwchlaw gofynion deddfwriaethol eraill".

Mae swyddogion cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais cynllunio, fydd yn cael ei drafod ar 2 Mawrth.

Cadarnhaodd Cyngor Gwynedd bod cais wedi ei dderbyn, ac ychwanegodd llefarydd y bydd "ystyriaeth i'r holl sylwadau cynllunio sydd wedi eu derbyn yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus".

Llun aerial o'r cae lle mae'r cais i ddatblygu tai fforddiadwy yn NhreforFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cais i ddatblygu tai fforddiadwy yn Nhrefor

Bwriad Grŵp Cynefin ydy darparu cymysgedd o gartrefi deulawr "gwbl fforddiadwy", gan gynnwys rhai fyddai'n cael eu rhentu.

Mae'r cais yn cynnwys un tŷ deulawr ar wahân, gyda gerddi a mannau parcio ar safle sydd y tu allan i'r ffin datblygu.

Yn ystod yr ymgynghoriad, dywedodd y cyngor cymuned nad oedd "ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiad i'r cais fel y cyfryw" heblaw am gynnig y ddwy amod - amod yr iaith Gymraeg, a'i fod yn cael ei drin o dan Bolisi Lletyau Lleol, gyda gofynion penodol, yn hytrach na'r Polisi Dyrannu Tai Cyffredin.

Wrth ymateb i'r cais dywedodd y cyngor cymuned: "Dyma gyfle euraidd i fod yn wirioneddol flaengar ac arloesol drwy fod y cyntaf yng Nghymru i fentro gosod amod iaith ar stâd dai cymdeithasol newydd, yng nghadarnle'r Gymraeg."

Gosod cynsail i weddill Cymru

Ychwanegodd y cyngor cymuned y byddai'n "glod ac yn gynsail" i Gyngor Gwynedd dderbyn yr amod, ac yn "arweiniad goleuedig a hir-ddisgwyliedig i weddill Cymru".

"Gall hyn roi dechrau pendant a chadarn i warchod enaid ein cenedl a'r ychydig ardaloedd bregus sy'n weddill."

Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn erfyn arnoch i fod yn barod i wneud hynny ac i ddangos i'n pobl fod cenhadaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer ein hiaith o ddifri, yn ddiffuant ac yn ddi-ildio."

Gofynnodd y cyngor cymuned hefyd am ohirio'r penderfyniad ar y cais nes bod "canlyniad pendant" i'r drafodaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg, Cyngor Gwynedd a'r cymdeithasau tai.

Llun o Llywarch Jones y tu allan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amod iaith yn "syniad da" medd Llywarch Jones o Drefor

Mae Llywarch Jones wedi cael ei fagu yn Nhrefor ac yn croesawu'r syniad o gyflwyno amod iaith i'r cynllun i ddatblygu tai.

Dywedodd: "Faswn i wrth fy modd os fasa hynna'n bosib am y rheswm, fel ma'r pentre'n mynd ar hyn o bryd, mae na fwy o bobl uniaith Saesneg yma na sy 'na o Gymry mewn ffordd.

"Ma 'na lot o hen bobl hefyd Saesneg yma, chawn nhw byth blant a fydd yr ysgol yn cau, fydd y siop yn cau a fydd y gymuned yn cau."

Llun o Clare Brooks y tu allan yn Nhrefor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clare Brooks sy'n byw yn Nhrefor yn credu y "dylai fod yn deg i bawb gael tŷ"

Un sydd wedi bod yn byw yn Nhrefor ers tair blynedd ydy Claire Brooks, sy'n credu y "dylai'r rheol fod yn deg i bawb, dim ots pa iaith 'dach chi'n siarad".

"Mi all yr amod iaith siomi rhai pobl fyddai'n hoffi byw yma ond fydd ddim yn gallu oherwydd y rheol, ond os all y tai gael eu llenwi gyda phobl sy'n siarad Cymraeg sydd angen cartref, yna mae hynny'n berffaith iawn."

Bydd yr amod iaith yn "annheg ar rai pobl" yn ôl Malcolm Evans sy'n byw yn Nhrefor.

"Mae 'na bobl sy'n siarad Saesneg a Chymraeg yn byw yma. Byddai'r syniad yma yn gwasgu pobl allan o'r pentre."

Malcolm Evans yn gwisgo cap.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Malcolm Evans yn credu y byddai'r amod iaith yn "annheg ar rai"

Dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, bod "cynaliadwyedd cymunedau â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn hanfodol i ddyfodol yr iaith" a'i fod yn "awyddus i weld polisïau sy'n cyfrannu at gryfhau'r cymunedau hyn".

Dywedodd bod swyddfa'r Comisiynydd wedi derbyn ymholiad yn 2025 ynglŷn â'r sefyllfa gyfreithiol am allu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi ystyriaeth i'r iaith Gymraeg wrth osod tai i denantiaid.

Ychwanegodd: "Yn dilyn derbyn barn gyfreithiol ynglŷn â Deddf Tai 1996, ein dealltwriaeth yw y gellir ystyried sgiliau Cymraeg fel rhan o bolisi gosod tai.

"Fodd bynnag, rhaid pwysleisio nad yw unrhyw ystyriaeth ieithyddol yn drech na'r gofynion statudol sydd wedi'u nodi yn y ddeddf.

"Yn benodol, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi blaenoriaeth resymol i unigolion mewn amgylchiadau penodol, megis pobl sydd yn ddigartref neu sydd angen symud oherwydd rhesymau meddygol.

"Ar y pryd fe wnaethom rannu ein dealltwriaeth gyfreithiol o'r mater â'r ymholydd, yn ogystal â Chyngor Gwynedd a'r gymdeithas dai berthnasol.

"Fe wnaethom bwysleisio bod y cyngor cyfreithiol yn dweud y gellid cynnwys amod ieithyddol fel rhan o bolisi, ond nad yw hynny uwchlaw gofynion deddfwriaethol eraill."

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd "ystyriaeth i'r holl sylwadau cynllunio sydd wedi eu derbyn yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.