Cyngor Gwynedd yn colli apêl dros godi 18 o dai fforddiadwy

Arwydd am bentref Botwnnog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyngor cymuned leol wedi gwrthwynebu'r cais yn gryf

  • Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad i wrthod cais i godi 18 o dai rhent ym Mhen Llŷn wedi ei wrthdroi, ar ôl i'r datblygwyr ennill eu hapêl yn erbyn Cyngor Gwynedd.

Fis Hydref y llynedd fe wnaeth pwyllgor cynllunio'r sir wrthod caniatáu'r cais i godi'r tai fforddiadwy ym Motwnnog yn sgil pryderon nad oedd y datblygiad yn un addas ac nad oedd digon o alw am y tai yn lleol.

Roedd y cyngor cymuned hefyd wedi rhybuddio y gallai'r datblygiad fod yn "berygl i'r Gymraeg a gwead y gymuned", gyda chynghorwyr sir o'r farn "ei fod yn groes i bolisi, a byddai'n gwneud niwed arwyddocaol i'r iaith Gymraeg".

Penderfynwyd i wrthod y cais ym mis Hydref 2024, gydag aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn mynd yn groes i argymhelliad swyddogion wrth wneud hynny.

Dyluniad o'r safleFfynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Lleol y sir

Roedd hyn er i swyddogion cynllunio Gwynedd rybuddio nad oedd rhesymau digonol wedi'u darparu dros wrthod, gan arwain at apêl gan y datblygwyr, Cae Capel Cyf, ym mis Awst eleni.

Wedi cyhoeddi eu dyfarniad yr wythnos hon, barn arolygwyr wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru oedd bod y cais yn dderbyniol ac y dylid ei ganiatáu.

O ganlyniad bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn gorfod talu costau i'r datblygwyr.

'Newid cymeriad Botwnnog am byth'

Wedi ymweld â'r safle daeth yr arolygydd i'r casgliad "na fyddai'r cynnig yn cael effaith niweidiol sylweddol ar y Gymraeg".

Ychwanegodd yn yr adroddiad: "Nid oes llawer o dystiolaeth o sylwedd ger fy mron o unrhyw niwed yn sgil rhoi anheddau ar osod yn lleol i feddianwyr sy'n dod o'r tu allan i Wynedd.

"Hyd yn oed o dybio achos gwaethaf na fyddai gan breswylwyr cynllun yr apêl unrhyw sgiliau Cymraeg ac y byddent i gyd yn dod o'r tu allan i'r ardal, daw'r CLS i'r casgliad y byddai'r cynnig yn cael effaith fach ar yr iaith yn unig."

Roedd Uned Strategol Tai Cyngor Gwynedd wedi nodi bod "angen uchel" am dai rhent fforddiadwy o'r fath yn ardal Botwnnog.

Dangosodd eu ffigyrau bod 34 teulu ar y rhestr aros am dai cymdeithasol a 14 ar y gofrestr Tai Teg o fewn ward Botwnnog yn unig.

Y Cynghorydd Gareth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Cynghorydd Gareth Williams wedi dadlau byddai caniatáu 18 o dai ym Motwnnog "yn golygu cynnydd o 25% ym maint y pentref"

Ond roedd Cyngor Cymuned Botwnnog o'r farn nad oedd modd cefnogi'r datblygiad heb sicrwydd byddai'r tai yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig, ac y byddai cael pobl ddi-Gymraeg yn symud yno yn cael "effaith bellgyrhaeddol ar addysg ein pobl ifanc yn lleol".

Dywedodd y cynghorydd sir dros Ben Draw Llŷn, Gareth Williams, ei fod yn "hynod siomedig" gyda phenderfyniad yr arolygwyr.

"Mae yna deimlad bod yr holl broses wedi bod yn annemocrataidd drwyddi draw," meddai, gan nodi bod cynghorwyr etholedig wedi pleidleisio i wrthod y cais.

"Bydd y stad dai yma'n newid cymeriad pentref bach Botwnnog am byth."

Ychwanegodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn "siomedig iawn", a bod gwrthdroi'r penderfyniad "yn groes i ddymuniad y gymuned".

"Mae hyn yn esiampl arall o wendid o fewn y system gynllunio, sy'n methu canolbwyntio ar anghenion cymunedau lleol."

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "nodi penderfyniad yr apêl".

Pynciau cysylltiedig