Maniffesto Reform: Pum peth ddysgon ni

Maniffesto Reform
  • Cyhoeddwyd

Mae maniffesto Reform wedi'i lansio gydag addewidion i uwchraddio ffyrdd gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 a'r A55, a blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol.

Dyma'r ail faniffesto i gael ei gyhoeddi cyn etholiad y Senedd, gyda'r Torïaid wedi trefnu eu lansiad ddydd Mawrth i sicrhau ei fod cyn Reform.

Mae Reform yn dweud mai dyma eu cynllun nhw ar gyfer yr hyn y bydden nhw'n ei wneud pe bydden nhw'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Mae arolygon barn wedi awgrymu bod Plaid Cymru yn cystadlu gyda Reform i fod y blaid fwyaf wedi etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Mae Llafur wedi bod mewn grym ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - fel yr oedd ar y pryd - agor ym Mae Caerdydd 27 mlynedd yn ôl.

Dyma bum peth mawr a ddysgon ni o'r cyhoeddiad heddiw.

Uwchraddio ffyrdd

Addawodd Reform "uwchraddio ffyrdd allweddol" gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 yn ne Cymru a'r A55 yng ngogledd Cymru - yn debyg i addewidion a wnaed gan y Ceidwadwyr.

Cafodd ffordd liniaru'r M4 ei rhoi o'r neilltu gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn 2019.

Y gred oedd y byddai'n costio £1.7bn, cyn i'r rhyfel yn Wcráin wthio prisiau i fyny.

Dywedodd Nigel Farage y byddai ffordd osgoi'r M4 yn cynnwys toll.

Dywedodd bod yr M4 yn "dipyn o lanast", ac mai'r bwriad yw "cael arian preifat i mewn, rhoi toll ar y ffordd, a rhoi'r opsiwn i bobl wneud hynny".

Ychwanegodd na fyddai'n golygu "llawer o wariant" o drethi.

Mae'r blaid hefyd yn addo dileu'r terfyn cyflymder 20mya diofyn.

M4

Y Gymraeg

Dywedodd Dan Thomas nad oedd e'n credu mewn "targedau mympwyol" ar gyfer y Gymraeg oherwydd ei bod hi'n gwneud yn dda iawn yn organig.

A phan ofynnwyd i Nigel Farage a fyddai Reform yn cael gwared ar swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, atebodd, "o'r hyn rwy'n ei ddeall, mae'r Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru".

"Gadewch i'r iaith Gymraeg ffynnu. Dydw i ddim yn gweld bod angen targedau na chwangos arni".

Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ddau brif darged sef,

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050;

  • Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i o leiaf 20% erbyn 2050.

Y bleidlais wledig

Mae Reform yn addo newid Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol y llywodraeth bresennol - gan symud at daliadau sy'n "caniatau i ffermwyr ffermio", yn hytrach na chanolbwyntio ar dargedau amgylcheddol.

Byddai ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am fagu da byw tra byddai 'na gynllun gwirfoddol i dalu am waith amgylcheddol, gan roi dewis i ffermwyr prun ai i ymwneud â hynny ai peidio.

Byddai eraill yn dadlau bod tywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd, a'r dirywiad ym myd natur, yn bygwth amaethu a'r gwaith o gynhyrchu bwyd hefyd.

Protest ffermwyr yn cyrraedd y Senedd yn 2024
Disgrifiad o’r llun,

Bu nifer o brotestiadau gan ffermwyr yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys tu allan i'r Senedd yn 2024

Gwasanaeth iechyd

Yn y gorffennol mae Nigel Farage wedi awgrymu bod angen ystyried ailedrych ar y dull o ariannu'r gwasanaeth.

Ond mae'r maniffesto hwn yn datgan fod y blaid wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd, yng Nghymru, sy'n rhad ac am ddim i gleifion ar yr adeg y maen nhw ei angen.

Ond mae 'na gydnabyddiaeth hefyd fod angen newidiadau i "drwsio system sydd wedi torri".

Y tu hwnt i hynny mae nifer o'r polisïau iechyd yn debyg i rai gafodd eu cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig rai dyddiau yn ôl, yn cynnwys lleihau'r pwysau ar unedau brys a chynyddu defnydd y gwasanaeth iechyd o dechnoleg ddigidol.

Mae ymrwymiad hefyd i ostwng rhestrau aros - ond dyw'r maniffesto ddim yn cynnwys unrhyw dargedau penodol am hynny.

GIGFfynhonnell y llun, Getty Images

Tactegau ymgyrchu

Mae arweinydd y blaid Nigel Farage yn dweud bod y bleidlais ar 7 Mai yn "refferendwm" ar arweinyddiaeth Syr Keir Starmer fel prif weinidog y DU.

Mae Reform - yn rhannol - yn cyflwyno etholiad y Senedd fel modd i gyflawni ei nod yn San Steffan.

"Mae pobl Cymru eisiau Nigel yn Rhif 10," meddai Dan Thomas.

O ble ddaw'r arian?

Ni ddaeth costau gyda'r maniffesto.

Dywedodd y felin drafod cyllid, y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, y gallai addewid y blaid i dorri 1c oddi ar bob punt ar bob band o dreth incwm Cymru gostio £371m yn 2026/27.

Dywedodd David Phillips o'r sefydliad y byddai pobl sy'n darllen addewidion Reform yn cael eu "maddau am deimlo ymdeimlad o déjà vu".

"Mae'r tebygrwydd rhwng maniffesto Reform UK a maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn drawiadol," meddai.

Nid oedd Reform wedi "wynebu'n llawn" realiti faint sydd gan Lywodraeth Cymru i'w wario, ychwanegodd.

Dywedodd David Phillips y byddai toriadau treth "yn debygol o olygu toriadau mewn o leiaf rhai gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd".

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Farage y bydd "rhestr o gostau" yn cael ei chyhoeddi.