Crynodeb

  1. Y gynhadledd yn dirwyn i benwedi ei gyhoeddi 12:37 GMT

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Nigel Farage a Dan Thomas yng Nghasnewydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Nigel Farage a Dan Thomas yn dal maniffesto'r blaid Reform

    Mae’r gynhadledd yn dirwyn i ben ac ar ôl codi brwdfrydedd y dorf yn ystod araith Dan Thomas, mae’r egni wedi gostwng yn yr ystafell yma bellach.

    Mae o’n wahanol i unrhyw ddigwyddiad pleidiol dwi erioed wedi bod iddo, ac mae’r gynulleidfa’n cymeradwyo, yn cefnogi a hefyd yn herio newyddiadurwyr.

    Mae hi werth nodi mai dyma’r tro cyntaf i ni gael syniad go iawn o’r polisïau mae Reform yn eu cynnig i bleidleiswyr.

    Hyd yma, mae’r egni hwnnw wedi llwyddo i ddenu cefnogaeth gref gan ganran sylweddol o’r boblogaeth heb esbonio beth y bydden nhw’n ei wneud fel llywodraeth.

    Heddiw mae hynny’n newid ac mae gan y cyhoedd a newyddiadurwyr sail i herio a chraffu ar syniadau’r blaid.

  2. 'Dim gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg'wedi ei gyhoeddi 12:28 GMT

    Mae Thomas yn cyfeirio at ymgais cyngor cymuned i osod amod ieithyddol ar stad newydd o dai yng Ngwynedd.

    Dywed na fydd Reform yn "gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg".

    Mae Thomas yn ychwanegu y bydd y blaid yn "rhoi pobl Cymru a chyn-filwyr yn gyntaf" o ran cynlluniau tai cymdeithasol.

    Y tir ger stad Llys yr Eifl, Trefor
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd y tai yn cael eu gosod gan ddilyn polisïau cyfredol Cyngor Gwynedd ar dai fforddiadwy.

  3. Iechyd: 'Dwyn prif weithredwyr i gyfri'wedi ei gyhoeddi 12:24 GMT

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Ar y gwasanaeth iechyd, mae Dan Thomas yn ychwanegu y byddai’n "dwyn prif weithredwyr i gyfri os nad ydyn nhw’n perfformio".

    "Mi fydd yn rhaid iddyn nhw fynd. Dyna sy’n digwydd yn y sector breifat," meddai.

  4. 'Gormod o fyrddau iechyd'wedi ei gyhoeddi 12:23 GMT

    Dywedodd Dan Thomas ei fod yn credu bod “gormod o fyrddau iechyd, yn fy marn i, yng Nghymru”.

    Mae gan Gymru saith ohonyn nhw.

  5. 'Archwiliad o ystâd gyfan y GIG'wedi ei gyhoeddi 12:22 GMT

    Mae penawdau wedi bod yn ddiweddar am Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a chyflwr yr adeilad.

    Pan ofynnwyd iddo beth fyddai Reform yn ei wneud yn ei gylch, dywedodd Dan Thomas y byddai Reform yn cynnal archwiliad o ystâd gyfan y GIG.

    Agorodd Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ym 1971Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Agorodd Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym 1971

  6. 'Ar ochr cymunedau gwledig'wedi ei gyhoeddi 12:18 GMT

    Dywed Farage ei fod yn credu bod Llafur eisiau rhoi bai ar gefn gwlad, ffermwyr, a gweithgareddau gwledig "yn y ffordd fwyaf diangen ac erchyll".

    "Byddwn ar ochr cymunedau gwledig. Nid oes unrhyw arweinydd plaid arall wedi sefyll dros faterion gwledig yn y ffordd rwyf wedi'i gwneud ers chwarter canrif," meddai.

    FfermioFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Ymddiriedaeth y cyhoeddwedi ei gyhoeddi 12:15 GMT

    Dywed Farage, pan ofynnwyd iddo am ymddiriedaeth y cyhoedd, fod y blaid yn bod "mor ofalus ag y gallwn".

    Dywed fod gwirio ymgeiswyr wedi cynnwys gwiriadau cofnod troseddol a chredyd.

    "Rwy'n credu mai dyma'r broses wirio fwyaf trylwyr o unrhyw blaid wleidyddol," ychwanega Dan Thomas.

  8. Reform yn addo gostwng costau i fusnesauwedi ei gyhoeddi 12:12 GMT

    Huw Thomas
    Gohebydd Busnes BBC Cymru

    Mae cynnig Reform i fusnesau Cymru yn addo gostwng costau a chael gwared ar yr hyn mae’r blaid yn ei bortreadu fel blynyddoedd o or-reoleiddio.

    Nid Reform yw’r unig blaid i addo ailwampio’r system ardrethi busnes, ac mae’r cynllun i wneud hynny yn dilyn galwadau aml i adolygu’r dreth sy’n wynebu busnesau yng Nghymru.

    Mae cynllunio yn faes arall sy’n cael ei ddisgrifio fel rhwystr i dwf economaidd yng Nghymru.

    Er bod Reform yn addo cyflymu penderfyniadau cynllunio, mae digon o leisiau sinigaidd ym myd datblygu sydd wedi byw trwy ymdrechion y gorffennol i symleiddio’r system. Yr her i unrhyw lywodraeth Reform fyddai sicrhau newid mawr heb fynd yn sownd yn y baw.

    Gall polisïau caffael sy’n annog gwario gyda busnesau lleol ymddangos fel buddugoliaeth hawdd ar bapur. Fe allant hefyd fod yn fwy cymhleth i’w gweithredu heb gyfyngu ar ddewis a chystadleuaeth.

    Er byddai dileu’r dreth dwristiaeth yn cael ei bortreadu fel hwb i economi dwristiaeth Cymru gan Reform, clywodd BBC Cymru y llynedd mai Caerdydd oedd yr unig awdurdod lleol oedd yn paratoi i gyflwyno tâl ar lety dros nos ac mae swyddogion y ddinas yn honni bod ganddynt gefnogaeth y diwydiant.

  9. Rhybuddio rhag 'dad-ddiwydiannu'r Deyrnas Unedig'wedi ei gyhoeddi 12:10 GMT

    Mae Farage yn mynd i'r afael â chwestiynau am dargedau sero net a newid hinsawdd.

    Dywed nad yw'n "gwybod y wyddoniaeth" ond mae'n ychwanegu bod cau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

    Mae'n galw ei hun yn "amgylcheddwr" sy'n "bryderus am lawer o bethau".

    "Ond os ydym yn obsesu am garbon deuocsid rydym yn dad-ddiwydiannu'r Deyrnas Unedig," ychwanega.

    Collwyd miloedd o swyddi ym Mhort TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Collwyd miloedd o swyddi ym Mhort Talbot

  10. 'Refferendwm ar arweinyddiaeth Starmer'wedi ei gyhoeddi 12:03 GMT

    "Ai etholiad i redeg llywodraeth nesaf Cymru yw hwn neu ai cystadleuaeth yw hi i orfodi Keir Starmer allan o Downing Street?" gofynna ITV.

    Mae Reform - yn rhannol - yn cyflwyno etholiad y Senedd fel modd i gyflawni ei nod yn San Steffan.

    "Mae hyn hefyd yn gweithredu fel refferendwm ar ei arweinyddiaeth [Starmer]," meddai Farage.

    "Mae pobl Cymru eisiau Nigel yn Rhif 10," meddai Thomas.

    Starmer
  11. Dim angen 'targedau mympwyol'wedi ei gyhoeddi 11:59 GMT

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Yn ymateb i'r cwestiwn am gael gwared â thargedau i’r iaith Gymraeg, ychwanegodd Dan Thomas nad oedd o’n credu mewn "targedau mympwyol".

    Dywedodd bod o ddim yn credu bod angen targed ar yr iaith Gymraeg oherwydd ei bod hi’n gwneud yn dda iawn yn organig.

    Farage a ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
  12. Y Gymraegwedi ei gyhoeddi 11:58 GMT

    A fyddai Reform yn cael gwared ar swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, yw'r cwestiwn nesaf.

    Mae Farage yn dweud, "o'r hyn rwy'n ei ddeall, mae'r Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru".

    "Gadewch i'r iaith Gymraeg ffynnu. Dydw i ddim yn gweld bod angen targedau na chwangos arni.

    "Os yw'n digwydd, mae'n digwydd oherwydd bod pobl eisiau iddo ddigwydd."

    Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ddau brif darged sef,

    • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050;
    • Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i o leiaf 20% erbyn 2050.

    Mae pob un o'r cwestiynau a ofynnwyd hyd yn hyn wedi cael eu gwatwar mewn rhyw ffordd gan bobl yn y neuadd.

  13. 'Dewis ein brwydrau'wedi ei gyhoeddi 11:53 GMT

    Daw'r cwestiwn cyntaf yn yr ystafell gan ein golygydd gwleidyddol Gareth Lewis, sy'n cael ei wawdio gan un aelod o'r gynulleidfa sy'n galw am "ddad-ariannu'r BBC".

    Mae Gareth Lewis yn gofyn am debygrwydd rhai polisïau gyda'r Ceidwadwyr, a pham nad yw Reform yn galw am dorri nifer y cynghorau.

    Dywed Farage: "Anghofiwch am y Ceidwadwyr, byddan nhw i gyd yn cael eu dileu."

    Dywed Thomas am gynghorau: "Dim ond oherwydd nad yw yn y maniffesto nid yw'n golygu na fyddwn ni'n ei wneud."

    "Mae angen i ni ddewis ein brwydrau," meddai.

    Y gynulleidfa
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gynulleidfa yn cymeradwyo

  14. 'Llygadu'r bleidlais wledig'wedi ei gyhoeddi 11:50 GMT

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae'r blaid yn amlwg yn llygadu'r bleidlais wledig, ac yn bwriadu gwneud y mwyaf o'r golygfeydd yna o ffermwyr yn protestio ar draws Cymru yn ddiweddar.

    Mae Reform yn addo newid Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol y llywodraeth bresennol - gan symud at daliadau sy’n "caniatau i ffermwyr ffermio", yn hytrach na chanolbwyntio ar dargedau amgylcheddol.

    Byddai ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am fagu da byw tra byddai ‘na gynllun gwirfoddol i dalu am waith amgylcheddol, gan roi dewis i ffermwyr prun ai i ymwneud â hynny ai peidio.

    Bydd eraill yn dadlau bod tywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd, a'r dirywiad ym myd natur yn bygwth amaethu a'r gwaith o gynhyrchu bwyd hefyd.

  15. Farage a Thomas yn ateb cwestiynauwedi ei gyhoeddi 11:48 GMT

    Mae araith arweinydd y blaid yng Nghymru wedi dod i ben ac mae Nigel Farage a Dan Thomas bellach yn ateb cwestiynau gan ohebwyr.

    Farage a ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
  16. Reform wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd 'rhad ac am ddim'wedi ei gyhoeddi 11:46 GMT

    Owain Clarke
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Un o egwyddorion sylfaenol y gwasanaeth iechyd, ers ei sefydlu yn 1948, yw y dylai fod yn rhad ac am ddim i gleifion pan fo nhw ei angen.

    Mae hyn yn golygu mai'r wladwriaeth sy'n talu drwy godi trethi.

    Ond mae systemau gwahanol yn bodoli mewn gwledydd eraill lle mae pobl yn cyfrannu tuag at eu costau meddygol naill ai yn uniongyrchol neu drwy systemau yswiriant amrywiol.

    Yn y gorffennol mae arweinydd Nigel Farage wedi awgrymu bod angen ystyried ailedrych ar y dull o ariannu'r gwasanaeth.

    Ond mae'r maniffesto hwn yn datgan fod y blaid wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd, yng Nghymru, sy'n rhad ac am ddim i gleifion ar yr adeg y maen nhw ei angen.

    Ond mae 'na gydnabyddiaeth hefyd fod angen newidiadau i "drwsio system sydd wedi torri".

    Y tu hwnt i hynny mae nifer o'r polisïau iechyd yn debyg i rai gafodd eu cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig rai dyddiau yn ôl, yn cynnwys lleihau'r pwysau ar unedau brys a chynyddu defnydd y gwasanaeth iechyd o dechnoleg ddigidol.

    Mae yna ymrwymiad hefyd i ostwng rhestrau aros - ond dyw'r maniffesto ddim yn cynnwys unrhyw dargedau penodol ynglŷn â hynny.

  17. GIG Cymruwedi ei gyhoeddi 11:45 GMT

    Dywed Thomas fod GIG Cymru yn "methu pobl sy'n dibynnu fwyaf arno".

    Mae'n cael cymeradwyaeth am ymrwymo i'w gadw'n "rhad ac am ddim wrth ei ddefnyddio", ac mae'n addo "ehangu canolfannau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig cyflym".

    Dywed y bydd rheolwyr "yn cael eu dwyn i gyfrif".

  18. Dim llawer o sôn am ariannu yn y maniffestowedi ei gyhoeddi 11:43 GMT

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Does dim llawer o sôn yn y ddogfen yma ynglŷn ag ariannu'r polisïau, yn enwedig yr addewidion mawr fel torri treth incwm.

    Mae’r blaid wedi dweud eu bod yn hyderus o’u ffigyrau ac i fod yn deg, mae'r rhan fwyaf o'r addewidion yn doriadau i dâp coch neu wariant, yn hytrach na phrosiectau newydd.

    Yn y bôn, athroniaeth y blaid hon yw cael llai o lywodraeth, llai o ymyrraeth, llai o wario cyhoeddus er mwyn galluogi llai o drethi.

  19. 'Dod â'r rhyfel yn erbyn modurwyr i ben'wedi ei gyhoeddi 11:40 GMT

    Mae Dan Thomas yn cael cymeradwyaeth fawr gan yr aelodau am addo ffordd liniaru'r M4, ac eto am addo dod â pholisi 20mya Llywodraeth Cymru i ben.

    Yn ystod wythnosau cyntaf llywodraeth Reform, byddai'n "dechrau'r broses o wrthdroi'r terfyn cyflymder cyffredinol hwn," meddai.

    "Pleidleisiwch dros Reform i ddod â'r rhyfel yn erbyn modurwyr i ben."

    20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Treth y cyngorwedi ei gyhoeddi 11:38 GMT

    Dywed Dan Thomas fod cynghorau wedi bod yn "twyllo" talwyr treth y cyngor.

    Mae'n dweud mai "un o'r biliau cartref mwyaf" ydyw ac yn dweud y byddai llywodraeth Reform yng Nghymru yn capio cynnydd blynyddol ar 4.99%.

    Mae'r blaid yn addo refferenda os yw cynghorau eisiau codiadau uwchlaw'r terfyn hwnnw.

    "Os yw cynghorau'n trin y cap hwnnw fel targed, byddwn yn ei ostwng ymhellach," meddai.

    gwasanaethau cynghorau