Gwrthod gosod amod iaith Gymraeg 'anghyfreithlon' ar dai newydd Gwynedd

Mae cais i godi 15 o dai fforddiadwy wedi ei ganiatáu ar gyfer y safle yma ym mhentref Trefor yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgais cyngor cymuned i osod amod ieithyddol ar stad newydd o dai yng Ngwynedd wedi methu yn sgil cyngor swyddogion y byddai cymal o'r fath yn "anghyfreithlon".
Brynhawn Llun fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd ganiatáu cais gan Grŵp Cynefin i godi 15 o dai fforddiadwy un a dwy lofft, ar dir ger stad Llys yr Eifl.
Roedd Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn wedi gofyn am osod amod iaith "gwirioneddol flaengar ac arloesol" ar y tai, a fyddai'n golygu y byddai'r cartrefi yn cael eu cadw bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn unig.
Ond gan gyfeirio at sylwadau Comisiynydd y Gymraeg, penderfyniad y pwyllgor oedd i ganiatáu'r cais yn sgil cyngor gan swyddogion cynllunio y byddai gosod unrhyw amod o'r fath yn anghyfreithlon.
O ganlyniad, bydd y tai yn cael eu gosod gan ddilyn polisïau cyfredol Cyngor Gwynedd ar dai fforddiadwy.
'Cymunedau Cymraeg cyn bwysiced a thirluniau'
Bydd y cais gan Grŵp Cynefin yn darparu cymysgedd o gartrefi deulawr "gwbl fforddiadwy", gan gynnwys rhai i'w rhentu.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Jina Gwyrfai, nad oedd yn wrthwynebus i godi'r tai gan gydnabod bod cynllun yn "estyniad rhesymegol i'r pentref" a gyda'r potensial i "helpu pobl ifanc i fforddio tai yn eu cynefin".
Ond roedd hefyd yn mynnu mwy o wybodaeth am natur y rhestr aros am dai yn lleol, gan nodi bod tai yn y pentref "eisoes wedi eu gosod i bobl o'r tu allan".
"Er bod dros 70% o drigolion yn siarad Cymraeg 'da ni ar y ffin dyngedfennol ieithyddol ac mae 15 o dai hefo'r iaith anghywir yn gallu gwneud gwahaniaeth andwyol," ychwanegodd.
"Gwyddom fod polisïau lu i warchod tirluniau, bioamrywiaeth, safonau adeiladu ac ystlumod... bob dim, a dwi'n eu croesawu nhw.
"Ond mae ein cymunedau Cymraeg, sy'n crebachu a phrinhau o flwyddyn i flwyddyn, cyn bwysiced â'r uchaf... lle mae'r polisïau i'w hamddiffyn nhw?"

Dywedodd y Cynghorydd Jina Gwyrfai nad oedd hi'n wrthwynebus i godi'r tai, gan ddweud bod yno botensial i "helpu pobl ifanc"
Ond yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw Llwyd Rowlands am gais Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn, dywedodd un o swyddogion cynllunio'r cyngor na fyddai gosod unrhyw amod o'r fath yn gyfreithlon.
Aeth Gareth Jones ymlaen i gyfeirio at bolisi cynllunio Cymru, sy'n nodi: "Ni ddylai polisïau a phenderfyniadau gyflwyno unrhyw elfen o wahaniaethu rhwng unigolion yn seiliedig ar eu gallu ieithyddol.
"Ac ni ddylsant geisio rheoli daliadaeth tai ar sail ieithyddol."
Aeth Mr Jones ymlaen i ddweud: "Dwi ddim yn meddwl y gallwch gael dim cliriach na hynny.
"Drwyddi draw mi fyddai gosod amod o'r fath o safbwynt cynllunio yn anghyfreithlon."

Mae cynghorwyr bellach wedi rhoi sêl bendith i'r cynllun heb amod iaith
Yn ymateb i sylwadau'r cyngor cymuned roedd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud bod "cynaliadwyedd cymunedau â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn hanfodol i ddyfodol yr iaith" a'u bod yn "awyddus i weld polisïau sy'n cyfrannu at gryfhau'r cymunedau hyn".
Ond ychwanegodd y Dirprwy Gomisiynydd, Osian Llywelyn, tra gellir ystyried sgiliau Cymraeg fel rhan o bolisi gosod tai, "nad yw unrhyw ystyriaeth ieithyddol yn drech na'r gofynion statudol sydd wedi'u nodi yn Neddf Tai 1996".
Penderfyniad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd oedd i ddilyn cyngor swyddogion drwy ganiatáu'r cais o naw pleidlais i un, gydag un aelod yn penderfynu ymatal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
