Lle'r oeddwn i: Ennill Cân i Gymru 1999

- Cyhoeddwyd
Enillydd Cân i Gymru 1999 oedd Torri'n Rhydd, gyda'r myfyriwr ifanc, Steffan Rhys Williams yn canu ei gân ei hun gyda chôr o'i gyd-fyfyrwyr tu ôl iddo.
Mae'r gystadleuaeth wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd a gyrfa Steffan, meddai, sydd bellach yn gwneud ei fywoliaeth ym myd cerddoriaeth:
Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2026
- Cyhoeddwyd17 Chwefror
O'n i yn fy nhrydedd flwyddyn yn gwneud Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod. Ro'n i a chôr y coleg, Pernod, wedi bod yn recordio albwm gyda Recordiau Fflach, a gofynnodd Wyn a Richard Fflach os oedd gen i ddiddordeb mewn dod i recordio cwpl o ganeuon gyda nhw, gyda'r bwriad o greu EP.
Felly dim ar gyfer Cân i Gymru 'nes i ysgrifennu'r gân rili, ond ar gyfer yr EP. Roedd fy ffrind coleg i, Matthew McAvoy wedi ysgrifennu'r geiriau, a'r gerddoriaeth yw beth fi'n gryf yn ei 'neud.
Fi'n credu mai Wyn ddywedodd wrtha i am anfon y gân mewn, a wedyn o'n i ar y rhestr fer!
O'dd y côr mawr 'ma tu ôl i fi, o'dd yn help. Dwi'n gwybod eu bod nhw wedi gorfod stopio hynny nawr achos fod pobl wastad yn gofyn am gôr... achos os ti'n meddwl amdano fe, o'dd gen i 16 o bobl ar y llwyfan gyda fi, a theuluoedd yr 16 'na yn pleidleisio!

Doedd cael côr i gyd-ganu'r gân ddim yn rhywbeth oedd wedi ei weld ar lwyfan Cân i Gymru o'r blaen - ac mae Steffan yn siŵr fod hyn wedi helpu i gael ambell i bleidlais ychwanegol i Torri'n Rhydd!
O'n i wedi perfformio ar Cân i Gymru y flwyddyn gynt, pan oedd Arwel Roberts, Angharad Brinn a fi yn perfformio pob cân. Ac o'dd y gystadleuaeth llawer llai bryd hynny, a'r wobr yn £3,000.
Ond yn 1999, roedden nhw wedi newid popeth, ac wedi symud y noson lan i Gorwen, ar y llwyfan masif 'na, ac o'dd y brif wobr yn £10,000. O'dd hynny'n lwcus iawn i mi!
I fod yn deg, 'naeth Matthew, yn ffantastig, ddweud wrtha i am gymryd £7,000, a gymrodd e £3,000, achos fod e'n gwybod beth o'n i am 'neud 'da'r arian.
A 'nes i wir ddefnyddio'r arian fel siŵr bydde Cân i Gymru yn ei obeithio, er mwyn dod mlaen yn fy ngwaith i; 'nes i allu prynu offer bydden i byth wedi gallu meddwl cael fy nwylo arnyn nhw. Fi'n ddiolchgar iawn.

Steffan a Matthew McAvoy - y ffrind hael - yn cael eu llongyfarch gan gyflwynwyr y rhaglen, Dafydd Meredydd a Nia Roberts ar ôl ennill
I fod yn onest, fi'n credu, achos o'n i'n y coleg yn 1999, do'n i'm yn poeni am neb na dim byd. O'n i jest yn ei weld e fel rheswm i gael parti, ac o'dd fy ffrindiau o nghwmpas, ac o'n i'n gwybod bod ni am fynd i'r bar wedyn a chael rîal sesh!
Erbyn i mi i ganu'r gân fuddugol, Oes Lle i Mi, gyda Non Williams yn 2003, o'n i'n gweithio yn y cyfryngau'n llawn amser, felly roedd hi'n brofiad fwy nerfus. Ond falle o'dd hynny fwy achos fod Non a fi'n ffrindiau mawr ac o'dden ni'n chwerthin a methu edrych yn llygaid ei gilydd achos bod ni fod yn gariadon [yn y gân], felly oedd e jest braidd yn cringe!
Fi 'di cael lot o brofiadau mawr drwy Cân i Gymru. Fi 'di bod yn gynhyrchydd cerddorol ar y rhaglen dros y blynyddoedd, ac wedi cynhyrchu caneuon, fel un eleni gan Lowri Clancy Davies.

Mae'n blatfform bydden i'n argymell i unrhyw un drial, ac i beidio poeni ynglŷn ag 'ydy e am ddod yn gyntaf?', achos mae'r exposure mae'r wyth gân yn gael yn enfawr. Weithiau, y caneuon sydd heb ennill sy'n cael eu chwarae fwya'.
Fi ddim yn perfformio gymaint y dyddiau yma, achos mod i'n gweithio fel cynhyrchydd cerdd a chyfansoddwr, ac mae gwaith yn brysur iawn.
Nawr, bydden i ddim yn dewis rhoi Torri'n Rhydd 'mlaen... dyw hi ddim ar unrhyw playlist!
Ond fi wastad wedi bod yn falch ohoni, ac mae wedi fy helpu i wneud beth dwi'n ei wneud heddiw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018

- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
