Dynes mewn 'poen parhaus' ar ôl llawdriniaeth ddim am ddioddef yn dawel

Llun Kerry WatsonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kerry Watson y rhwyll wedi'i gosod yn 2014

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a gafodd ei gadael mewn "poen parhaus" ar ôl llawdriniaeth gynaecoleg yn dweud na ddylai menywod fel hi ddioddef yn dawel.

Mae Kerry Watson yn un o 25 o fenywod sydd wedi derbyn iawndal yn dilyn llawdriniaethau a gafodd eu gwneud gan un llawfeddyg yng ngogledd Cymru.

Mae'n rhaid iddi nawr ddefnyddio ffon gerdded ac mae'n cymryd dros 100 o dabledi pob wythnos i ddelio â'r boen ar ôl cael rhwyll (mesh) yn y fagina wedi'i gosod yn 2014.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro, ac wedi cyfaddef nad oedd Ms Watson wedi cael gwybod yn llawn am y risgiau a'r sgîl-effeithiau, ac am yr opsiynau eraill oedd ar gael.

'Do'n i ddim eisiau bod yma o gwbl'

Cafodd Kerry Watson, 40 o Fae Cinmel yn sir Conwy, y rhwyll wedi'i gosod i ddelio â phrolaps y bledren (bladder prolapse).

Ond deffrodd o'r llawdriniaeth mewn poen, sydd erioed wedi diflannu, oedd yn gwaethygu dros amser.

"Roedd yn teimlo fel pe bai nodwydd yn mynd trwy fy nghefn, ac yn dod allan o'm blaen," meddai.

"Mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl. 'Da chi'n cael meddwl niwlog a 'da chi'n dioddef blinder.

"'Da chi ddim yn gallu gweithredu fel dynes - a dyna'r sefyllfa bob dydd am 10 mlynedd.

"Dwi'n fam i dri o fechgyn, ond o'n i'n teimlo fel 'mod i'n methu. Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, allwn i ddim hyd yn oed sefyll i'w gwylio nhw'n chwarae pêl-droed.

"Ar ôl 10 mlynedd, do'n i ddim yn gallu cerdded, do'n i ddim yn gallu gyrru, do'n i ddim yn gallu gwneud y pethau mae Mam fod i wneud dros ei phlant.

"Dyna pryd do'n i ddim eisiau bod yma o gwbl."

Llun Kerry gyda'i thri mabFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y poen wedi gadael Kerry Watson mewn sefyllfa lle nad oedd hi'n gallu "gwneud y pethau mae Mam fod i wneud dros ei phlant"

Erbyn mis Mehefin 2024, roedd pethau wedi gwaethygu cymaint, penderfynodd Ms Watson gael llawdriniaeth i dynnu rhan o'r rhwyll o'i chorff.

Mae'r boen wedi gwella, ond nid yw wedi diflannu, ac mae hi'n aros am lawdriniaeth bellach.

"Mae'n rhywbeth mae menywod yn gwneud - 'da chi'n trio cuddio popeth, 'da chi'n pellhau eich hun oddi wrth ffrindiau a theulu.

"Roedd y boen a'r ffordd ro'n i'n teimlo yn fy niffinio.

"Ond mae'r hyn sydd wedi digwydd i mi wedi digwydd i fenywod eraill hefyd.

"Dwi methu dioddef y syniad o fenywod eraill yn eistedd adref, mor anghyfforddus, mewn cymaint o boen.

"Rydw i'n rhannu fy stori i roi'r dewrder i eraill ddod ymlaen a pheidio dioddef ar eu pen eu hunain."

Llun Kerry gyda sawl bocs o thabledi o'i blaen hi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kerry Watson yn gorfod cymryd dros 100 o dabledi pob wythnos i ddelio â'r boen yn dilyn ei llawdriniaeth

Yn 2018 cyhoeddodd y GIG y bydden nhw'n rhoi'r gorau i ddefnyddio rhwyll fagina yn dilyn pryderon ynghylch diogelwch cleifion.

Yr ymgynghorydd a wnaeth y llawdriniaeth ar Kerry Watson oedd Derek Klazinga, wnaeth ymddeol yn 2016.

Mae Ms Watson yn un o sawl menyw sy'n dweud nad oedden nhw wedi cael digon o wybodaeth am y risgiau posib cyn i lawdriniaethau gael eu cynnal o dan ei ofal.

Cysylltodd BBC Cymru â Derek Klazinga i ofyn sut y cafodd ganiatâd Kerry Watson ar gyfer y llawdriniaeth, ac a oedd wedi egluro iddi fod triniaethau eraill yn bosibl.

Nid yw wedi ymateb.

Mewn datganiad i raglen Y Byd Ar Bedwar ar S4C, dywedodd: "Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad diffuant bod y menywod hyn wedi gorfod dioddef poen corfforol a seicolegol o'r fath, a achoswyd gan yr hyn yr ydym bellach yn gwybod sy'n gynnyrch meddygol diffygiol, a gafodd ei ddefnyddio yn eu triniaethau.

"Cyn ymddeol yn 2016, roeddwn bob amser yn gweithredu gyda'r claf wrth wraidd fy ngofal, gan lynu at egwyddor gyntaf meddygaeth: 'yn gyntaf, peidiwch gwneud niwed'."

Rhwyll fagina
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhwyll fagina ei osod mewn cyrff rhai menywod cyn 2018 er mwyn cefnogi organnau fel y bledren

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n rhedeg y GIG yng ngogledd Cymru, wedi ymddiheuro am y dioddefaint y mae rhwyll fagina wedi'i achosi mewn rhai achosion.

Dywedodd y cyfarwyddwr meddygol gweithredol Dr Clara Day: "Rydw i eisiau cydnabod y straen a'r boen y mae hyn wedi'i achosi i gyfran fach o fenywod yn ein rhanbarth a gafodd y llawdriniaeth hynny.

"Rydw i wedi cael gwybod am rai honiadau hanesyddol mewn perthynas ag un clinigwr a adawodd y bwrdd iechyd yn 2016.

"Trwy'r system gyfreithiol, rydym wedi cydnabod niwed corfforol i rai cleifion a gafodd driniaethau, ac rydym wedi canfod nad oedd cadw cofnodion a derbyn caniatâd wedi'u cwblhau i'r safon ofynnol mewn nifer o achosion.

"Mae pob hawliad wedi arwain at ddysgu i ni, sydd wedi cael ei graffu arno gan arbenigwyr y tu allan i'n bwrdd iechyd."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol