Ystyried gogledd Cymru ar gyfer safle sy'n 'bwysig i ddiogelwch ynni Prydain'

Mae'r traeth ger Aberdesach yn un o'r lleoliadau sydd dan ystyriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ardal o ogledd orllewin Cymru yn cael ei hystyried fel llwybr ar gyfer cebl pwerus fyddai'n dod â thrydan o ffermydd gwynt Yr Alban i'r tir mawr.
Mae cwmni National Grid yn ystyried dod â'r wifren o dan y môr ac i'r lan ar arfordir gorllewinol Gwynedd.
Gallai wedyn gael ei chladdu o dan y tir a'i chysylltu ag is-orsaf Pentir, ger Bangor.
Yn ôl National Grid, bydd y prosiect yn bwysig iawn i ddiogelwch cyflenwad ynni Prydain, a byddan nhw'n gweithio gyda chymunedau os bydd gwaith yn digwydd yno.

Y bwriad ydy bod y ceblau'n dod i'r lan ar arfordir Cymru
Cafodd gwefan y prosiect ei chyhoeddi ychydig cyn y Nadolig ac mae hysbysiadau cyhoeddus wedi ymddangos yn lleol, wrth i'r datblygwyr geisio cysylltu hefo'r holl berchnogion tir.
Nod y prosiect yw uwchraddio a gwella gwydnwch y rhwydwaith.
Mae gwaith eisoes yn digwydd ar uwchraddio'r cysylltiad rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd.

Byddai'r cebl yna'n dilyn y llwybr bras yma hyd at ardal Pentir
Yn ôl Dylan Herbert, rheolwr materion allanol Cymru i National Grid, mae'n ddyddiau cynnar iawn.
"Ar hyn o bryd 'da ni dal yn edrych lle'n union fydd y cebl yn dod i'r lan.
"Os oes 'na waith yn digwydd mewn cymuned, fyddwn ni'n ymgysylltu hefo'r gymuned a dod â'r gymuned ar y siwrnai hefo ni.
"Mae'n bwysig gadael iddyn nhw gael gwybod be' sy'n mynd ymlaen."
Ychwanegodd fod gofynion trydan ym Mhrydain "yn mynd i ddyblu ac mae angen uwchraddio'r grid".
"Mae'r prosiect yma - a fydd yn galluogi ni ddod a trydan i dros ddwy filiwn o gartrefi - yn bwysig iawn i ddiogelwch trydan ym Mhrydain."

Mae John Idris Jones yn dweud y byddai'r cynllun yn fuddiol i bawb yn y pen draw
Yn ôl yr arbenigwr ynni John Idris Jones, gallai'r prosiect fod o fudd i bobl leol hefyd.
"Yn y bôn mae o yna i sicrhau bod y goleuadau yn aros ymlaen, bod ni'n dal yn medru pweru ein cyfrifiaduron a'n ffonau ac ati.
"Wedyn pan 'da ni'n sôn am er budd pwy ydy o, mae o er budd pawb gellir dadlau."
Mi fydd arolygon tir yn digwydd yn y misoedd nesaf ac mae National Grid yn bwriadu ymgynghori yn yr haf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd14 Ionawr

- Cyhoeddwyd21 Ionawr
