Tynnu cynlluniau parc ynni yn Sir Gâr yn ôl wedi adolygiad

Baner
  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni ynni wedi datgan eu bod am dynnu eu cynlluniau ar gyfer prosiect ynni gwynt yn Sir Gâr yn ôl yn dilyn adolygiad.

Mae Bute Energy wedi penderfynu nad ydyn nhw am barhau â'u cynlluniau i greu Parc Ynni Nant Ceiment ar dir 5km i'r de o Lanbedr Pont Steffan gan fod "heriau i ddatblygu ar y safle" am gael "effaith sylweddol ar hyfywedd hirdymor y parc".

Ymhlith yr heriau gafodd eu nodi gan yr adolygiad mae "heriau amgylcheddol, tir a masnachol sy'n unigryw i Barc Ynni Nant Ceiment".

Dywedodd yr Uwch Reolwr Prosiect Daniel Wills bod "Bute Energy wedi ymrwymo i gyflwyno cynigion o'r safonau uchaf" sydd yn "cadw at bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru, ond o fudd i'r amgylchedd lleol a chymunedau yn y tymor hir" hefyd.

Yn dilyn yr asesiad maen nhw wedi penderfynu tynnu'r cynlluniau yn ôl a dywedodd: "Dyma enghraifft o system gynllunio Cymru ar waith, gan sicrhau mai dim ond y ceisiadau cywir a gorau sy'n symud ymlaen i benderfyniad.

"Hoffem estyn ein diolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu ein cynigion hyd yn hyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig