Plaid Cymru: Bydd prosiectau ynni'n gorfod rhoi elw i gymunedau lleol

- Cyhoeddwyd
Mi fydd angen i brosiectau ynni adnewyddadwy gynnig rhywfaint o'u helw i gymunedau lleol er mwyn cael eu cymeradwyo os ydy Plaid Cymru'n cael eu hethol fel llywodraeth nesaf Cymru, medden nhw.
Mae disgwyl i arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth ddweud mewn araith ym Methesda, Gwynedd fod yn rhaid i gyhoedd Cymru "elwa'n llwyr" o gynlluniau ynni gwynt a solar.
Dywedodd y blaid mi fyddai angen i bob cynllun ynni sy'n fwy na 10 megawat sicrhau bod cymuned leol yn berchen ar o leiaf cyfran o rhwng 15% a 25%.
Mae arolygon barn yn awgrymu mai Plaid Cymru a Reform UK fydd yn cystadlu am y brig cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers Mehefin 2023
Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth ddweud y byddai ei blaid yn sefydlu bwrdd ynni cenedlaethol ar gyfer Cymru fyddai'n gyfrifol am brosiectau mawr.
Mae angen i brosiectau ynni bach a chanolig - rhwng 10MW a 350MW - gael caniatâd gan Lywodraeth Cymru cyn eu bod nhw'n cael eu rhoi ar waith.
Ar gyfer cynlluniau mwy na hynny mae angen caniatâd Llywodraeth y DU ac mae rhai llai na hynny'n cael eu trefnu'n lleol.
Bydd Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n cefnogi "ynni adnewyddadwy yn ddiamwys yn union fel rydym yn credu bod yn rhaid i les cymunedau fod wrth wraidd strategaeth ynni Llywodraeth Cymru".
Mae disgwyl iddo hefyd ddweud: "Os caiff ei wneud yn iawn, gall y newid i ynni gwyrdd ddod â chyfleoedd cymdeithasol ac economaidd mawr.
"Mae'n rhaid i gymunedau Cymru elwa'n llawn o ynni adnewyddadwy Cymru, ac mae hynny'n cynnwys cyfran deg o'r elw.
"Yn y pen draw, rydym yn credu mai cynyddu cyfran cymunedau ym mherchnogaeth ynni adnewyddadwy Cymru yw'r ffordd orau o sicrhau lefel uwch o ailfuddsoddi yn y cymunedau hynny yn yr hirdymor."
Doedd cyhoeddiad Plaid Cymru ddim yn dweud sut y bydd y cyfrannau hyn i gymunedau'n gweithio, na pha gyrff fyddai'n elwa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.