Cwpl o Bwllheli 'ofn' geni babi yn y gogledd ar ôl profiad 'erchyll'

Becky a HuwFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becky a Huw wedi penderfynu y bydden nhw'n mynd dros y ffin i Loegr os byddan nhw'n disgwyl babi arall yn y dyfodol

GanNia CerysaFfion Lloyd-WilliamsBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 25 oed o Bwllheli yn dweud na fyddai hi fyth yn ystyried rhoi genedigaeth i fabi yng ngogledd Cymru eto ar ôl cael profiad mae'n disgrifio fel un "erchyll" yn Ysbyty Gwynedd.

Fe wnaeth asesiad cenedlaethol a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher nodi bod yna "wendidau a diffygion allweddol" mewn gwasanaethau mamolaeth ar draws Cymru.

Mae Becky Hughes wedi rhannu ei phrofiadau a'i hymateb i argymhellion yr asesiad gyda BBC Cymru Fyw.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn "cydymdeimlo yn ddiffuant" gyda Becky a'i phartner Huw.

Dywedon nhw fod "adolygiad clinigol trylwyr wedi ei gynnal, ac fe gwblhawyd yr holl gamau gweithredu uniongyrchol a nodwyd yn dilyn y digwyddiad hwn".

'Profiad gwaetha' erioed'

Roedd popeth wedi bod yn iawn yn ystod ei beichiogrwydd tan yr wythnosau olaf.

Ond pan oedd Becky yn 35 wythnos yn feichiog, roedd 'na bryder bod ei bachgen bach wedi stopio tyfu a hithau'n cael ei monitro'n ddyddiol.

Ym mis Tachwedd 2024 fe gafodd y teulu newyddion nad ydy unrhyw ddarpar riant eisiau ei glywed.

BeckyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becky hefyd yn teimlo na chawson nhw ddigon o gefnogaeth fel cwpl wedi'r golled

"Nes i ffeindio allan pan o'n i'n 37 wythnos a hanner bod Twm wedi marw yn y groth. Fethon nhw a ffeindio'i guriad calon o," meddai.

"'Naethon nhw inducio fi a gyrru fi adra' ar y cynta' o Dachwedd, ac o'dd rhaid fi fynd 'nôl ar y trydydd i eni fo.

"Mae o i fod yn brofiad hapus ond o'dd o'r profiad gwaetha' erioed. O'dd o'n erchyll i fod yn onest.

"O'n i'n mynd mewn bob diwrnod yn y pythefnos cyn iddo gael ei eni, a d'eud bod o ddim yn symud yr un fath - ac o'dda nhw'n d'eud ma' jyst babi diog oedd o.

"O'n i'n mynd adra wedyn ac yn doubtio fy hun - meddwl ddyliwn i fynd mewn ac ati. Es i ar ôl pendroni a wedyn ffeindio bod o wedi mynd.

"'Naethon nhw'm gwrando arna i so doedd gen i ddim llawer o ffydd ynddyn nhw ar ôl y geni."

Roedd archwiliad post mortem yn nodi nad oedd unrhyw broblem gydag organau Twm Glyn Owen, a'i fod wedi marw o ddiffyg ocsigen.

Ychwanegodd Becky: "Aethon ni'n ôl am y post mortem a mi 'naethon nhw gyfadde' basa nhw wedi fy inducio i pan 'naeth o stopio tyfu mewn ffordd - pan o'n i'n 36 wsos.

"Nes i ofyn os fasa fo'n dal yma efo ni tasa nhw 'di g'neud hynny, a 'naethon nhw jyst nodio eu pennau a d'eud 'basa'."

'Dim aftercare o gwbl'

Mae hi hefyd yn teimlo na chawson nhw ddigon o gefnogaeth fel cwpl wedi'r golled.

"Doedd 'na ddim aftercare o gwbl ar gael. Dwywaith ges i alwad gan y bereavement midwife, a nhw sy' fod i gefnogi ni fwya' dwi'n meddwl.

"Y peth arall o'dd yr eirfa o'dda nhw'n defnyddio. Pan o'dda ni'n cael ein gyrru adra ar ôl geni Twm ac isho mynd 'nôl mewn i'w weld o, o'dda ni'n gorfod ffonio awr yn gynt.

"Dwi'n cofio nhw'n d'eud wrth fy mhartner Huw ar y ffôn bod nhw isho ei 'nôl o o'r mortuary.

"O'dd hynna'n ddigon i dorri'n calonnau ni achos do'dd y cr'adur bach ddim i fod yna.

"Yr unig beth o'dd angen d'eud o'dd 'nawn ni gael o'n barod i chi'.

"O'dd o'n trauma i Huw hefyd, ond dydy o ddim wedi cael cynnig unrhyw gwnsela."

Sgan TwmFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd archwiliad post mortem yn nodi nad oedd unrhyw broblem gydag organau Twm, a'i fod wedi marw o ddiffyg ocsigen

Mewn ymateb i bryderon Becky, dywedodd Angela Wood, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei bod yn "cydymdeimlo yn ddiffuant gyda Miss Hughes a'i phartner am golli'r babi Twm".

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod pa mor drawmatig ydy hi i deuluoedd golli plentyn mewn amgylchiadau o'r fath.

"Cafodd adolygiad clinigol trylwyr ei gynnal ac fe gwblhawyd yr holl gamau gweithredu uniongyrchol a nodwyd yn dilyn y digwyddiad hwn.

"Cynigiwyd a darparwyd cefnogaeth galar. Rydym yn cydnabod y gall profiadau unigol o'r gofal arbenigol hwn amrywio ac rydym yn cymryd yr holl bryderon a godwyd am hyn, neu ofal mamolaeth cyffredinol, o ddifrif."

'Sa Twm bach yn dal yma'

Yn y cyfamser, gyda'r asesiad o wasanaethau mamolaeth yn genedlaethol yn nodi bod dros 500 o argymhellion wedi'u gwneud yn barod dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae'r panel - dan arweiniad y cyn-gomisiynydd plant yr Athro Sally Holland - wedi canolbwyntio ar wyth maes blaenoriaeth y tro hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion - saith yn llawn ac un yn rhannol - a bydd rhaglen dair blynedd yn edrych ar wella gwasanaethau.

Er bod Becky yn cytuno gyda'r argymhellion, mae'n ofni na fydd unrhyw beth yn newid.

"Mae'r pethau yma i fod yn betha' dyddiol ma' nhw fod i 'neud yn eu gwaith - rhoi'r gofal o'r safon ucha' yn eu gwaith bob dydd," meddai.

"O ran continuity - ches i 'rioed weld yr un consultant. Ges i adeg arall lle o'dd nodiadau rhywun arall 'di cael eu 'sgwennu yn fy llyfr i. Ma' nhw angen gwella petha'.

"Hefyd gwrando ar leisiau mamau - peidiwch ag anwybyddu petha'. 'Sa nhw ond 'di g'neud hynna i mi, 'sa Twm bach yn dal yma."

'Wedi penderfynu mynd dros y ffin'

Mae pryderon y cwpl wedi'u harwain nhw at ystyried lle fydden nhw eisiau mynd os byddan nhw'n disgwyl babi arall yn y dyfodol.

"'Da ni wedi penderfynu mynd dros y ffin i Lerpwl tro nesa' gobeithio," meddai Becky.

"Mae o bob tro yng nghefn fy mhen i 'pam ddylsa ni orfod mynd mor bell?'.

"Ond o ran iechyd meddwl y ddau ohonan ni, dwi'n meddwl mai'r peth gorau fasa mynd ddwy awr i ffwrdd i gael y gofal ma' rhywun i fod i gael bob dydd yn rwla."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefanBBC Action Line.