Yr Eglwys wedi 'cuddio honiadau cam-drin am ddegawdau' - adroddiad

Cafodd cyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, ei garcharu ym mis Mawrth 2025 am achos hanesyddol o gam-drin bachgen
- Cyhoeddwyd
Cafodd honiadau am droseddau rhyw gan offeiriad yn erbyn bachgen 15 oed eu cuddio gan yr Eglwys yng Nghymru am ddegawdau, a'i alluogi i gael ei benodi yn esgob, yn ôl adroddiad damniol.
Mae pedwar o gyn-Archesgobion Cymru ymhlith y rhai sy'n cael eu crybwyll mewn adroddiad sy'n rhestru cyfres o fethiannau yn ymateb yr Eglwys.
Mae mam y bachgen oedd yn honni iddo gael ei gam-drin gan gyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, yn dweud nad oedd "unrhyw un yn poeni nac yn gwrando".
Dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann: "Mae'r adolygiad yn dangos yn fanwl boenus y cyfleoedd a gollwyd, y rhagdybiaethau niweidiol a'r prosesau annigonol a oedd yn nodweddu ymateb yr Eglwys i'r honiadau hyn."
Diwylliant 'peidio gofyn, peidio sôn'
Mae'r adolygiad i ymddygiad cyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, wedi canfod nad oedd y gamdriniaeth honedig yn cael ei hystyried yn bedoffilia, gan ei bod yn ymwneud â bachgen, nid merch.
Er i Pierce gyfaddef a chynnig ymddiswyddo, fe gafodd hynny ei wrthod.
Fe gafodd ei garcharu'r llynedd am gam-drin bachgen arall yn rhywiol yn yr 1980au a'r 1990au.
Rhwng 1986 a 2010, fe gafodd pryderon eu codi bedair gwaith, gyda rhai o aelodau mwyaf blaenllaw'r eglwys, yn ôl yr adolygiad.
Ond chafodd ddim ei wneud oherwydd diwylliant o "beidio gofyn, peidio sôn" gyda'r bargyfreithiwr fu'n arwain yr adolygiad, Gabrielle Higgins, yn dweud bod rhai yn teimlo "ei bod yn ddiogel i gadw'n dawel".

"Fi oedd yr unig berson oedd yn ei gredu fe," meddai mam y bachgen
Mae mam y bachgen wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ac wedi dweud wrth BBC Cymru: "Fi oedd yr unig berson oedd yn ei gredu fe.
"Wedi hynny, doedd pobl ddim yn ei gredu, ac fe gafodd yr honiadau eu gwrthod. Doedd e ddim yn ymddiried yn y system."
Ychwanegodd: "Fe gafodd y cwbl lot ei frwsio dan y carped. Ac mae'r eglwys fel sefydliad, sefydliad hunan-fuddiol yn fy marn i, so nhw'n gwbod shwt i ddelio 'da rhywbeth fel hyn, neu bydde'n well gan yr Eglwys amddiffyn ei enw da."
Myfyrwyr gwrywaidd ym Mhrifysgol Abertawe, lle'r oedd Pierce yn gaplan, fynegodd bryderon yn 1986.
Er iddyn nhw fynd at Benjamin Vaughan oedd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ar y pryd, chafodd dim byd ei wneud.
Yn 1993 fe wnaeth mam bachgen 15 oed honni fod Pierce wedi ymosod ar ei mab yn rhywiol.
Fe wnaeth Pierce – oedd yn ei 40au hwyr ar y pryd ac sydd bellach yn 85 – "gydnabod yn anuniongyrchol fod rhywbeth amhriodol wedi digwydd gyda'r bachgen".
Roedd yr Esgob Dewi Bridges, a ddaeth wedyn yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, yn gwybod fod yr heddlu yn gwneud "ymholiadau eraill" ynglŷn â Pierce am "gamdriniaeth rywiol".
Cynigiodd Pierce ymddiswyddo oherwydd yr ymosodiad honedig, ddigwyddodd tua 1990, ond fe gafodd ei gynnig ei wrthod, a wynebodd o ddim camau pellach.
Pwy oedd yn gwybod beth a phryd?
Yn 1999, cafodd Pierce ei ethol yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu – a hynny er bod "sïon" am ei ymddygiad yn cylchredeg ymhlith y rhai a'i hetholodd, gan gynnwys Rowan Williams a oedd bryd hynny yn Esgob Mynwy a Barry Morgan, Esgob Llandaf ar y pryd.
Dywedodd Archesgob Cymru ar y pryd, Alwyn Rice Jones, ei fod wedi trafod y mater gyda Pierce ac wedi derbyn sicrwydd ganddo.
Cyn ei urddo'n Esgob, ysgrifennodd mam y dioddefwr honedig at yr Eglwys gan ailadrodd yr honiadau.
Fe gafodd adroddiad wedi'i ysgrifennu gan "ffrind" i Pierce ei gyflwyno'n bersonol i Archesgob Cymru ar y pryd, Alwyn Rice Jones – adroddiad a oedd yn cynnwys cyfaddefiad o "weithred droseddol".
Nid yw'r adroddiad yma wedi ei gynnwys yn yr adolygiad yma ond mae BBC Cymru wedi ei weld.
Mae'n dweud bod Pierce wedi bod yn "ddiofal", ond na allai "ddianc rhag y ffaith ei fod o yn oedolyn" tra bod y dioddefwr yn blentyn.
"Roedd yn ofni i'w gywilydd ddod i'r amlwg, ac o golli ei weinidogaeth," meddai'r adroddiad, gafodd ei ysgrifennu â llaw.
Roedd Rice Jones yn ystyried yr honiad o ymosod, a chyfaddefiad Pierce, yn "ychydig o anhwylustod ac yn dystiolaeth o hoywder yn hytrach na chamdriniaeth plant, ac mai 'blip' oedd hyn, a dylid ei roi o'r neilltu".

Fe gafodd Anthony Pierce ei benodi'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 1999 a bu yn y swydd am naw mlynedd cyn rhoi'r gorau iddi yn Ionawr 2008
Mae'r adolygiad, a gymerodd dros flwyddyn i'w baratoi, yn nodi ei bod hi'n "annhebygol iawn" y byddai honiadau o "weithgarwch rhywiol, ynghyd â chyfaddefiad o ddigwyddiad amhriodol, yn ymwneud â merch honedig bymtheg oed, wedi'u rhoi o'r neilltu yn yr un modd".
"Ymddengys bod yr agwedd wedi'i llywio'n fwy gan amharodrwydd i ymchwilio i rywioldeb" a bod hynny, medd yr adroddiad, yn golygu "na chafodd ei gydnabod fel camdriniaeth rhywiol o blentyn," meddai.
Pan gafodd Rowan Williams ei benodi'n Archesgob Cymru, fe roddodd Rice Jones y llythyr iddo, "er mwyn ei gadw'n ddiogel" a hynny "pe byddai cwestiynau pellach yn codi" am Pierce.
Er ei fod yn gwybod bod "rhyw fath o honiad" wedi'i wneud yn erbyn Pierce, mae'r adolygiad yn dweud fod Williams "wedi bwrw golwg fer iawn dros y cynnwys".
Aeth â'r llythyr gydag ef pan symudodd i Balas Lambeth ar ôl ei benodi yn Archesgob Caergaint.
Chafodd y llythyr ddim ei ddarganfod tan 2010 fel rhan o Adolygiad Achosion Hanesyddol yr Eglwys yng Nghymru i asesu'r ffordd roedd yr Eglwys yn ymdrin ag achosion diogelu.
Pan ddarllenodd Williams yr adroddiad "mynegodd ei siom" wrth weld y cyfaddefiad o euogrwydd oedd ynddo.
Bu farw'r dioddefwr honedig yn 2004.

Roedd Pierce yn gweinidogaethu yn Abertawe yn ystod y 1980au ac yn gaplan yn Ysbyty Singleton
Yn sgil cyhoeddi'r adolygiad, dywedodd Rowan Williams: "Rwy'n gresynu'n ddwys iawn os wnaeth fy oedi wrth ei ddarllen gymhlethu'r broses o ymdrin â'r gweithgareddau troseddol.
"Rwy'n gwbl ymwybodol y bydd dioddefwyr Pierce a'u teuluoedd yn teimlo nad oedd gweithdrefnau'r Eglwys bryd hynny yn eu diogelu'n ddigonol, ac yr wyf yn edifar yn fawr iawn am unrhyw fodd y gallwn fod wedi cyfrannu at hynny, hyd yn oed yn anfwriadol."
Eglwys 'ddim wedi rhannu'r holl wybodaeth'
Pan gafodd yr adroddiad a rhagor o dystiolaeth am Pierce eu casglu fe gyfeiriodd yr Eglwys y mater at y heddlu.
Serch hynny mae'r adolygiad yn nodi na chafodd yr holl wybodaeth ei rhannu – gan gynnwys yr adroddiad mewn llawysgrifen yn 1999.
Fe gollodd Pierce yr hawl i arwain gwasanaethau a chynnal priodasau neu angladdau, tra oedd hyn yn digwydd.
Ysgrifennodd John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu ar y pryd, at Barry Morgan, Archesgob Cymru bryd hynny, gan ddweud ei fod yn gobeithio mai dim ond rhybudd y byddai Pierce yn ei dderbyn, ond ni atebodd Morgan.
Dywed Barry Morgan ei fod o wedi cymryd bod yr holl wybodaeth oedd gan yr Eglwys ar y pryd wedi ei roi i'r heddlu.
"Nid tan yr adolygiad yma y cefais wybod nad oedd yr holl ddogfennau wedi eu trosglwyddo i'r cyrff hynny ac roedd hi'n sioc dysgu hynny," meddai.
Cyn-esgob wedi cyfaddef troseddau rhyw yn erbyn plentyn
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2025
Honiad cam-drin yn hysbys o fewn yr Eglwys yng Nghymru 17 mlynedd cyn cwyn
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2025
Esgob yn gwybod am honiadau o gamymddwyn rhywiol ers blynyddoedd
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2025
Pan gafodd ei herio gan yr adolygiad, dywedodd John Davies – a aeth ymlaen i fod yn Archesgob Cymru – nad oedd wedi ystyried fod yna bosibilrwydd y gallai Pierce fod wedi cyflawni troseddau eraill yn erbyn dioddefwyr eraill.
Fe gafodd caniatâd Pierce i weithio fel offeiriad ei adfer gan Davies yn ddiweddarach heb iddo "ofyn na hysbysu neb", gan gynnwys swyddogion diogelu plant, medd yr adolygiad.
Wrth ymateb i gyhoeddi'r adolygiad, dywedodd John Davies wrth BBC Cymru ei fod yn derbyn bod "camgymeriadau barn" wedi bod a mynegodd "ffieidd-dod llwyr at yr hyn a wnaeth Pierce".
Ychwanegodd ei fod yn deall bod yr honiad yn "ddigwyddiad ynysig" ac nad oedd modd rhagweld y byddai "erlyniad" yn mynd i ddilyn.
"O ystyried ei gyfaddefiad, roeddwn i'n credu y gallai'r heddlu siarad â Pierce a'i rybuddio'n briodol".
Fe gafodd Pierce ei wahardd eto yn 2016 pan ddaeth y llythyr gan fam y dioddefwr honedig yn 1999 i'r golwg.
Honiadau pellach yn erbyn Anthony Pierce
Yn 2023 dywedodd dyn arall, a gafodd ei gam-drin gan Pierce pan oedd yn fachgen, wrth yr Eglwys yng Nghymru am hynny.
Mae Pierce yn y carchar ar ôl cyfaddef y llynedd iddo ymosod yn rhywiol ar y bachgen yn ei arddegau bum gwaith rhwng 1985 a 1990.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau wrth BBC Cymru fod yr ymchwiliad yn erbyn Anthony Pierce, sy'n 85 oed, dal yn agored.
Mae'r adolygiad yn nodi fod "nifer o newidiadau" wedi'u gwneud ers y 1990au, gan gynnwys cyflwyno swyddogion diogelu, datblygu polisïau, a mwy o graffu a gwiriadau diogelu wrth benodi esgobion.
Fodd bynnag, mae'r adolygiad yn nodi fod "rhai gwendidau yn parhau" yn y broses o benodi esgobion.
Mae'r adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion er mwyn ceisio gwella hynny tra'n nodi y byddai'n "annhebygol iawn" y bydden nhw wedi newid canlyniad achos Pierce.
Dydi'r adolygiad ddim wedi asesu systemau a phrosesau presennol yr Eglwys yn Nghymru oni bai am benodi esgobion ac archddiaconiaid.
Wrth wraidd hyn oll oedd ymddygiad Anthony Pierce tuag at fachgen oedd yn 15 oed ar y pryd.
Bachgen sydd, erbyn hyn, wedi marw.
Mae ei fam wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydi hi'n ffyddiog y bydd gwersi yn cael eu dysgu.
"Roedd pobol yn gwybod," meddai, "drwy gydol y cyfnod yma, roedd pobol yn gwybod, ac eto, doedd neb yn joino'r dots.
"Doedd neb yn dal gafael ynddo fe, a gwneud rhywbeth strategol tuag at ddatrys y peth, ddim unwaith.
"Doedd neb yn becso, doedd neb yn gwrando. Dyw hyn, yn amlwg ddim yn ddigon, ac yn rhy hwyr i fy mab.
"Ma 'da fi ddelwedd ohono fe'n gwenu, yn dweud 'diolch mam am fwrw mlaen gydag e'. Diolch am beidio gadael i bethe fynd – diolch am ddal i gredu ynof i."
Gohebu ychwanegol gan Emilia Belli, Lucy Ballinger, Ben Summer a Kayley Thomas
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.