Etholiad yn ddewis rhwng Plaid Cymru a Reform - Rhun ap Iorwerth

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Dynoliaeth neu ddifaterwch, Plaid neu Reform" yw'r dewis, meddai Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn portreadu etholiad y Senedd fel brwydr rhwng ei blaid ef a Reform UK, wrth iddo annerch cynhadledd ei blaid yn ddiweddarach.

Bydd Rhun ap Iorwerth yn dweud yng Nghasnewydd mai dewis rhwng "goddefgarwch neu raniad" a "diwylliant neu anwybodaeth" fydd y bleidlais.

Nid oes gan Reform "unrhyw deyrngarwch i Gymru a'n cenedligrwydd", meddai, "a dim cywilydd wrth ddefnyddio ein cenedl fel man cychwyn etholiadol yn unig".

Mae arolygon barn wedi awgrymu bod Plaid Cymru yn cystadlu gyda Reform i fod y blaid fwyaf wedi etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Mae Llafur wedi bod mewn grym ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - fel yr oedd ar y pryd - agor ym Mae Caerdydd 27 mlynedd yn ôl.

'Cynnydd neu bydredd'

Nid yw Plaid Cymru erioed wedi ennill etholiad ar gyfer Cymru gyfan, ac mae wedi cefnogi llywodraethau Llafur Cymru yn y gorffennol.

Bydd Rhun ap Iorwerth yn dweud wrth y gynhadledd brynhawn Gwener: "Bydd yr etholiad ym mis Mai yn ddewis rhwng dau ddyfodol cyferbyniol.

"Goddefgarwch neu raniad. Cynnydd neu bydredd. Herfeiddiad neu barch. Diwylliant neu anwybodaeth. Dynoliaeth neu ddifaterwch. Plaid neu Reform.

"Rydym i gyd yn gwybod y byddai llywodraeth Reform yn llawn cyn-Dorïaid yn rhoi ein gwlad yn ôl ddegawdau.

"Ymgeiswyr di-wyneb ac arweinwyr cynghorau di-hid o Northumberland i Gaint yw'r caneris yn y pwll glo o ran yr hyn sydd gan Farage i'w gynnig i'n senedd a'n pobl."

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fis diwethaf y byddai'n well ganddo ffurfio llywodraeth leiafrifol yn hytrach na chlymbleidio yn dilyn yr etholiad

Mae disgwyl i Blaid Cymru ddatgelu eu cynllun ar gyfer 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth fore Sadwrn.

Dywed Rhun ap Iorwerth y byddai'r blaid yn anelu at ddarparu "llywodraeth well" i bobl Cymru.

"Drwy rymuso unigolion a chymunedau - rhywbeth sy'n rhedeg yn ddwfn yn ein meddwl ac yn ein gwerthoedd - gallwn adfywio'r hyn sydd wedi dod yn fodel gwleidyddol bron yn ddiangen.

"Gallwn gynnig math gwahanol o fargen i Gymru, gan dynnu ar ein profiadau a'n dyheadau ar y cyd i lunio Cymru well."

Ers dod yn arweinydd yn 2023, mae Rhun ap Iorwerth wedi symud ffocws ei blaid i ffwrdd o annibyniaeth, ac mae'n cyflwyno ei blaid fel tîm fyddai'n arwain "llywodraeth well".

Mae AS Ynys Môn wedi dweud nad yw etholiad y Senedd yn ymwneud â lle Cymru yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi rhoi'r gorau i addewid yn 2021 i gynnal refferendwm.

Yn ddiweddar mae wedi cefnu ar bolisi ar gyfer allyriadau carbon sero net erbyn 2035.

Mae Plaid Cymru yn gobeithio y gallan nhw ennill digon o seddi i ffurfio llywodraeth leiafrifol - sy'n golygu y byddai'n llywodraethu ar ei phen ei hun ond y byddai angen cymorth gwleidyddion eraill i ennill pleidleisiau yn y Senedd.

Nid oes unrhyw blaid erioed wedi ennill mwy na hanner y seddi yn y Senedd, ac mae'r system newydd yn gwneud ennill mwyafrif yn anoddach, gyda system bleidleisio gyfrannol newydd.

Bydd gwleidyddion yn cael eu hethol mewn etholaethau mawr o chwe AS yr un, gyda'u niferoedd yn cael eu pennu gan fformiwla sy'n ceisio adlewyrchu sut y pleidleisiodd pobl.

Fe fydd cyfanswm o 96 o wleidyddion yn cael eu hethol - 36 yn fwy na'r 60 AS sy'n bodoli nawr.

Bwriad y system yw rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr na'r system flaenorol, lle etholwyd 40 o'r 60 sedd drwy'r broses 'cyntaf i'r felin'.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.