'Lle i amau' nad oedd marwolaethau dau ddyn ar Yr Wyddfa yn naturiol

Cafodd Jayden ei ddisgrifio gan ei chwaer fel "brawd mawr anhygoel" a chafodd Eddie ei ddisgrifio gan ei frawd fel y "brawd mwyaf rhyfeddol"
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed mwy am sut gafodd cyrff dau ddyn ifanc eu canfod ar Yr Wyddfa ar 19 Chwefror ond dyw achos eu marwolaeth ddim eto wedi ei nodi.
Roedd pryder am ddiogelwch Eddie Hill, 20, a Jayden Long, 19 ar ôl i'r heddlu gael galwad eu bod ar goll ar Yr Wyddfa ar 18 Chwefror.
Cafwyd hyd i'w cyrff ddydd Iau yng Nghrib y Ddysgl, crib sy'n gorwedd rhwng Crib Goch a'r copa - tua 1,065m (3,500 troedfedd) o uchder.
Wrth agor y cwest yn ffurfiol yng Nghaernarfon, dywedodd y crwner ei bod yn cydymdeimlo'n ddiffuant â theuluoedd a ffrindiau'r ddau.

Mae'r uwch grwner wedi dweud fod ganddi "achos rhesymol i amau" nad oedd y marwolaethau'n rhai naturiol
Fe glywodd y gwrandawiad fod timau wedi dechrau chwilio am y ddau brynhawn Mercher mewn amodau anodd gyda thîm Achub Mynydd Llanberis yn gweithio drwy'r nos.
"Er gwaethaf ymrwymiad penderfynol a pharhaus pawb a oedd yn gysylltiedig, rydym yn drist iawn, er gwaethaf pob ymdrech, nad oedd y canlyniad yr hyn yr oeddem wedi'i obeithio," meddai cadeirydd y tîm, Jurgen Dissmann.
Fe gafon nhw gymorth gan Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn, ynghyd â Thîm Achub Mynydd yr Awyrlu a swyddogion Gwylwyr y Glannau.
Dywedodd yr uwch-grwner ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, ei bod wedi gofyn am archwiliad post mortem a'i bod yn aros am ganlyniad ymchwiliadau i benderfynu ar achos eu marwolaeth.
Dywedodd fod ganddi "achos rhesymol i amau" nad oedd marwolaethau'r ddau yn naturiol, ac felly mae'n gofyn am gwest llawn, gan ohirio'r achos ar gyfer ymholiadau pellach.
Mae'r apêl ar-lein, Just Giving, i godi arian i Dîm Achub Mynydd Llanberis er cof am y ddau wedi codi mwy na £12,000 mewn llai nag wythnos.
Cafodd ei sefydlu gan fodryb Jayden Long, Stephanie Jolly, a ddisgrifiodd ei nai fel dyn "rhyfeddol".
Mae Ms Jolly, ac aelodau eraill o'r teulu gan gynnwys ffrindiau yn bwriadu rhedeg hanner marathon Caergrawnt er mwyn codi mwy o arian i'r tîm achub mynydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
