Taro a ffoi: Tri yn euog o gynllwynio i newid cwrs cyfiawnder

Arlo BuckleyFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arlo Buckley anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc a adawodd safle gwrthdrawiad yn Sir y Fflint wedi iddo anafu bachgen pump oed yn ddifrifol wedi ei gael yn euog o gynllwynio i neiwd cwrs cyfiawnder.

Fe gafodd Arlo Buckley ei daro gan feic modur ar Central Drive yn ardal Shotton, a'i lusgo o dan y beic ar 11 Medi 2024.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Kaylem Longhurst, 18, o Nantwich yn Sir Caer, oedd yn gyrru'r beic modur, wedi ffoi o'r safle ar ôl iddo daro'r bachgen.

Roedd eisoes wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol i gyhuddiad o yrru'n beryglus.

Fe'i cafwyd o, ei fam Terry Follows, 42, a'i phartner ar y pryd, Shane Hunt, 39 yn euog gan reithgor o wyrdroi cwrs cyfiawnder, wedi i'r ddau arall gynllwynio i symud Longhurst o'r ardal er mwyn iddo osgoi cael ei arestio.

Cafwyd brawd Kaylem Longhurst, Dane yn ddieuog o'r un cyhuddiad.

Roedd ei chwaer Cara Haran eisoes wedi pledio'n euog.

Central Drive yn Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Central Drive yn ardal Shotton, Sir y Fflint

Dywedodd yr erlyniad yn ystod yr achos bod llygad-dystion wedi gweld Kaylem Longhurst yn gyrru heb helmed i mewn ac allan o geir, ac nad oedd ei frêc blaen yn gweithio.

Dywedwyd bod tystion oedd yn helpu'r plentyn wedi gweld y gyrrwr yn casglu ei feic gan gerdded i ffwrdd "pan roedd yn credu bod neb yn ei wylio".

Clywodd y llys bod cyfres o alwadau wedi digwydd rhwng Kaylem Longhurst ac aelodau o'i deulu a dyna pryd y dechreuon nhw gynllunio i'w helpu.

'Dim edifeirwch'

Dywedodd y barnwr Simon Mills nad oedd y tri gafwyd yn euog wedi dangos "unrhyw edifeirwch" am yr hyn ddigwyddodd i Arlo Buckley.

Ychwanegodd na ddylai Kaylem fod wedi bod ar y ffordd ar y beic hwnnw yn gyrru'n beryglus, gan adael Arlo i'w dynged, tra roedden nhw wedyn yn trefnu ymgyrch o ddweud celwyddau dros gyfnod byr o amser.

Yn ffodus wnaeth hynny ddim gweithio, meddai.

Dywedodd bod y ffaith bod plentyn wedi cael ei anafu mor ddifrifol yn gwbl berthnasol i'r achos.

Gofynnodd i'r erlynydd Ember Wong am ddiweddariad ar gyflwr y bachgen cyn iddo ddedfrydu'r tri, er i'r erlynydd ddweud wrth y barnwr bod Arlo yn parhau i gael gofal gan arbenigwyr meddygol.

Gofynnodd i fargyfreithiwr Longhurst am adroddiad cyn-dedfrydu, a dywedodd y byddai'n cymryd i ystyriaeth mai 16 oed oedd Kaylem Longhurst ar y pryd, ond y byddai'n anochel y byddai'n treulio cyfnod mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.