Dyn wedi ffoi ar ôl taro bachgen, 5, oherwydd 'ofn' - achos

Arlo BuckleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arlo Buckley anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a darodd fachgen pump oed a'i anafu'n ddifrifol gyda'i feic modur yn dweud ei fod yn teimlo'n "ofnadwy" ar ôl y gwrthdrawiad oherwydd ei fod yn meddwl ei fod wedi lladd y plentyn, mae llys wedi clywed.

Cafodd Arlo Buckley ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl y gwrthdrawiad ar Central Drive yn Shotton, Sir y Fflint, ar 11 Medi 2024.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd Kaylem Longhurst, 18, sydd eisoes wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus, ei fod wedi gadael y lleoliad oherwydd ei fod yn ofni am ei ddiogelwch ei hun.

Mae Mr Longhurst, sydd o Nantwich yn Sir Gaer, ei fam Terry Follows, 42, ei phartner ar y pryd Shane Hunt, 39, ei frawd Dane Longhurst - oll o Stryd Clwyd yn Shotton - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Arlo Buckley a'i dad DannyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arlo, sydd ym mreichiau ei dad Danny, ei adael ar ochr ffordd mewn achos o daro a ffoi, clywodd llys

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Kaylem Longhurst wrth y llys fod grŵp o bedwar neu bump o bobl wedi casglu yn fuan ar ôl y gwrthdrawiad.

Dywedodd ei fod wedi tynnu balaclafa yr oedd yn ei wisgo yn syth ar ôl y gwrthdrawiad oherwydd nad oedd "eisiau cuddio" ei wyneb.

Yn y llys, fe ofynnwyd i Mr Longhurst gan ei fargyfreithiwr, Joesph Lees, pam ei fod wedi gadael y lleoliad.

"Roedd gen i ofn... y bobl o'm cwmpas," meddai, gan ychwanegu eu bod nhw "yn ymddwyn yn ymosodol".

Central Drive yn Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arlo Buckley ei daro gan feic modur yn Central Drive yn ardal Shotton, Sir y Fflint

Dywedodd Mr Longhurst ei fod wedi mynd i dŷ ei fam ar ôl y gwrthdrawiad, a mynd yn syth i'r ystafell ymolchi i newid o'i ddillad gwaedlyd.

Roedd ei chwaer, Cara Haran a'i frawd, Dane Longhurst, yn yr ardd ar y pryd ond ni siaradodd â nhw, meddai

Dywedodd ei fod wedi ffonio ei fam, a oedd yn gweithio ar y pryd, ond ni soniodd am y gwrthdrawiad, meddai, achos ei fod yn "poeni y byddai hi'n fy marnu i".

Dywedodd ei fod wedi darganfod fod ei ddillad wedi cael eu llosgi ar ôl iddo gael ei arestio, gan ddweud nad oedd yn gwybod ar y pryd pwy oedd yn gyfrifol a'i fod ddim wedi gofyn i unrhyw un i wneud.

Wrth gael ei groesholi gan yr erlynydd, Ember Wong, gwadodd Mr Longhurst ei fod o a'r tri arall wedi "creu cynllun" i osgoi canlyniadau'r gwrthdrawiad.

Dywedodd Mr Longhurst fod ei chwaer, Cara Haran, sydd eisoes wedi pledio'n euog i fod yn rhan o gynllwyn, yn dweud celwydd pan ddywedodd eu bod wedi gwneud trefniadau i'w gael o allan o Shotton.

Nid oedd yn wir eu bod nhw i gyd yn rhan o gytundeb troseddol, meddai.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig