Gadael bachgen 5 oed ag anafiadau difrifol ar ochr ffordd - achos llys

Arlo Buckley a'i dad DannyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arlo Buckley, sydd ym mreichiau ei dad Danny, ei adael ar ochr ffordd mewn achos o daro a ffoi, clywodd llys

  • Cyhoeddwyd

Cafodd bachgen pump oed ei adael ar ochr y ffordd gydag anafiadau difrifol ar ôl i yrrwr beic modur ei daro cyn gadael y lleoliad, clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Roedd Kaylem Longhurst, 18, o ardal Shotton yn Sir y Fflint, eisoes wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus.

Mae e hefyd yn wynebu achos, yn ôl yr erlyniad, ynghyd â thri pherson arall sy'n cynnwys ei fam a'i frawd, o geisio dangos nad oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Mae Kaylem Longhurst o Nantwich yn Sir Gaer, ei fam Terry Follows, 42, ei phartner ar y pryd Shane Hunt, 39, ei frawd Dane Longhurst - oll o Stryd Clwyd yn Shotton yn gwadu'r cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywedodd yr erlynydd, Ember Wong, bod llygad-dystion wedi gweld Kaylem Longhurst yn gyrru heb helmed i mewn ac allan o geir ac nad oedd ei frêc blaen yn gweithio.

Arlo BuckleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arlo anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

Fe gafodd Arlo Buckley, oedd yn croesi'r hewl tua 17:30 gydag aelodau o'i deulu yn Central Drive yn ardal Shotton, ei daro a'i lusgo o dan y beic. Fe gafodd ei anafu'n ddifrifol.

Esboniodd yr erlynydd nad oedd y plentyn yn ymateb. Dywedodd bod tystion oedd yn helpu'r plentyn wedi gweld y gyrrwr yn casglu ei feic ac fe ddechreuodd gerdded i ffwrdd "pan roedd yn credu bod neb yn ei wylio".

Wrth i rywun geisio ei herio fe ddechreuodd redeg i ffwrdd gyda'r beic, ychwanegodd Ms Wong.

Esboniodd wedyn bod cyfres o alwadau wedi digwydd rhwng Kaylem Longhurst ac aelodau o'i deulu a dyna pryd ddechreuon nhw gynllunio i'w helpu.

Yn ôl yr erlyniad fe geisiodd ei frawd a'i chwaer losgi cot Kaylem Longhurst a chuddio ei feic.

Dywedodd Ms Wong bod ei fam a'r lleill wedi dweud wrth yr heddlu nad oedden nhw wedi gweld na chlywed gan Kaylem Longhurst.

Ond esboniodd yr erlynydd fod y galwadau wedi parhau a chafodd ei drefnu bod Shane Hunt, sef partner mam Kaylem Longhurst ar y pryd, a chwaer Kaylem Longhurst, Cara Haran, yn mynd ag e i Gaerefrog.

Central Drive yn Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arlo Buckley ei daro gan feic modur yn Central Drive yn ardal Shotton, Sir y Fflint

Tra roedd hyn yn digwydd fe gyrhaeddodd ambiwlans awyr safle'r digwyddiad tua 18:04 i gludo Arlo Buckley i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Ar y daith i Gaerefrog fe chwiliodd Kaylem Longhurst ar-lein beth oedd hyd dedfryd carchar am daro a ffoi.

Cafodd ei arestio yng Nghaerfrog.

Mae ei chwaer Cara Haran wedi pledio'n euog yn barod i'w rhan hi yn y cynllunio.

Dywedodd yr erlyniad bod mam Kaylem Longhurst, Terry Follows yn dweud bod ei merch Cara Haran yn dweud celwydd am yr hyn ddigwyddodd.

Ychwanegodd Terry Follows na fyddai ganddi unrhyw broblem roi gwybod i'r heddlu am unrhyw un o'i phlant os oedden nhw wedi gwneud rhywbeth o'i le.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig