Pen-blwydd 850 yr Eisteddfod i elwa o danwariant Cymraeg 2050

Mae'n 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi, dan nawdd yr Arglwydd Rhys
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gynlluniau'r Eisteddfod Genedlaethol i ddathlu 850 mlynedd ers sefydlu'r eisteddfod gyntaf yn 1176 elwa o danwariant ym maes Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru eleni.
Bydd yr hwb ariannol yn ychwanegol at y £238,100 y mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi i'r Eisteddfod ar gyfer dathlu'r 850 mlynedd.
Mae tanwariant £290,000 o fewn cyllideb y Gymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 yn cael ei "ailbwrpasu", meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford.
Dywedodd y llywodraeth bod y tanwariant yn bennaf oherwydd llai o geisiadau na'r disgwyl i gronfa grant Perthyn sy'n helpu grwpiau cymunedol i sefydlu mentrau cymdeithasol, "ynghyd â'r gallu i wireddu nifer o brosiectau gyda llai o gyllid".
Y flaenoriaeth ar gyfer gwario'r £290,000 sy'n weddill yw gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg - sy'n "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol" - ynghyd â chynorthwyo'r Eisteddfod Genedlaethol gyda chynlluniau i ddathlu 850 mlynedd ers yr eisteddfod gyntaf.
Cafodd yr eisteddfod honno ei chynnal yng nghastell Aberteifi yn 1176 dan nawdd Rhys ap Gruffydd, yr Arglwydd Rhys.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol bod "prosiect cyffrous ar y gweill i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon yn hanes yr Eisteddfod", ac y byddan nhw'n cyhoeddi rhagor o fanylion yn y gwanwyn.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi manylion y buddsoddiad ddechrau mis Mawrth.
Arian i wersylloedd yr Urdd a'r Eisteddfod yng nghyllideb y llywodraeth
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Gwaddol yr Eisteddfod: Gobaith am ŵyl Gymreig newydd yn ardal Wrecsam
- Cyhoeddwyd1 Ionawr
Cyhoeddi prif swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2026
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
Mae'r Brifwyl eleni i'w chynnal yn ardal Llantwd yng ngogledd Sir Benfro o 1-8 Awst - 850 o flynyddoedd ers cynnal yr eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176 dan nawdd yr Arglwydd Rhys.
Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ddau brif darged sef:
Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050;
Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i o leiaf 20% erbyn 2050.
Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant Perthyn i'w helpu i sefydlu menter gymdeithasol newydd, a/neu brosiectau tai sy'n cael harwain gan y gymuned.
Nod y grant yw creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi.
Mae cynllun Perthyn yn cael ei weinyddu gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru, dolen allanol.
Mae'r tanwariant yn cyfateb i lai na 1% o gyllideb y Gymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.