Enillwyr Gwobrau'r Selar

Llun o Buddug yn gafael yn un o'r gwobrau a enillodd yng Ngwobrau'r SelarFfynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Cipiodd Buddug 3 gwobr yng Ngwobrau'r Selar yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Am yr ail flwyddyn yn olynol, Buddug oedd prif enillydd Gwobrau'r Selar gan gipio tair gwobr yn y noson a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 21 Chwefror.

Enillodd Buddug o Frynrefail dair gwobr sef yr 'Artist Unigol Gorau' yn ogystal â chipio gwobrau am y gân orau a'r 'Fideo Cerddoriaeth Gorau' efo'r gân 'Disgyn'.

Roedd Buddug yn llwyddiannus yn y gwobrau llynedd hefyd pan enillodd bedair gwobr.

Llun o Buddug yn gafael yn y tlws efo aelodau ei bandFfynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Buddug a'i band yn cael noson lwyddiannus yng Ngwobrau'r Selar

Roedd yn noson lwyddiannus hefyd i'r band Mynadd o ardal Y Bala, a gipiodd y wobr am y Gwaith Celf Gorau; Martha Elen a hawliodd deitl y 'Band neu Artist Newydd Gorau'; a Rhi Jorj ddaeth i'r brig yn y bleidlais am y 'Record Fer Orau' am ei EP 'Amser'.

Roedd yn noson arwyddocaol i'r cerddor Dafydd Owain wrth iddo gipio'r wobr am y 'Record Hir Orau' am ei ail albwm unigol, 'Ymarfer Byw'.

Pleidlais gan y cyhoedd sy'n dewis enillwyr deg o gategorïau'r gwobrau, ac er bod cannoedd wedi bwrw eu pleidlais roedd yn amhosib gwahanu Bwncath a Pys Melyn yng nghategori'r 'Band Gorau' gan olygu bod y ddau fand o'r gogledd yn rhannu'r wobr.

Rose Datta yn gafael yn y tlws a enillodd - gwobr 'Seren y Sin' Ffynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Rose Datta enillodd gwobr 'Seren y Sin'

Enillodd Rose Datta wobr 'Seren y Sin'. Hi yw prif ganwr y band Taran ac enillydd cyntaf cyfres Y Llais ar S4C.

Dau gategori sy'n cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar, sef Gwobr 2025 a roddwyd i'r cynhyrchydd Don Leisure, ynghyd â'r 'Wobr Cyfraniad Arbennig' a roddwyd i'r rapiwr a bîtbocsiwr rhyfeddol, Mr Phormula, neu Ed Holden.

Llun o Mr Phormula, Ed Holden yn gafael yn ei wobr am gyfraniad arbennig.Ffynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Mr Phormula wnaeth gipio'r wobr am gyfraniad arbennig i'r byd cerddoriaeth

Yr enillwyr

Cȃn Orau

Disgyn - Buddug

Gwaith Celf Gorau

Adra - Mynadd

Artist Unigol Gorau

Buddug

Band neu Artist Newydd Gorau

Martha Elen

Band Gorau

Pys Melyn a Bwncath

Digwyddiad Byw Gorau

Tafwyl

Seren y Sin

Rose Datta

Fideo Cerddoriaeth Gorau

Disgyn - Buddug

Record Fer Orau

Amser - Rhi Jorj

Record Hir Orau

Ymarfer Byw - Dafydd Owain

Gwobr 2025

Don Leisure

Gwobr Cyfraniad Arbennig

Mr Phormula, Ed Holden

Roedd y digwyddiad yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef lleoliad Gwobrau'r Selar rhwng 2015 a 2020.

"Roedd hi'n grêt i fod nôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth eleni, ac roedd hi'n noson ardderchog" meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.

"Pleidlais gyhoeddus sy'n dewis enillwyr y mwyafrif o'r categoriau wrth gwrs, felly mae'r rhestr enillwyr yn adlewychiad o'r hyn mae'r cyhoedd, y bobl sy'n mynd i'r gigs ac yn prynu'r gerddoriaeth, yn ei werthfawrogi.

"Er bod Buddug wedi cael noson ardderchog eto'n cipio tair gwobr, roedd tipyn o amrywiaeth ymysg yr enillwyr eraill ac mae hynny'n adlewyrchu amrywiaeth a bywiogrwydd y sin ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Mr Schiavone "yn bersonol, roedd yn braf iawn gallu rhoi'r wobr Cyfraniad Arbennig i Ed Holden, sy'n berson a cherddor dwi'n ei edmygu'n fawr, ac sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy dros y chwarter canrif diwethaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.