Gwobrau'r Selar 'angen bod yn uchelgeisiol' i ddenu pobl ifanc
- Ffynhonnell y llun, FfotoNant / Y Selar

Disgrifiad o’r llun, Kim Hon, enillwyr y wobr 'Band neu Artist Newydd' yn 2020, yn perfformio yn yr undeb
1 o 6
- Cyhoeddwyd
Wrth i Wobrau'r Selar ddychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth am y tro cyntaf ers 2020 mae un o drefnwyr y digwyddiad yn dweud bod rhaid mentro os am gyffroi cynulleidfaoedd ifanc.
Yn ôl Owain Schiavone, prinder gigs mawr Cymraeg y tu hwnt i wyliau'r haf oedd un o'r rhesymau i griw'r Selar benderfynu atgyfodi'r digwyddiad - oedd ar un adeg yn un o uchafbwyntiau'r calendr cerddoriaeth Gymraeg.
"Yn Aberystwyth, er enghraifft, mae 'na'n sicr fwlch o ran digwyddiadau byw gan fod nifer o venues y dref yn fach ac yn fwy tanddaearol ac acoustic eu naws a dwi'n teimlo bod diffyg pwynt mynediad i bobl 15/16 oed i gerddoriaeth Gymraeg y tu hwnt i bethau fel Maes B," meddai.
Bydd enillwyr Gwobrau'r Selar 2026 yn cael eu cyhoeddi yn ystod y digwyddiad nos Sadwrn.
Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2026
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Yws Gwynedd: Angen i'r llywodraeth dalu incwm i gerddorion Cymru
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
Cronfa newydd yn dod â 'gobaith' i sin cerddoriaeth draddodiadol Cymru
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
Yr artistiaid fydd yn perfformio yng Ngwobrau'r Selar eleni yw Bwncath, Buddug, Taran, Lafant a Blêr gyda Mirain Iwerydd yn cyflwyno a Djs amrywiol hefyd yn diddanu'r dorf.
Ar ôl dod i stop yn 2020 - yn bennaf oherwydd effaith y pandemig - fe wnaeth y noson wobrwyo ddychwelyd y llynedd, ond hynny ar raddfa lai.
"Ryw fath o brofi'r dŵr oedd y llynedd. Roedden ni eisiau iddo fo fod ar scale eitha' bach, dim risg ariannol, math o arbrawf i weld os oedd yr awydd yno i adfer digwyddiad o'r math yma," esboniodd Owain.
"Mi oedd y noson (yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth) yn llwyddiannus, y bands yn grêt, y gynulleidfa wedi mwynhau - felly oedd rhywun yn gweld y potensial ar sail hynny wedyn."
'Wbath ar goll ers Covid'
Roedd creu cyffro a chynnig cyfleodd i bobl ifanc gael blas o gerddoriaeth Gymraeg byw yn rhan o'r rheswm i roi ail fywyd i'r noson wobrwyo.
"'Dan ni eisiau rhoi blas i bobl ifanc o'r hyn allen nhw ddisgwyl y tu hwnt i wyliau mawr yr haf," meddai.
"Mae hi'n anodd enwi gigs mawr, y tu hwnt i'r Ddawns Rhyngol, sy'n cyffroi pobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sydd heb fynd i'r brifysgol eto.
"Mae'n grêt gweld pobl yn mentro - criw Tin Sardins yn ddiweddar er enghraifft - ond oedden ni'n teimlo bod 'na wbath ar goll ers Covid o ran gigs llawr gwlad.
"Ma'n rhaid i wbath fod yn uchelgeisiol i apelio, go big or go home!"
Ychwanegodd fod Y Selar yn ceisio annog pobl ifanc i fod yn rhan o'r gwaith trefnu ac i helpu ar y noson yn ogystal â chynnig cynllun mentora o ran sut i drefnu gigs.

Ed Holden yw enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau'r Selar eleni
Mae'r Selar eisoes wedi cyhoeddi mai enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig 2026 yw'r cerddor, rapiwr, cynhyrchydd a bît-bocsiwr Ed Holden, neu Mr Phormula.
Mae Ed wedi bod yn creu cerddoriaeth fel Mr Phormula ers rhai blynyddoedd bellach, a chyn hynny wedi bod yn aelod o Pep Le Pew a'r Genod Droog.
Mae rhai o enillwyr eraill y wobr dros y blynyddoedd yn cynnwys Gorwel Owen, Geraint Jarman, Heather Jones, Gwenno a Gruff Rhys.
Wrth ddatgelu'r newyddion ar raglen Ifan Davies ar BBC Radio Cymru brynhawn Gwener, dywedodd Ed fod derbyn cydnabyddiaeth o'r fath yn syndod iddo.
"Waw... do'n i byth yn meddwl 'swn i'n cael 'wbath fel 'ma pan nes i ddechrau neud miwsig efo'r 'ogia yng Ngarndolbenmaen.
"'Swn i'n licio deud bo' fi'n ffodus iawn ond dwi wedi gweithio'n galed i gyrraedd y pwynt yma hefyd.
"Mae'n dangos rili, os ti'n gweithio'n ddigon caled, ti'n gallu troi fo fewn i 'wbath tisho fo fod."
3 llun: Lluniau pwysicaf Ed Holden
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023
Pum munud gyda Ed Holden
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
Esboniodd fod y sin hip hop yng Nghymru wedi newid a chryfhau yn aruthrol ers iddo ddechrau gwneud cerddoriaeth dros 20 mlynedd yn ôl.
"Mae'r sin hip hop yng Nghymru - iaith Gymraeg neu beidio - yn anhygoel, mae o mor gefnogol. Dwi erioed wedi teimlo ar ben fy hun," meddai.
"Weithia' ella fi oedd yr unig un oedd yn neud o'n Gymraeg, ond dwi 'di gallu adeiladu gymaint o berthnasau a fframwaith anhygoel efo llwythi o artistiaid rownd Cymru.
"Yn amlwg ma' hynny wedi newid rŵan sy'n fendigedig - mae gen ti bobl fel Sage (Todz), Dom a Lloyd, Gucci, Skylark, ma' 'na lwyth ohonyn nhw!"
'Y Gymraeg wedi rhoi'r cyfle i fi fyw fel cerddor proffesiynol'
Ychwanegodd fod ei ddefnydd o'r Gymraeg yn ei gerddoriaeth wedi bod yn gwbl ganolog i'w lwyddiant fel cerddor.
"Ma'r Gymraeg a'r sgil o fod yn ddwyieithog wedi rhoi'r cyfle i fi drafeilio rownd y byd a byw fel cerddor proffesiynol, ma' o mor syml â hynna.
"O'dd gen i agwedd eitha' negyddol at y Gymraeg yn gadael ysgol, ond 'swn i'n licio mynd yn ôl at y person o'n i, a 'swn i wrth fy modd yn ysgwyd o 'chydig a deud 'sbia ar y llun mawr yn lle byw yn y bybl 'ma'.
"Os ti efo mwy nag un iaith, defnyddia nhw. Yn anffodus, ma' dal i fodoli efo pobl ifanc weithia', ond ma' rap a'r fath o gerddoriaeth sy'n bodoli rŵan yn y Gymraeg bendant yn helpu rhoi adlewyrchiad hollol fresh ar yr iaith, a ma' hynna mor bwysig."
Rhestrau byr Gwobrau'r Selar 2026
Gwaith Celf Gorau
Adra - Mynadd
Ymarfer Byw - Dafydd Owain
Pydru yn yr Haul - Cyn Cwsg
Artist Unigol Gorau
Alis Glyn
Buddug
Dafydd Owain
Band neu Artist Newydd Gorau
Blêr
Martha Elen
Hafna
Band Gorau
Ciwb
Pys Melyn
Bwncath
Digwyddiad Byw Gorau
Sesiwn Fawr Dolgellau
Tafwyl
Maes B
Seren y Sin
Ani Glass
Carwyn Williams
Rose Datta
Fideo Cerddoriaeth Gorau
Syched Cas - Dewin
Disgyn - Buddug
Bythwyrdd - TewTewTennau
Record Fer Orau
Amser - Rhi Jorj
Mynd a'r Tŷ Bach am Dro - Cowbois Rhos Botwnnog
Rhydd - Betsan
Record Hir Orau
Er Gwaetha' Pob Dim - Yr Anghysur
Ysgafn - Rhi Jorj
Ymarfer Byw - Dafydd Owain
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd13 Chwefror

- Cyhoeddwyd11 Chwefror





