'Mae'n anodd weithiau bod yn gerddor sesiwn ond dwi wrth fy modd'

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

I nodi Dydd Miwsig Cymru ar 13 Chwefror, Cymru Fyw fu'n holi rhai o'r unigolion sy'n hanfodol i'r sin ond sydd ddim mor amlwg ar y llwyfan - y cerddorion 'sesiwn' sydd ar gael i recordio neu chwarae'n fyw am ffi.

Ioan Gwyn ac Osian LandFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Gwyn ac Osian Land

Pan oedd Osian Land yn ei arddegau ac yn benderfynol o fod yn ddrymiwr proffesiynol roedd cyngor ei fam yn un ymarferol - ac yn dod o brofiad.

"Fasa Mam yn deud pethau fel 'ti'm isio bod yn ddoctor'?A faswn i'n deud 'Na dwi isio bod yn ddrymar'," meddai.

"Dylanwad Dad ydi hwnna."

Ei dad ydi'r drymiwr Graham Land, ffigwr amlwg yn y sin ers yr 1980au fel chwaraewr sesiwn ac aelod o fand Bryn Fôn, cyn cael ei daro'n wael yn 2023. A'r hyn oedd ei rieni yn ei wybod ydi beth mae Osian rŵan yn ei brofi wrth geisio gwneud bywoliaeth fel drymiwr proffesiynol - mae'n waith anoddach i'r genhedlaeth yma.

"Pan dwi'n siarad efo Dad neu gerddorion eraill o'r 1980au a '90au cynnar, yn enwedig yng Nghaerdydd, roedda nhw'n gweithio'n solad drwy dydd, bob dydd yn neud gwaith sesiwn a chael cyflog da. Roedd 'na lot o waith teledu gan BBC a HTV.

"Os faswn i isio bod yn session musician dwi'n mynd i orfod mynd i Lundain neu Nashville - dyna'r unig lefydd alli di neud o drwy'r dydd, bob dydd."

Graham ac Osian LandFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Osian Land, gyda'i dad y drymiwr Graham Land

Ond os ydi'r 'oes aur' wedi mynd, dydi'r gŵr 22 oed ddim yn difaru dechrau ar yrfa yn y byd cerddorol.

"Tydi hynny heb deterio fi," meddai. "Ers dwi'n fabi dwi 'di caru'r dryms a does 'na ddim un diwrnod sy'n teimlo fatha gwaith.

"Ond ma'r diwydiant wedi newid gymaint."

Mae Osian yn chwarae mewn bandiau ers ei arddegau yn cael ei fagu yn ardal Llanrug, ger Caernarfon. Erbyn y chweched dosbarth roedd yn cael mwy o gynigion i chwarae gydag artistiaid yng Nghaerdydd a phenderfynodd mynd i'r coleg yno er mwyn bod yn agosach.

Ac ers graddio llynedd, mae wedi dechrau ar ei yrfa fel cerddor.

Osian Land yn chwarae drymiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Fel sy'n gyffredin o fewn y maes, mae'n gorfod meddwl yn eang er mwyn talu'r biliau.

Mae'n gwneud gwaith 'sesiwn' traddodiadol a chael ei dalu i recordio mewn stiwdio neu berfformio yn fyw gydag artistiaid. Mae o hefyd yn aelod o sawl band - gan gynnwys Dienw, Pasta Hull, Crinc, Sage Todz a Betsan.

Ar ben hynny mae o'n creu curiadau a rhythmau dryms - beats - a'u gwerthu i artistiaid hip hop a rap, ac mae'n gwneud cwrs i wella ei sgiliau cynhyrchu cerddoriaeth.

Mae'n waith caled, ond mae o wrth ei fodd.

"Mae o'n gallu bod yn anodd," meddai. "Cyfnodau fel Ionawr mae petha'n cymryd dip a lot o bobl yn stopio chwarae am y gaeaf, ond ti dal yn gallu cael gwaith constant. Ond pan ma'r haf yn dod rownd mae o chydig bach yn ridiculous. Yn y 'Steddfod ti'n gorfod rhedeg o un sdêj i'r llall.

"Os dwi angen bod yn rhywle yn gigio yn y nos dwi ddim yn dechra' gwaith tan tua chwech neu saith yn nos ac fel arfer ddim yn stopio tan tua dau neu dri yn bore, erbyn dod adra… ond dwi wrth fy modd.

"Ella fyddai'n deud rwbath gwahanol mewn 10 mlynedd ond ar hyn o bryd dwi wrth fy modd."

Ioan Gwyn yn chwarae basFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Gwyn yn chwarae'r bas fel cerddor proffesiynol

Un sydd mewn sefyllfa debyg, ond gydag ambell flwyddyn fwy o brofiad dan ei felt, ydi Ioan Gwyn.

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, fel Osian fe symudodd i Gaerdydd er mwyn bod yn agosach at waith fel cerddor sesiwn.

Mae'n dweud bod i'r hadyn am yrfa gerddorol gael ei blannu wrth chwarae'r trombôn bas gyda Band Pres Ieuenctid Biwmares, a chael chwarae yn yr Albert Hall.

Meddai: "Mae cael y cyfleoedd yna trwy stwff fel band cymunedol - nath hwnna neud fi feddwl 'dwi eisiau gwneud mwy o stwff fel hyn'. Ac fel dwi wedi mynd yn hŷn dwi jyst yn sylweddoli pa mor lwcus o'n i i gael y cyfleoedd yna a'r sgiliau cerddorol heb ti sylwi."

Ioan Gwyn yn ei arddegau gyda trombon bas ac yn ddiweddar gyda gitar fasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dwbwl bas... dywedodd Ioan Gwyn bod chwarae'r trombôn bas a chanu bas mewn côr wedi ei helpu wybod mwy am rôl bas mewn cerddoriaeth

Fe ffeiriodd ei drombôn bas am gitâr bas a mynd yn ei flaen i astudio'r offeryn yn Guildford, cyn gwneud MA mewn perfformio yng Nghaer a symud i Gaerdydd yn 2018.

Mae'n dweud ei fod yn ffodus o gael swydd weinyddol rhan amser gyda Function Hub, asiantiaeth sy'n trefnu cerddorion ar gyfer priodasau a digwyddiadau yng ngogledd Cymru a Chaer.

Mae'r gwaith trefnu - a thaliad am chwarae mewn priodasau drwy'r cwmni - yn rhoi sicrwydd cyflog iddo.

Ond mae anodd cael cydbwysedd rhwng chwarae mewn priodasau a tribute bands sy'n talu "cyflog teg", a gwaith cerddorol arall sy'n talu llai ond yn gallu arwain at brofiadau cerddorol diddorol.

Mae'n chwarae gydag artistiaid fel Mari Mathias, Mali Haf a Sage Todz ac mae ganddo brosiect cerddorol ei hun - Palug, grŵp gwerin arbrofol.

"Efo Mari Matthias 'da ni wedi chwarae yn Lorient Interceltic Festival ddwywaith a'r tro cyntaf aethon ni yna, nath hwnna hitio fi fel 'I've made it' moment a neshi feddwl OK, mae hwn yn cool, let's go again," meddai.

"Ond mae yna risg dwi wedi'i gymryd i fedru gwneud hynny lle dwi wedi chwarae gigs yn rhywle fel Aberteifi a mynd yr holl ffordd yna i chwarae am £50, aros yn nhŷ Mari Mathias ac wedyn dreifio nôl diwrnod wedyn a ti'n meddwl, ok, fydden ni ddim yn gallu neud hyn loads o weithiau."

Mali HafFfynhonnell y llun, Adam Houghton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Gwyn yn gweithio gyda nifer o artistiaid yn rheolaidd, gan gynnwys Mali Hâf

Ond mae'r gwobrau sy'n dod gyda'r ymroddiad yn dod â phrofiadau bythgofiadwy meddai, fel perfformio yn Glastonbury gyda Mali Hâf y llynedd.

Ei gyngor i unrhyw un sy'n ystyried swydd debyg ydi magu cysylltiadau, bod yn barod i dderbyn gwaith ar funud ola' a bod yn drefnus.

Meddai: "Dwi jest mewn gymaint o group chats, lle mae pobl yn mynd, 'yda chi ar gael ar gyfer hwn?' Ac wedyn dwi'n gorfod dweud as soon as possible, achos os ti ddim yn atab yn sydyn, mae pawb yn y chat yn mynd yn annoyed.

"So, cael calendr chdi'n sorted a gweld os ti ar gael, a hyd yn oed os ti ddim ar gael jyst dweud. Mae hwnna'n bwysig."

Llun teulu o rai blynyddoedd yn ol o Osian Land yn blentyn gyda'i frawd Sion a'u tad Graham
Disgrifiad o’r llun,

Drymars United... Osian (chwith) yn blentyn gyda'i frawd Siôn, drymiwr y band Alffa, a'u tad Graham yn y cefndir

A dyna wers mae Osian Land wedi ei ddysgu yn barod. Mae'n dweud bod ei sgiliau rheoli amser wedi gwella'n aruthrol ers dechrau gweithio fel cerddor a'r brif reol ydi bod yn broffesiynol.

Meddai: "Mae'r attitude yna wedi dod gan Dad a gwybod y values oedd ganddo fo fel drymar proffesiynol - doedd o erioed yn gorfod deud wrtha i i fynd i ymarfer, o'n i jest yn gwbod.

"Ti angen troi fyny ar amser, peidio anghofio dim byd, neud yn siŵr bod chdi 'di ymarfer ac yn gwybod dy stwff a bod chdi'n gwybod be' ti angen neud a dwi wedi cael gwaith oherwydd hynny.

"Tydi o ddim yn teimlo fel job ond dwi'n trin o fel job a bod yn broffesiynol."

Pynciau cysylltiedig