Edwin 'Sacs': Cofio'i ddyddiau fel soldiwr heddychlon oedd yn caru reggae

'Edwin Sacs' yn ôl ar Llwyfan y Maes gydag Anweledig - un o uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
- Cyhoeddwyd
Roedd Edwin Humphreys yn heddychwr, yn aelod o Amnesti Rhyngwladol ac yn chwarae mewn band reggae ar ôl cymysgu efo 'lefties a hippies' - hyn i gyd tra'n aelod o'r fyddin. Does ryfedd mai fel cerddor ac nid fel soldiwr wnaeth ei yrfa flodeuo.
Ac wrth iddo berfformio ar y llwyfan gyda sombrero ar ei ben a sandalau am ei draed, y sacsoffon nid y gwn sy'n gyfforddus yn ei law.
Ers ei ddyddiau cynnar yn y fyddin, mae Edwin 'Sacs' Humphreys wedi ffeindio'i le yn y byd. Mae'n ffigwr adnabyddus ers blynyddoedd yn y sin cerddoriaeth Gymraeg, sy'n amlwg o'i ffugenw arall - 'Edwin Chwarae efo Pawb'.

Mae Edwin Humphreys (canol) yn ffigwr adnabyddus ar lwyfannau'r Eisteddfod Genedlaethol, ble mae'n chwarae gyda nifer o fandiau gwahanol, gan gynnwys yma ar Lwyfan y Maes yn Steddfod Wrecsam 2025 gyda band Geraint Løvgreen
Fe ddechreuodd ei gariad at gerddoriaeth yn ystod ei fagwraeth yn Nyffryn Nantlle.
Roedd ei dad, a oedd yn aelod o'r band lleol, yn ei annog i chwarae'r corn a'i fam yn dod â recordiau clasurol adref gyda hi o'i gwaith mewn siop leol.
Ar ôl methu yn ei arholiadau Lefel O gan ei fod o'n "chwarae'r ffŵl" yn y dosbarth fe gafodd gyngor ar sut i symud ymlaen gyda'i addysg gerddorol.

Edwin (y disgybl ar y chwith yn y rhes gefn) yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Megan Roberts, ei athrawes cerdd, sydd ar y dde
"Nes i siarad efo'r careers officer yma, a dyma fo'n dweud 'fedri di ddim mynd i coleg, sgeno chdi ddim qualifications i fynd i coleg'," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"Ond nath o awgrymu ymuno efo'r fyddin a mynd i'r Military School of Music. A dyna be' nesh i."
Felly'n 16 oed fe adawodd Ddyffryn Nantlle a mynd i Dorset am ddwy flynedd i wella ei sgiliau cerddorol a dysgu sgiliau militaraidd.
Y Corn Ffrengig oedd ei offeryn am y misoedd cyntaf - ar ôl iddo gael clyweliad gyda'r ewffoniwm, sef ei offeryn yn Band Nantlle. Newidiodd i'r clarinét wedi i'r clarinetydd anafu ei law mewn damwain motobeic.

Edwin yn chwarae'r clarinét yn yr Almaen yn 1983 gyda band milwrol y 14th/20th King's Hussars
Ond roedd arwyddion cynnar mai yn y byd cerdd oedd ei ddoniau ac offerynnau oedd ei arf naturiol:
"Rhyw ddau ddiwrnod y flwyddyn, roedda ni'n gorfod neud basic fitness tests a mynd ar y firing range, just i saethu. Ond geshi'n hel off. Neshi droi rownd a pwyntio'r peth at bawb, a nathon nhw hel fi o 'na."
Ar ôl gorffen ei hyfforddiant aeth drosodd i'r Almaen gyda'i gatrawd - y 14th/20th King's Hussars.

Edwin yn ôl yn chwarae yn Ewrop yn 1990, y tro hyn gyda'r band Catraeth mewn gŵyl yn Naoned neu Nantes, Llydaw
Yn y fyddin, mae gan aelodau band swyddogaeth gwahanol i filwyr arferol. Mewn rhyfel, gwaith meddygol yn hytrach na chwffio ydi rhan o'u rôl nhw, a phan nad oes 'na frwydro maen nhw'n rhoi adloniant i'r lluoedd.
"Roedd o'n lot o hwyl - roedd y bandmaster yn hoyw, er bod neb i fod i wybod felly. So oedd o ddim yn ddyn filitaraidd o gwbl," meddai.
"Roedda ni'n codi am 09:00, mynd i'r bandroom, ymarfer fatha unigolion tan 10:00 a practice wedyn o 10:00 tan hannar dydd, ac wedyn pnawn off. Ac wedyn gyda'r nos mynd i neud rhyw engagement yn rhywle.
"Oedda chdi'n gorfod neud lot o officer's mess a rhyw beth felly hefyd. Ond band bach iawn oddan ni - rhyw 16 ohono ni oedd yn y band - so roedda ni'n rhad iawn i symud o gwmpas.
"Felly roedda ni'n gallu teithio Ewrop i gyd lle'r oedd y bandiau mawr yn gorfod neud y marching up and down the square. Roedda ni'n cael amser brafiach o lawer."

Mae Edwin yn aelod o Bob Delyn a'r Ebillion ers eu dyddiau cynnar
Tra'r oedd o'n Ewrop roedd o'n gallu gwthio'r ffiniau a chael bywyd fyddai ddim yn cael ei ganiatáu petai'r uwch swyddogion yn gwybod.
"Yn yr Almaen roeddan ni'n cael get away efo lot o betha' sydd ddim rili'n militaraidd," meddai.
"O'n i'n chwarae mewn band reggae yn Yr Almaen. Fi a'n ffrind, roedda ni'n permio'n gwalltiau yn dynn, dynn.
"Ac wedyn pan odda ni'n mynd allan, rodda ni'n stwffio'n penna o dan tap ac wedyn yn tynnu'r gwallt yma allan, ac roedd o'n hongian bob man. Felly odda ni ddim yn edrych fatha soldiwrs.
"Mi roedd 'na far tu allan i'r pentra (lle'r oedd wedi ei leoli) lle doedd neb yn cael mynd oherwydd bod 'na llwyth o lefties a hippies yn mynd yna.
"Ac wedyn, wrth gwrs, roedd rhaid i ni gael mynd i fanno yn doedd i ffeindio allan sut fath o le oedd o. A wnaethon ni ffrindiau efo'r band reggae yma a chwarae efo nhw."

Reggae Cymraeg... Edwin, pedwerydd o'r dde, gydag Anweledig. Roedd o'n chwarae gyda nhw eto eleni, ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Wrecsam
A thra'r roedd o'n gallu gwneud hynny am sbel heb gael trafferth gan ei fosys, fe newidiodd pethau pan ddaeth ei gatrawd yn ôl i Brydain a chael eu lleoli yng Nghatraeth, gogledd Lloegr.
"(Roedd rhaid fi adael oherwydd) bob math o bethau - busnas y gwallt yma ac o'n i wedi joinio Amnesty International - a ti'm yn cael neud hynny os oedda ti yn y fyddin.
"O'n i jest y person lleia military fysa chdi'n gallu cael mewn catrawd. O'n i'n heddychwr, especially ar ôl bod efo band reggae.
"O'n i'n dysgu petha gwahanol iawn am y byd ac yn meddwl 'oh, god ella bod fi ddim i fod yn y fyddin!'
"Ac o'n i'n ffrindia efo Mari a Joanna os 'da chi'n gwybod be' dwi'n feddwl. Allan a fi!"

Edwin gyda Dan Morris yn un o sesiynnau cerddorol anffurfiol Sesiwn Fawr Dolgellau
Y byd cerddoriaeth Cymraeg wnaeth elwa o benderfyniad y fyddin.
Aeth Edwin i fyw i Gaernarfon a dechrau chwarae gyda bandiau a gwneud gwaith sesiwn i raglenni teledu, gan gynnwys Cân i Gymru a cherddoriaeth agoriadol C'mon Midffîld.
Dros y degawdau mae o wedi chwarae'n fyw a recordio gyda nifer fawr o brif artistiaid Cymraeg gan gynnwys Meic Stevens, Steve Eaves, Anweledig, Bryn Fôn, Geraint Løvgreen, Gorky's Zygotic Mynci, Tecwyn Ifan a Gruff Rhys.

Edwin yn defnyddio cerddoriaeth yn ystod ei yrfa fel nyrs. Gydag o mae Glenda oedd yn teithio ysgolion cynradd i siarad am ei dementia, ac Emma, rheolwraig uned yn Ysbyty Allt Wen
Mae o'n chwarae efo Bob Delyn a'r Ebillion ers eu dyddiau cynnar ac mae ei waith sacsoffon a chlarinét i'w clywed ar dros 100 o recordiau.
Ers blynyddoedd bellach mae o wedi ymgartrefu ym Mhen Llŷn a gweithio yn y maes iechyd seiciatryddol gan fod gwaith i gerddorion wedi mynd mor brin.
Roedd yn defnyddio cerddoriaeth yn ei waith, er enghraifft gyda chleifion efo dementia, ac ers ymddeol o'r GIG yn ddiweddar mae o wedi dechrau gweithio fel athro cerddorol perapategig.
Meddai: "Hwn ydi'r jobyn gorau fedrith unrhyw berson gael dwi'n meddwl.
"Maen nhw'n gymaint o hwyl - mae plant yn ffantastig, maen nhw'n llawn storis newydd bob tro yda chi'n gweld nhw."

Yn ei filltir sgwâr - Edwin yn chwarae yn Nhafarn y Fic, Llithfaen, a gyda'i wraig Einir, pan gafodd ei urddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023
Gallwch wrando ar sgwrs Edwin Humphreys ar Beti a'i Phobol am 18:00 ar 7 Rhagfyr ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023
