Ystradgynlais: Arestio bachgen 17 oed wedi cyfnod clo yn Ysgol Maesydderwen

Heddlu ar y safle
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys eu galw i Ysgol Maesydderwen tua 10:45 fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anfon cyfathrebiadau digidol yn cyfleu bygythiadau o farwolaeth neu niwed difrifol gyda'r bwriad o achosi ofn.

Bu'n rhaid i Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais gau ar ôl gorfod mynd i gyfnod dan glo ddydd Llun yn dilyn adroddiad o fygythiad dros y ffôn.

Dywedodd y llu ddydd Llun fod yr ysgol wedi ei chloi er mwyn blaenoriaethu diogelwch pawb.

Cadarnhaodd y llu nad oedd adroddiadau o unrhyw un wedi eu hanafu yn yr ysgol, a bod yr holl ddisgyblion a staff wedi cael eu cadw ar y safle yn ddiogel wedi'r digwyddiad.

Arhosodd yr ysgol ar gau ddydd Mawrth yn dilyn datblygiad yn ymchwiliad yr heddlu.

Yn dilyn yr ymchwiliad i'r bygythiadau a wnaed mewn perthynas ag Ysgol Maesydderwen daeth cadarnhad ddydd Gwener gan yr heddlu bod dyn ifanc o Bontardawe wedi'i arestio.

Mae'r bachgen bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau.

'Wedi cael effaith ddofn'

Mewn datganiad dywedodd yr Uwcharolygydd o Bowys, Gareth Grant: "Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r rhieni, yr athrawon, y staff a'r gymuned ehangach, am y gefnogaeth a'r amynedd rydych chi wedi'u dangos wrth i ni gynnal ein hymholiadau mewn perthynas â'r digwyddiad hwn.

"Rwy'n deall y bydd hyn wedi cael effaith ddofn. Bydd ein swyddogion Cymdogaeth yn cynnal presenoldeb lleol i dawelu meddwl pobl, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n hysgolion uwchradd lleol, a'n partneriaid, i sicrhau bod ein cymuned leol yn cael ei chefnogi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig