Ysgol Gymraeg Llundain yn derbyn grant gan y Llywodraeth

Cafodd Ysgol Gymraeg Llundain ei sefydlu yn 1958
- Cyhoeddwyd
Ar ôl blwyddyn bryderus, mae Ysgol Gymraeg Llundain yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi cefnogaeth ariannol iddyn nhw am y tair blynedd nesaf.
Mewn llythyr at gefnogwyr yr ysgol, dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Glenys Roberts, y bydd hyn "yn rhoi'r hyder i staff, rhieni a Llywodraethwyr i barhau gyda'u hymgyrch i gryfhau seilwaith yr ysgol, a thrwy hynny, ddenu mwy o ddisgyblion".
Ar hyn o bryd mae 12 o blant yn yr ysgol yn Hanwell yng ngorllewin Llundain ac yn ôl y Llywodraethwyr maen nhw wedi cael ymholiad yn ddiweddar gan ddau deulu â thri o blant rhyngddynt, yn awyddus i gychwyn yn yr ysgol eleni.
Mae 15 o deuluoedd ag 20 o fabanod a phlant bach yn y cylch Miri Mawr.
Mae'r ysgol wedi bod yn derbyn cyllid fel rhan o strategaeth 'Cymraeg 2050' y Llywodraeth, i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg yn Llundain ac wedi cadarnhau cyllid ar gyfer Ysgol Gymraeg Llundain am y tair blynedd nesaf, am £91,000 y flwyddyn."
Ymgyrchwyr yn galw am ddyfodol sicr i Ysgol Gymraeg Llundain
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025
Morgan yn cwestiynu 'cynaliadwyedd' Ysgol Gymraeg Llundain
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2025
Mae amodau ynghlwm wrth yr arian, gan gynnwys cynyddu nifer y disgyblion, ac mae'r gwaith yna eisoes wedi cychwyn, yn ôl Glenys Roberts.
"Mae amodau'r grant ar waith eisoes.
"I ni, y peth pwysicaf yw cynyddu'r nifer o ddisgyblion. Mae gwybod bod y grant yn cael ei roi dros dair blynedd yn rhoi llawer mwy o hyder i rieni i anfon eu plant atom."
Ers bron i 70 mlynedd mae'r ysgol wedi bod yn gartref i'r iaith Gymraeg a diwylliant yn Llundain.
Fe gafodd ei ffurfio yn wreiddiol ym 1958 gan grŵp o rieni, gan gychwyn gyda 30 o ddisgyblion.
Ond roedd pryder am y dyfodol, wrth i nifer y disgyblion ostwng ar ôl covid-19.
Un o'r rhesymau am hynny, yn ôl yr ysgol, oedd bod nifer o deuluoedd wedi symud yn ôl i Gymru oherwydd y pandemig.
Roedd yr ysgol hefyd yn wynebu problem wrth i gostau gynyddu ac roedd angen arian er mwyn datblygu'r ysgol a darpariaeth tu allan, cynnal yr adeilad a phrynu adnoddau.
Roedd y sefyllfa yn heriol iawn. Yr adeg yma llynedd roedd yr ysgol yn wynebu diffyg ariannol o £2,500 bob mis. Mae hynny yn gyfanswm o £30,000 y flwyddyn.
Y disgwyl oedd y byddai hynny yn debyg o barhau am y tair blynedd nesaf, os na fyddai disgyblion newydd yn cael eu cynnwys ar y gofrestr.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r ysgol wedi gweld twf sylweddol yn nifer y plant a theuluoedd sy'n mynychu cylch chwarae Miri Mawr ac mae hynny wedi rhoi hyder iddyn nhw.
Mae tua 20 o fabanod a phlant bach yn mynychu'r cylch ar hyn o bryd ac mae hynny yn "galondid mawr" i'r rheolwyr.
Ond ar yr un pryd, y pryder oedd na fydde'r plant yma yn cyrraedd oedran ysgol am hyd at dair blynedd arall ac - yn y cyfamser - roedd yna fwlch.
'Rhan annatod o'r gymuned Gymraeg'
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gefnogi Ysgol Gymraeg Llundain am y tair blynedd nesaf.
Mae'r amodau sydd ynghlwm wrth yr arian yn cynnwys "cynyddu nifer y disgyblion, cynnal a chadw Miri Mawr, cynyddu nifer y rhieni sy'n dysgu Cymraeg neu yn ail-afael yn y Gymraeg a datblygu'r Eisteddfod tu fas i Gymru".
Dywed Glenys Roberts: "Yn dilyn ymgyrch gref gan dîm gweithgar a phenderfynol o rieni a chefnogwyr, llwyddwyd i argyhoeddi Llywodraeth Cymru bod yr ysgol yn rhan annatod o'r gymuned Gymraeg yn Llundain".
Dywedodd Llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn "falch o weld Ysgol Gymraeg Llundain yn derbyn sicrwydd o'r diwedd" a bod yr ysgol yn fodel gweithredol o drosglwyddo iaith a diwylliant.
"Mae annog y Gymraeg a'n cymunedau Cymreig i ffynnu'n rhan greiddiol o weledigaeth Plaid Cymru."
Mae Reform UK, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi derbyn cais am ymateb.