Teyrngedau i'r llenor Eigra Lewis Roberts sydd wedi marw'n 86 oed

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974
- Cyhoeddwyd
Mae'r llenor a'r prifardd, Eigra Lewis Roberts, wedi marw yn 86 oed.
Wedi'i geni ym Mlaenau Ffestiniog, ysgrifennodd ddegau o gyfrolau yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu.
Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg y Brifysgol ym Mangor ac ar ôl graddio, bu'n dysgu am gyfnod yng Nghaergybi a Llanrwst cyn troi at ysgrifennu.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974.
Cafodd wobr am 'nofel agored' yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon gyda'i nofel gyntaf, 'Brynhyfryd', pan oedd ond yn 20 oed.
Yn 1995 derbyniodd wobr BAFTA Cymru am y sgriptiwr gorau.
Yn 2006, ar ddiwrnod ei phen-blwydd, enillodd ei choron gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am ddilyniant o gerddi am fywyd stormus y bardd Sylvia Plath.
'Menyw ryfeddol'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, bu'r golygydd llyfrau Bethan Mair - oedd wedi gweithio gydag Eigra Lewis Roberts - yn rhoi teyrnged iddi.
"Roedd hi'n cyhoeddi 'Bryn Hyfryd' ei nofel gyntaf pan roedd hi prin yn 22 oed, gan osod ei stamp yn syth gyda'r nofel honno.
"Mae hi wedi cyhoeddi toreth o lyfrau a bydden ni'n dweud ei bod hi'n cael ei chysylltu â thri lle, Blaenau Ffestiniog, Dolwyddelan - lle buodd yn byw am ran fwya' ei hoes - a Min Afon.
"Roedd hi'n fenyw ryfeddol, yn awdur hyd at flaenau ei bysedd a gallu gwneud ei bywoliaeth o fod yn awdur," meddai.

Cafodd Eigra Lewis Roberts ei disgrifio fel "menyw ryfeddol"
Dywedodd Bethan Mair ei bod hi'n "driw i Wasg Gomer ar hyd ei hoes, sy'n eithaf unigryw".
"Yn awdur a ddechreuodd yn ifanc a daliodd ati tan iddi hen basio oed ymddeol.
"Wnaeth hi ddim cyrraedd rhestr Llyfr y Flwyddyn tan 2006, oedd yn rhyfeddol o beth bod awdur yn gallu cael gyrfa mor amrywiol dros gyfnod mor hir a pharhau i fod yn feistr corn ar ei chrefft.
"Yn fwy diweddar roedd hi wedi 'sgwennu ar gyfer y teledu gan addasu lot o'n llenyddiaeth fawr ni - Y Graith, Y Wisg Sidan gan Elena Puw Morgan er enghraifft, a rhai o fawrion Kate Roberts fel Y Mynydd Grug - addasiad hollol nodweddiadol a phwysig 'nôl yn y '90au.
"Roedd hi'n fenyw annwyl iawn iawn, yn gwisgo ei dawn yn ysgafn pan roeddech chi'n cwrdd â hi," ychwanegodd.
'Gallu anhygoel i greu cymeriadau'
Roedd Eigra Lewis Roberts yn awdures ar gyfres deledu boblogaidd yn yr 1980au, 'Minafon'.
Ar Dros Frecwast, dywedodd un o actorion y gyfres honno, John Ogwen, ei bod hi wedi "creu cymeriadau wirioneddol gofiadwy".
"Dyna pam mewn gwirionedd bod y gyfres wedi bod mor boblogaidd. Mae'n anodd meddwl erbyn heddiw bod yna 200,000 yn ei gwylio hi!"
Aeth John Ogwen yn ei flaen i ddweud mai'r hyn yr oedd yn ei gofio am y gyfres "oedd pa mor hawdd oedd cofio'r llinellau".
Roedd hynny'n wir "oherwydd ysgrifennu gwych Eigra," meddai.
"Dwi wedi darllen ei llyfrau i gyd a beth oedd ganddi oedd y gallu anhygoel i greu cymeriadau," ychwanegodd.
'Enillydd toreithiog'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Newyddion trist am golli'r bardd a'r llenor, Eigra Lewis Roberts heddiw.
"Roedd hi'n enillydd toreithiog yn yr Eisteddfod - y Fedal Ryddiaith ddwywaith, Tlws y Ddrama ac yna'r Goron yn Eisteddfod Abertawe 20 mlynedd yn ôl.
"Yn awdur rhai o nofelau enwocaf ein cenedl, byddwn yn ei chofio am ei chyfraniad arbennig i lenyddiaeth Cymru.
"Rydyn ni'n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei theulu a'i holl ffrindiau heddiw ac yn diolch am ei chyfraniad, ei gwaith a'i chefnogaeth."
Mewn neges arall ar y cyfryngau cymdeithasol disgrifiodd y cyhoeddwyr, Gwasg y Bwthyn, Eigra, fel "un o gonglfeini llenyddiaeth a llunyddiaeth Gymraeg ers dros drigain mlynedd",
Dywedon nhw ei bod hi'n "fraint cael cyhoeddi ei hunangofiant, Hogan Fach o'r Blaenau, yn 2021".
Ychwanegon nhw: "Mae Cymru heddiw'n dlotach o'i cholli.
"Cydymdeimlwn â'i theulu yn eu colled ar ei hôl."