Dyn yn gwadu ceisio llofruddio menyw yng Nghaerfyrddin

James McKennaFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos llawn yn erbyn James McKenna gael ei gynnal yn yr haf

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o geisio llofruddio menyw mewn parc yng Nghaerfyrddin.

Ond mae James McKenna wedi cyfaddef cyhuddiadau eraill o anafu'n fwriadol a bod ag arf finiog - cyllell gegin - yn ei feddiant, mewn man cyhoeddus.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Joanne Sidaway ym Mharc Caerfyrddin, ar 29 Ionawr.

Fe ymddangosodd y diffynnydd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener trwy gysylltiad fideo o Garchar Abertawe.

Mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ym mis Gorffennaf.

Presenoldeb heddlu yn ardal Heol Picton yn dilyn y digwyddiad honedig ym Mharc CaerfyrddinFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Presenoldeb heddlu yn ardal Heol Picton yn dilyn y digwyddiad honedig ym Mharc Caerfyrddin

Yn dilyn y digwyddiad honedig, fe aeth Heddlu Dyfed Powys ati i chwilio am Mr McKenna, sy'n dod o Gaerfyrddin ond sydd â chysylltiadau yn Iwerddon.

Ar y pryd fe wnaeth y llu ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth iddyn nhw gynnal ymholiadau.

Fe gafodd ei arestio maes o law yn dilyn apêl i'r cyhoedd am gymorth.

Cafodd Joanne Sidaway ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad honedig a'i rhyddhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.