Genod Pres yn chwalu stereoteips byd y bandiau a phêl-droed

Genod Pres yn y SwistirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Genod Pres - sy'n ceisio efelychu'r hyn mae'r Barry Horns yn ei wneud ers blynyddoedd yng ngemau pêl-droed tîm dynion Cymru

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Pan ddechreuodd Manon Elwyn chwarae mewn seindorf pres oedolion am y tro cyntaf, roedd yn fedydd tân i ferch ifanc. Roedd y rhan fwyaf yn ddynion - a hynny mewn ardal chwarelyddol lle mae tynnu coes yn rhan o'r diwylliant.

"Mwya' sydyn o'n i'n ferch 11 oed mewn stafell llawn dynion hŷn oedd yn gwneud jôcs a thynnu coes," meddai. "Doedd o ddim yn hawdd bob tro. Ro'n i'n oce efo fo a dwi'n ddiolchgar iawn o'r cyfnod achos mae o wedi helpu fi efo datblygu cymeriad, a rhoi hyder i fi.

"Os ti 'di arfer cymryd jôc a gorfod chwarae corn ar ben dy hun o flaen pawb i gael y darn yn iawn a gorfod delio efo hynny, mae o'n helpu chdi fod yn fwy hyderus ac i ddelio efo pethau yn gyffredinol.

"Ond os ti'n berson dihyder dwi'n siŵr bod o'n gallu rhoi chdi off."

Ac annog y merched hynny i barhau ydi un bwriad Genod Pres, grŵp bychan mae hi'n aelod ohono fydd yn rhan o fwrlwm gemau rhagbrofol Cwpan y Byd tîm menywod Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Genod Pres
Disgrifiad o’r llun,

Genod Pres

Mae gwreiddiau cerddoriaeth pres - fel pêl-droed - yn yr ardaloedd diwydiannol. Mewn hen luniau du a gwyn o fandiau mae'r aelodau i gyd yn ddynion.

Er bod y chwareli a'r pyllau glo wedi cau, mae'r effaith yno o hyd, meddai Manon, sy'n wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon:

"Ti'n gweld o efo disgyblion ysgol - yr hogia' sy'n tueddu i chwarae corn. O'n i'n beirniadu yn yr Urdd yn ddiweddar a hogiau oedd yn cystadlu ar yr offerynnau pres, a'r merched yn fwy tueddol i chwarae chwythbrennau a llinynnau.

"Ond dwi'm yn cofio amser pan do'n i ddim isio chwarae offeryn pres."

Ei brawd mawr oedd y rheswm am hynny. Pan oedd o'n gadael y tŷ i fynd i ymarfer Band Ieuenctid Deiniolen, roedd Manon yn ei dagrau yn erfyn ar ei mam i gael mynd efo fo.

Yn syth pan oedd hi'n ddigon hen i chwarae - wedi i'w dannedd blaen oedolyn ddod i mewn pan oedd hi ym Mlwyddyn 2 - fe gafodd wersi gan ei chymydog. Dewi Griffiths oedd hwnnw - bellach yn wyneb cyfarwydd am chwarae'r Corn Gwlad.

Genod PresFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Manon, yn y canol, gyda Genod Pres ar flaen yr orymdaith i wylio gêm gyntaf Cymru yn Euro 2025

Aeth Manon yn ei blaen i fod yn aelod o nifer o fandiau gan gynnwys Deiniolen, Bandiau Ieuenctid Gwynedd a Môn a Band Ieuenctid Cymru.

Wedi iddi roi'r gorau iddi tua 10 mlynedd yn ôl, yn ddiweddar fe gytunodd i ail-afael yn y corn i ymuno efo Band Llanrug.

Meddai: "Dwi'n rili licio fo - mae'n rhywbeth sy'n dda i iechyd meddwl rhywun, rhywbeth gwahanol i dy waith bob dydd, a 'da'n ni gyd yn ffrindiau ac yn mwynhau'r un profiadau efo'n gilydd. Ro'n i 'di methu hynny a dwi'n falch o'i gael o yn ôl."

Ac mae hi'n falch o ail-ddechrau'r corn am reswm arall hefyd gan fod un peth wedi arwain at y llall.

Ddechrau'r haf llynedd fe gafodd neges ei basio 'mlaen iddi gan ffrind: fyddai hi'n gallu cael digon o ferched at ei gilydd i greu band pres bychan i chwarae cyn gêm agoriadol - a hanesyddol - tîm merched Cymru yn Euro 2025?

Roedd 'na ddau broblem. Doedd ond wythnos tan y gêm ac roedd Manon yn priodi ymhen pythefnos.

Ond roedd yn gynnig rhy dda i'w golli. Yn ffodus roedd sawl merch arall yn gyd-aelodau o Fand Llanrug a chwech ohonyn nhw yn barod i fynd i'r Swistir ar fyr-rybudd, lle gawson nhw eu hysbrydoli.

Genod Pres mewn gorymdaithFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Arwain y Wal Goch yn Lucerne, fis Gorffennaf 2025

"Gafon ni gymaint o dderbyniad da yn Y Swistir doedda ni ddim wedi disgwyl hynny," meddai Manon.

"A doedda ni heb sylweddoli faint mae gêm y merched yng Nghymru wedi tyfu. Mae 'na baralel mewn ffordd efo'r bandiau pres - yr un math o sefyllfa lle mae dynion wedi cael y rhan fwya' o'r sylw.

"Mae trefnu'r band yn cymryd lot o'n amser rhydd i ond mae o werth bob eiliad pan ti'n gweld pobl yn mwynhau - yn enwedig yn y gemau. Roedd pobl yn dod ata ni hanner amser yn deud peidiwch â stopio - pan 'da chi'n chwarae mae o'n codi hwylia' a chodi moral."

Fflur a Cadi
Disgrifiad o’r llun,

Fflur a Cadi mewn gig Genod Pres yn Galeri, Caernarfon yn ddiweddar

Yr aelod ieuengaf i fynd draw i'r Swistir oedd Cadi Glain, sy'n chwarae'r corn bariton ac yn ddisgybl chweched dosbarth.

"Dwi'n cofio cael yr e-mail gan Manon ac o'n i'n meddwl na scam oedd o tan 'nathon ni gyrraedd y stadiwm a meddwl 'na, mae hyn yn digwydd go iawn'," meddai.

"Pan oedda ni'n marchio at y stadiwm roedda ni'n mynd i fyny'r allt a dwi'n cofio troi rownd a gweld yr holl bobl tu ôl i ni - ma' hwnna'n rhywbeth nai byth anghofio."

Fel Manon, y prif reswm ei bod hi wedi dewis offeryn pres ydi dylanwad teuluol - mae ei thad wedi bod yn rhan o fandiau pres ers degawdau.

"Doedd gen i ddim llawer o ddewis!" meddai Cadi. "Ond dwi ddim wedi newid offeryn a dwi'n dal i chwarae felly ma' hynny'n deud rwbath.

"Dwi'n meddwl bod o dal yn rhywbeth sy'n male dominated - ond mae 'na fwy o ferched rŵan na pan neshi ddechra'. Dwi yn band ieuenctid Biwmares hefyd a ma' hwnna yn hanner-hanner ac ma'n neis i weld mwy o ferched yn dod fewn i bethau fel yna."

Y gobaith ydi y bydd Genod Pres yn hwb i hynny.

Genod Pres efo Band Pres LlareggubFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau Band Pres Llareggub wedi bod yn gefnogol iawn i Genod Pres, gan roi cynnig iddyn nhw gyd-chwarae mewn trafodaeth am ganeuon pel-droed yn Eisteddfod Wrecsam 2025

Cystal oedd eu profiad yn y Swistir fe benderfynon nhw gario 'mlaen a dros y misoedd diwethaf maen nhw wedi perfformio mewn ambell ddigwyddiad.

Maen nhw hefyd wedi eu gwahodd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i fod yn rhan o ymgyrch tîm y merched i gyrraedd Cwpan y Byd 2027.

Genod PresFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Genod Pres yn chwarae yng ngemau cartref Cymru yn Llanelli, Wrecsam a Chaerdydd fis Mawrth a mis Ebrill

"Ma'n dda bod ni'n gallu mynd a dangos bod ni'n gallu gwneud hyn mewn rhywbeth sydd dal yn male-dominated - fel pêl-droed hefyd," meddai Cadi.

"Dwi'n meddwl 'neith o godi ymwybyddiaeth bod genod yn gallu cael rhyw fath o bŵer lle mae dynion 'di bod o blaen efo bandia' pres."

Meddai Manon: ""Dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod ni'n gallu hyrwyddo bod merched yn chwarae offerynnau pres ac yn rhan o'r diwylliant bandiau pres er bod ni yn y lleiafrif.

"Mae'n rhywbeth 'da ni'n gallu rhoi allan yna a bod yn rhyw fath o role model i ferched ifanc allan yna sy'n teimlo'n outnumbered."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.