Gavin Saynor: 'Does 'na ddim un person band pres wedi cael shortcut i'r top'

Gavin SaynorFfynhonnell y llun, Geneva
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gavin Saynor, sy'n un o artistiaid noddedig Geneva Instruments, yn brif chwaraewr tiwba gyda'r Black Dyke tan yr haf

  • Cyhoeddwyd

O chwarae gydag artistiaid fel Elton John, Tori Amos, Peter Gabriel a'r Beatles, Black Dyke Mills ydi un o fandiau pres enwoca'r byd.

Ond pan ddaeth cynnig i fynd i Hollywood ar ôl cael eu henwebu am Oscar am y gerddoriaeth ffilm orau yn 1999, wnaethon nhw wrthod mynd oherwydd fod ganddyn nhw gyngerdd elusennol yn eu cymuned.

Gavin Saynor, prif chwaraewr tiwba'r band tan yn ddiweddar, sy'n adrodd yr hanes i ddangos y cysylltiad sydd rhwng bandiau pres a'u cymuned, ar bob lefel.

"Doeddan nhw methu mynd, a dyna fo 'de," meddai. "Er bod y band wedi perfformio efo llwyth o bobl enwog, band pres pentref ydyn nhw dal i fod, rili, er bod nhw'n gallu tynnu chwaraewyr o bob man i mewn."

Mae'r cyswllt cymunedol yn wir amdano yntau hefyd wrth iddo baratoi i helpu dros gyfnod prysur y Dolig gyda'r band pentref wnaeth o ymuno â nhw pan oedd o'n saith oed a band ieuenctid ei fab, sydd nawr yr un oed yn cychwyn chwarae.

Gavin Saynor a'i gyd-chwaraewyr gyda'r Black Dyke yn arwyddo CDs Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gavin Saynor, ail o'r dde, yn llofnodi CDs yn dilyn cyngerdd yn Japan efo Black Dyke yn 2019

Yn Neiniolen ddechreuodd ei daith gerddorol. Yno cafodd o'i fagu tan symud i Fangor pan oedd o'n wyth oed, ac roedd cysylltiad teuluol gyda band pres y pentref chwarelyddol.

"Roedd yr hogia i gyd yn mynd i band, ac roedd y genod i gyd yn canu - fel oedd hi adeg hynny - felly o'n i bob tro yn mynd i ymuno efo'r band," meddai.

"Dwi'n cofio cerdded rownd y pentre' yn Deiniolen yn hogyn bach, ac roedd 'na rywun yn ymarfer yn fan'cw, rhywun arall yn ymarfer fan yna.

"Roeddan ni gyd yn gystadleuol yn erbyn ein gilydd yn mynd i eisteddfodau ac isio curo ein gilydd. Ac eto roedd 'na gymuned ffantastig yna a'r band ieuenctid wedi cynhyrchu chwaraewyr da, rhai o'r goreuon."

Band Ieuenctid DeinolenFfynhonnell y llun, Band Deiniolen
Disgrifiad o’r llun,

Gavin Saynor (ar y dde gyda'r tiwba) gyda Band Ieuenctid Deiniolen tua 1990. Aeth pedwar o'r chwaraewyr yn y llun ymlaen i helpu band YBS gipio teitl pencampwyr Prydain a phencampwyr Ewrop yn 1997

Fe gafodd ei ddewis i fand ieuenctid y sir ac yna band Cymru cyn mynd yn ei flaen i astudio cerddoriaeth bandiau pres ym Mhrifysgol Salford.

Dyma gychwyn cyfnod o dri degawd yn chwarae gyda rhai o fandiau gorau Prydain - gan gynnwys BT, Cory a'r band gydag adran bas chwedlonol, Faireys.

Gavin gyda adran bas Seindorf Arian DeiniolenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gavin gyda adran bas Seindorf Arian Deiniolen yn 1995 - efo Dafydd 'Twins' Evans, William Orwig a Goronwy Morris

Un adeg sy'n sefyll allan ydi ei gyfnod cyntaf gyda band Swydd Efrog, y Yorkshire Building Society - sydd bellach yn ôl yn defnyddio ei enw gwreiddiol, Hammonds.

Ar y pryd, o dan arweinyddiaeth David King, YBS oedd un o fandiau gorau'r byd, gyda bron i un rhan o bump yn gyn-aelodau o Fand Deiniolen.

Meddai: "Roedd gen ti'r band yma yng nghanol Yorkshire, y band gorau yn y byd ar y pryd, a pedwar o hogia Deiniolen yn y band - Iwan (Williams), Euros (Williams - brawd Iwan), Eilir (Williams), a finna'. Ac roedd Siân Fron weithia'n helpu allan achos roedd hi efo ni yn y coleg wedyn yn Salford. Anhygoel.

"Fel arfer pan mae band yn ennill yr Open neu beth bynnag mae bandiau eraill yn gyrru cerdyn llongyfarch ond nath YBS ddiolch i Deiniolen pan enillon ni'n Open yn '97."

Ar hyd y blynyddoedd mae ei gysylltiad gyda bandiau ei filltir sgwâr wedi parhau, gan gynnwys cyfnodau yn chwarae gyda Seindorf Arian Biwmares ac arwain bandiau Deiniolen, Llanrug a Phorthaethwy.

Gavin Saynor yn dathlu ennill ym Mhencamperiaethau Rhanbarthol Cymru yn 2003 fel arweinydd Seindorf Arian LlanrugFfynhonnell y llun, Seindorf Arian Llanrug
Disgrifiad o’r llun,

Gavin Saynor, fel arweinydd, yn dathlu ennill ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru yn 2003 gyda Seindorf Arian Llanrug

Yn 2019 fe ymunodd gyda Black Dyke Mills Band ar ôl cael gwahoddiad i fod yn brif chwaraewr tiwba ac un o chwe unawdydd y band.

Ac yntau'n byw yn Y Felinheli roedd yn rhaid teithio chwe awr yr wythnos i'r cwt band yn Queensbury, ger Bradford - a hynny ar ôl diwrnod o waith fel athro.

Amaturiaid yn chwarae ar lefel proffesiynol ydi aelodau'r bandiau pres i gyd ac roedd ei gyd-aelodau yn y seindorf hefyd yn gweithio 9-5, gan gynnwys athrawon, trydanwyr a mecanyddion.

Mae'n dweud ei fod yn ffodus bod y band wedi cytuno iddo fynd i un ymarfer yr wythnos yn lle dau, a chwarae mewn tua hanner o'r 50 o gyngherddau mae'r band yn ei wneud bob blwyddyn.

Gavin Saynor yn chwarae tiwbaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pencampwriaeth Ewrop 2023 yn Malmö, Sweden. Daeth y Black Dyke yn ail, ond yn gyfartal ar bwyntiau gyda'r band buddugol

Mae chwarae gyda bandiau safonol yn dod â gwobrau tu hwnt i'r profiad a balchder o chwarae ar y lefel uchaf.

Meddai Gavin: "Er 'na hobi ydi o ar ddiwedd y dydd, ti hefyd yn cael mynd ar dripiau, fel i Awstralia am bythefnos, neu i America am bythefnos, Japan am w'sos ac i'r Swistir dair neu bedair gwaith y flwyddyn - a ddim yn gorfod talu ceiniog i fynd.

"Ocê, 'di o ddim yn gyflog ond mae'r cyfleoedd ti'n cael a phrofiadau ti'n cael ohono fo yn amhrisiadwy.

"Dwi'n cofio bod yn Japan efo Black Dyke ac yn meddwl 'wow, pa mor lwcus yda ni i fod yn fama, efo dros 2,000 yn bob cyngerdd am wythnos gyfan'.

"Ac o'n i'n meddwl dydi criw bandiau fel Llanrug a Deiniols, dydi nhw ddim yn cael profiadau fel yna er bod nhw'n gweithio'n galed trwy'r flwyddyn gyfan ac yn chwarae bob carnifal ac yn ymarfer ac ati."

Gavin Saynor yn sefyll o flaen band yn chwarae unawdFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae unawd i Black Dyke yn Japan 2019

Fis Awst eleni, daeth ei gyfnod gyda'r Black Dyke i ben, gan agor y bennod gerddorol nesaf iddo.

Gyda theulu ifanc a gwaith llawn amser fel athro yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, mae saib o'r teithio wythnosol yn braf meddai. Ond yn barod mae o'n ystyried ambell i gynnig gan fandiau yn y flwyddyn newydd ac mae cyrraedd y brig yn dod â'i bwysau ei hun.

"Dwi heb chwarae rŵan ers dydd Sul ac mae'n nos Iau rŵan a dwi'n meddwl 'o mam bach fydd rhaid fi gael practis fory'," meddai.

"Ti bob tro'n meddwl be' os ydi'r ffôn yn canu a bod fi ddim cweit on form."

Mae o'n brysur gyda phrosiectau eraill hefyd gan gynnwys tiwtor i Fand Pres Ieuenctid Cymru a Band Pres Ieuenctid Prydain, ac mae'n paratoi i ddechrau rhoi gwersi meistr yn Cheetham School of Music:

"Fydda i'n mynd i ysgolion ac yn gweld lluniau cyn-ddisgyblion sydd wedi chwarae pêl-droed neu rygbi i Gymru - sy'n ffantastig - ond lle mae criw bandiau sydd 'di cynrychioli eu gwlad a chwarae yn genedlaethol?

"Mae o werth ei ddathlu dydi."

Gavin Saynor o flaen cwpan arian enfawr gyda dau o'i feibionFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gavin yn Venue Cymru, Llandudno, ar gyfer cyngerdd efo Black Dyke yn 2024. Gydag o mae ei blant Caleb ac Eban, a chwpan anferth Pencampwriaeth Prydain wnaeth y band ennill yn 2023

Er nad ydi o'n aelod o fand ar hyn o bryd, mae'r Nadolig dal yn brysur oherwydd gofynion bandiau pres dros yr ŵyl a'r cysylltiad sydd rhwng chwaraewyr a'u band cymunedol.

Mae'n helpu yng nghyngerdd Nadolig band Deiniolen a gyda band ieuenctid Porthaethwy, lle mae ei fab saith oed yn aelod newydd.

Meddai: "Mae o reit surreal - o fewn 10 diwrnod nes i gyngerdd efo Biwmares, cystadleuaeth efo Cory ac ymarfer We Wish You a Merry Christmas efo Band Bach Porthaethwy.

"Ond mae'r mwynhau yr un peth. Dydi pobl ddim yn coelio, ond chwarae 'di chwarae. Mae'r rôl yn wahanol ond dwi'n mwynhau nhw i gyd, a'r un peth ydi'r croeso bob man.

"Does 'na ddim un person pres wedi cael shortcut i'r top - maen nhw i gyd wedi bod efo band lleol, a dyna ti'n gofio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig