Yws Gwynedd: Angen i'r llywodraeth dalu incwm i gerddorion Cymru

Mae Yws Gwynedd wedi bod yn rhan o'r sin gerddoriaeth Gymraeg ers 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Yws Gwynedd wedi galw ar y llywodraeth i dalu incwm sylfaenol i artistiaid fel sy'n digwydd yn Iwerddon.
Byddai cefnogaeth ariannol yn sicrhau amser i artistiaid fod yn greadigol mewn cyfnod sy'n heriol iawn i'r celfyddydau, meddai.
Ar Ddydd Miwsig Cymru, dywedodd wrth Cymru Fyw y byddai'r buddsoddiad yn cael ei ad-dalu i'r economi wrth i bobl wario mwy drwy fynd allan i gigs yn ogystal â bod yn hwb i'r iaith a'r diwylliant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno cynllun incwm sylfaenol o'r fath.
Ychwanegodd eu bod wedi "cynyddu gwariant dydd-i-ddydd ar y celfyddydau a diwylliant gan 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl".
Angen gwobrwyo gwelliant
Mae Yws Gwynedd yn wyneb cyfarwydd ar y sin pop Cymraeg ers bod yn brif leisydd y band Frizbee 20 mlynedd yn ôl. Mae o'n parhau i fod yn un o'r artistiaid mwyaf poblogaidd ac yn rhedeg cwmni Recordiau Côsh.
Mae o bellach hefyd yn rhan o grŵp sy'n sefydlu Cymdeithas Labeli Cymru i sicrhau llais cryfach i'r labeli a'u hartistiaid.
Dywedodd bod trafodaethau yn sgil sefydlu'r gymdeithas wedi cadarnhau bod incwm artistiaid wedi cael ei effeithio gan nifer o ffactorau dros y blynyddoedd gan gynnwys lleihad mewn breindaliadau, effeithiau ffrydio digidol a thaliadau isel i chwarae'n fyw.
"Mae rhai o'r bobl sy'n rhedeg y labeli heddiw wedi bod yno fel artistiaid o'r blaen ac yn gwybod be' oedd y ffioedd o'r blaen ac yn gallu cymharu efo hynny," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae lot o bethau wedi dod i'r amlwg wrth drafod - tydi'r pres mae'r artistiaid wedi ei gael o freindaliadau a pherfformio ac ati, tydyn nhw heb godi llawer mewn 20 i 30 mlynedd.
"Be' dwi bob tro'n deud ydi mae pris gitârs a strings gitârs wedi mynd fyny fwy.
"Mae 'na doriadau ym mhob sector ac mae toriadau i budgets yn gwneud gwahaniaeth. Ond efo cerddoriaeth mae pobl weithiau yn meddwl bod nhw'n gwneud ffafr i bobl yn lle rhoi taliad sy'n gwobrwyo gwelliant."
Cyflog i artistiaid Iwerddon
Dywedodd bod sefydlu'r gymdeithas newydd am alluogi labeli Cymru - tua 60 i gyd - i rannu gwybodaeth a chyd-weithio gyda rhannau eraill o'r diwydiant.
Ond ychwanegodd bod angen gwneud mwy a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Iwerddon a sefydlu system taliad sylfaenol i'r celfyddydau (BIA/Basic Income for Artists).
Yn Iwerddon fe fydd 2,000 o artistiaid yn derbyn €325 (£283) yr wythnos i'w cefnogi i fod yn greadigol ac mae dros €18 miliwn wedi ei neilltuo i'r cynllun yng nghyllideb 2026.
Fe gafodd cynllun peilot ei sefydlu yn 2022, ac fe gafodd ei lansio fel cynllun parhaol fis Chwefror 2026. Mae'n debyg mai dyma'r cyntaf o'i fath yn y byd, ond mae Ffrainc hefyd yn rhoi budd-dal i artistiaid yn ystod cyfnodau tawel o waith.

Yws Gwynedd gyda'i fand ar Lwyfan y Maes, yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd yn 2026
Dywedodd Yws Gwynedd y byddai'n rhwydd profi bod rhywun yn gweithio yn y byd cerddorol drwy gyfeirio at gigs, sesiynau recordio a chaneuon oedd wedi eu rhyddhau.
Meddai: "100% mae angen hyn achos un o'r pethau mwya' frustrating yng Nghymru ydi ti methu cael yr amser fasa ti eisiau i ddatblygu a chreu, achos fel arfer mae pobl efo dau neu dri job arall i gael cyflog.
"Os oes gen ti amser i gigio, 'sgen ti ddim amser wedyn i ymarfer a gwella a chreu.
"Yn Iwerddon a Ffrainc maen nhw'n gwerthfawrogi diwylliant a'i effaith a faint ydi gwerth cerddoriaeth i'r economi. Os ydyn nhw'n gallu cefnogi'r grwpiau ac ati, fydd hynny yn cael ei dalu nôl i'r economi.
"Os ydyn nhw'n broffesiynol ac yn dda ma'n rhoi uplift i bob dim - fydd mwy yn mynd i weld gigs, mwy yn gwario yn y tafarndai, ac yn gwella'r economi. Ac yng Nghymru fydd o'n effeithio faint o bobl fydd yn mwynhau'r diwylliant a'r miwsig Cymraeg ac wedyn yn siarad yr iaith Gymraeg."
Yn ôl arolygiad o'r cynllun peilot yn Iwerddon, fe wnaeth y €72m gafodd ei wario ar y peilot gael ei adennill. Mae trafodaethau ehangach o fewn y byd gwleidyddol am daliadau tebyg i leihau'r effaith fydd technoleg AI yn ei gael ar swyddi yn y dyfodol.

Clwb Ifor Bach yn ystod Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd yn 2025
Mae taliadau i gerddorion, a chyllido'r celfyddydau yn gyffredinol, wedi dod yn bwnc llosg yn ddiweddar. Yn gynharach yn yr wythnos, fe ddywedodd y cerddor Megan Wyn wrth BBC Cymru ei bod ond yn derbyn £0.003 bob tro mae un o'i chaneuon yn cael ei chwarae ar Spotify.
Mae gan yr artist 21 oed o Fôn 12,600 o ddilynwyr ar ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a dim ond 540 o wrandawyr misol ar Spotify.
Ond gyda 713 miliwn o bobl yn defnyddio Spotify ar draws y byd dywedodd: "Mae Spotify yn hanfodol. Ti'n cyrraedd nifer anhygoel o bobl fydda ti byth yn gallu cyrraedd fel arall."
Yn ôl Spotify mae eu system taliadau yn gymhleth. Dyw'r artistiaid ddim yn cael eu talu fesul ffrydiad ac mae'n amrywio yn ôl cytundebau sydd gan yr artistiaid gyda labeli neu ddosbarthwyr.
Yn gynharach eleni fe wnaeth y gantores Meinir Gwilym hefyd ddweud wrth BBC Cymru ei bod yn amhosib gwneud bywoliaeth o ganu'n Gymraeg.
Ymateb y pleidiau
Fe ofynodd Cymru Fyw i'r prif bleidiau yn etholiadau Senedd Cymru os oedden nhw o blaid incwm sylfaenol i artistiaid.
Dywedodd Plaid Cymru eu bod nhw'n "awyddus iawn i ddysgu gan Iwerddon am fuddiannau creu incwm sylfaenol ynghyd ag edrych ar esiamplau eraill rhyngwladol beiddgar".
Yn ôl llefarydd ar ran Reform mae angen dathlu a meithrin y celfyddydau ond "dyw incwm sylfaenol ddim yn rhywbeth y byddwn yn ei gyflwyno".
Mae'r Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a'r Blaid Werdd wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror

- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd10 Chwefror

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023
