'Alle ni ddim fforddio gadael' Spotify ac 'maen nhw'n gwybod hwnna'

Mae'r band o Gaerdydd, Los Campesinos!, yn dweud eu bod yn teimlo'n sownd ar blatfform ffrydio Spotify
- Cyhoeddwyd
Mae band o Gaerdydd yn dweud eu bod yn teimlo'n sownd ar blatfform ffrydio Spotify, y gwasanaeth maen nhw'n dweud sy'n eu talu lleiaf, ond "allen ni ddim fforddio gadael".
Wrth i Spotify Wrapped – adroddiad o fewn yr ap am ystadegau gwrando defnyddwyr – gael ei ryddhau wythnos yma mae miliynau wedi bod yn rhannu eu hystadegau, ond i rai bandiau dydy'r poblogrwydd yna ddim yn cael ei adlewyrchu yn eu taliadau.
Aeth Los Campesinos! ati i gasglu data yn seiliedig ar eu halbwm 'All Hell' o 2024 ac maen nhw'n dweud bod Spotify'n eu talu 0.29 ceiniog am bob ffrwd – roedd rhai o'r gwasanaethau eraill yn cyrraedd hyd at 0.75c.
Ond roedd bron i 75% o holl ffrydiau'r albwm ar Spotify, "felly ni mewn sefyllfa anodd, ac mae Spotify'n gwybod hwnna, lle dyw mwyafrif helaeth o artistiaid methu â fforddio gadael" meddai Gareth David, rheolwr ac aelod o'r band.
Mae Spotify wedi cael cais am ymateb.
Caneuon Cymraeg yn ffynnu ar Spotify
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
Miliwn o wrandawyr i Alffa
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
"Mae'n siomedig bod yr ystadegau ni 'di edrych arnyn nhw'n dangos faint yn fwy o arian y bydden ni wedi ei gael" os oedd y niferoedd ffrydio hynny wedi digwydd ar lwyfannau eraill, meddai Mr David.
"I fand annibynnol fel ni, gall yr arian yna fod y gwahaniaeth rhwng bod yn fand a pheidio â bod yn un."
Dywedodd hefyd nad yw "unrhyw ganeuon sy'n cael eu chwarae llai na 1,000 o weithiau ddim yn cael royalty o gwbl".
"Felly, mae artistiaid newydd sy'n ceisio cyrraedd cynulleidfaoedd ddim yn gwneud arian.
"Yn y cyfamser, mae'r artistiaid mwyaf yn y byd yn cael cytundebau ffafriol gan eu bod wedi llofnodi gyda labeli mawr."
Ychwanegodd ei fod yn parchu'r bandiau sydd wedi dewis gadael y platfform a hynny am sawl rheswm, nid yn unig y tâl.
'Dim cystadleuaeth yw cerddoriaeth'
Wrth gyfeirio at Spotify Wrapped dywedodd Mr David ei fod yn teimlo'n "rhwystredig sut mae'n annog cystadleuaeth o fewn cerddoriaeth".
"Chi'n gweld ffans yn dweud, 'dwi 'di gwrando ar y band yma am 20,000 o funudau', 'ond dwi 'di gwrando arnyn nhw am 21,000 o funudau, fi sy'n ennill'.
"Dim cystadleuaeth yw cerddoriaeth a dylai byth fod yn gystadleuaeth.
"Mae'r ffaith ei fod e'n gwneud i ffans cerddoriaeth, rhai ifanc yn bennaf, deimlo fel bod e'n gystadleuaeth yn wirioneddol hurt ac yn niweidiol i fwynhad pobl o gerddoriaeth."
Dydy Mr David ddim yn hoffi sut mae Spotify Wrapped yn effeithio ar artistiaid chwaith, meddai, "a sut mae'n gosod artistiaid yn erbyn ei gilydd".
"Chi'n gweld ystadegau pobl eraill - faint o ffrydiau neu faint o wrandawyr maen nhw'n cael y mis, neu faint o wahanol wledydd sy'n gwrando ar eu cerddoriaeth – mae'n gwneud i artistiaid deimlo fel, 'o, dydyn ni ddim yn gwneud cystal â bandiau eraill'."
Ond dywedodd fod "artistiaid mewn sefyllfa anodd" oherwydd fe allai Spotify Wrapped fod yn adnodd marchnata da "ond ar yr un pryd chi'n gwneud gwaith hysbysebu am ddim i gwmni biliwnydd sy'n talu ceiniogau i chi".

Mae Huw Stephens yn meddwl ei bod hi'n bwysig cofio bod sawl platfform ffrydio ar gael
Mae'r DJ a chyflwynydd Radio Cymru, Huw Stephens yn dweud ei bod yn "ddiddorol iawn gweld cyn lleied y mae artistiaid yn cael".
"Os chi'n gwrando ar gân gan eich hoff artist Cymraeg chi mae'n cymryd miloedd ar filoedd o plays i nhw gal hyn a hyn o arian", meddai.
Soniodd am y flwyddyn anodd y mae Spotify wedi'i wynebu gyda nifer yn beirniadu'r gwasanaeth am faint y maen nhw'n talu artistiaid, am eu defnydd o AI, ac am fuddsoddiadau dadleuol.
"Mae lot o artistiaid yn gadael Spotify a ffans yn canslo'u subscriptions" meddai.
"Dim ond un o sawl gwefan ffrydio ydy Spotify ma' llwyth ar gael".
Wrth drafod Spotify Wrapped dywedodd ei fod yn "ddiddorol i'r person sy'n cael ei wybodaeth" ond mae'n "barnu chi ar eich cerddoriaeth".
"Dylse neb fyth deimlo cywilydd am be' ma' nhw 'di gwrando ar.
"Mae pawb yn cael 'neud be' ma' nhw moyn 'da cerddoriaeth a gwrando ar be' bynnag ma' nhw isie", meddai.

O'r caneuon y gwrandawodd Mirain Iwerydd arnynt fwyaf, yn ôl ei Spotify Wrapped, caneuon CMAT gymerodd y tri safle uchaf
Ond mae'r cyflwynydd Mirain Iwerydd yn credu bod Spotify Wrapped yn "lot o sbort".
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd ei bod yn mwynhau siarad a chymharu gyda'i ffrindiau.
"'Natho' ni dreulio rhyw 20 munud yn siarad am beth oedd ar ein Spotify Wrapped ni a pam o'n i'n caru'r bandie 'ma a beth oedd yr emosiwn odd yn perthyn i hwnna.
"Achos fi'n meddwl dyna yn ei hanfod be' mae Spotify Wrapped yn adlewyrchu yn ôl i chi – yw'r flwyddyn a'r siwrne cerddorol chi 'di bod arni."
Dywedodd hefyd ei bod hi'n "teimlo fel bod e'n mynd yn fwy penodol ac yn fwy personol bob blwyddyn".
"Dwlwn i weud bo' fi'n gwrando ar lwyth o fandie amgen really cŵl ond yn fy hanfod dwi just yn girly pop gal."
Aeth ymlaen i bwysleisio "wrth gwrs ar gyfer cenfogi artisitaid y peth pwysicaf a gore alle ni 'neud yw prynu'r gerddoriaeth ar ffurf ffisegol yn hytrach na ffrydio fe achos dyw Spotify, er bod e'n grêt, dyw e wir ddim yn golygu lot i'r artistiaid yn ariannol."
Dydy Spotify heb ymateb i gais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.