Cyfansoddwr o Hong Kong yn sôn am ei 'frwydr' i gael prawf dinasyddiaeth yn Gymraeg

Mae Israel Lai gafodd ei fagu yn Hong Kong wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cyfansoddwr o Hong Kong sydd hefyd yn creu cynnwys YouTube wedi sôn am ei "frwydr" i gymryd prawf dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig trwy gyfrwng y Gymraeg, er bod hynny yn hawl statudol.
Mae Israel Lai, sy'n byw yn Lloegr ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd, angen pasio prawf dinesydd y Swyddfa Gartref cyn i'w fisa ddod i ben ym mis Ebrill.
Ar Radio Wales Breakfast fe ddywedodd Israel fod y cwmni sy'n gyfrifol am y prawf bellach wedi cytuno i'w helpu gyda'i gais i wneud y prawf yn Gymraeg, ar ôl yr hyn mae e'n ddisgrifio fel "misoedd o aros ac oedi."
Mae'r BBC wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref a chwmni PSI am ymateb.
'Angen brwydro am yr hawl i gael prawf yn y Gymraeg'
"Mae wedi bod yn frwydr hir iawn hyd yn oed i geisio am y prawf. Pe bai'n Saesneg byddai'n hawdd iawn i mi ei wneud ar y we, ond roeddwn i eisiau ei wneud yn Gymraeg, felly anfonais gais atyn nhw yn yr haf — dywedon nhw y byddai angen 12 wythnos i baratoi'r prawf."
'Ar ôl mis Tachwedd nes i barhau i gysylltu â nhw ar ôl yr addewid eu bod eisoes yn paratoi'r prawf yn Gymraeg i mi. Ym mis Rhagfyr fe dderbyniodd Israel ebost yn dweud eu bod ar fin cychwyn paratoi'r prawf iddo."
Ond ddydd gwener daeth y tro pedol y bydden nhw'n gallu darparu'r prawf yn Gymraeg yn fuan iddo a'u bod yn awyddus i'w helpu i wneud cais am y prawf.
"Felly'n sydyn, nawr fy mod i wedi cael sylw gan y cyfryngau, maen nhw'n awyddus iawn i mi wneud y prawf, mewn amser byr iawn."
'Mae'r Gymraeg yn rhan fawr o fy mywyd'
Mae Israel Lai yn gerddor sy'n byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!
Symudodd Israel i Loegr yn 2018 i astudio gradd meistr mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Rhydychen.
Cyn cyrraedd Rhydychen, doedd o erioed wedi clywed am Gymru na'r iaith Gymraeg ac aeth ati i'w dysgu.
"Er fy mod yn byw yn Lloegr, roeddwn i'n awyddus i wneud y prawf yn y Gymraeg gan ei fod am fywyd yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r Gymraeg yn rhan fawr o fy mywyd yn y DU achos dwi'n siarad yr iaith bob dydd efo fy ffrindiau. Felly dwi'n teimlo'r cysylltiad arbennig gyda'r iaith, " meddai Israel.
"Rheswm arall dros wneud y prawf yn y Gymraeg yw mod i wedi dysgu llawer am hanes yr iaith Gymraeg wrth ei dysgu.
Rwy'n teimlo fod na llawer o debygrwydd rhwng hanes yr iaith Gymraeg a fy iaith frodorol sef Cantoneg. Dwi'n teimlo fod y ddwy iaith wedi cael eu darostwng gyda'r un math o ragfarn yn y gorffennol a sydd dal i fodoli, amwn i. "
Ychwanegodd "dwi wedi dysgu sut ma pobl wedi brwydro ar gyfer hawliau'r ieithoedd hyn i gael eu hymgorffori yn y gyfraith.
Os nad ydan ni'n defnyddior hawliau yma, mae'n gwneud yr holl frwydro yn y gorffennol yn ddibwrpas."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.