'Nes i faddau a chofleidio'r gyrrwr a laddodd fy merch'

Chloe (chwith) a Danielle ( dde) ar draeth Ffynhonnell y llun, Danielle O'Halloran
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd Danielle (dde) ei merch Chloe fel "prydferth y tu mewn a'r tu allan"

  • Cyhoeddwyd

Mae mam a gollodd ei merch 17 oed mewn gwrthdrawiad ble roedd y gyrrwr dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn dweud iddi gofleidio'r dyn oedd yn gyfrifol wrth iddyn nhw grio gyda'i gilydd yn y carchar.

Bu farw Chloe Hayman ar 24 Gorffennaf 2022 wrth iddi deithio yng nghar Keilan Roberts.

Roedd Roberts wedi cymryd ketamine, cocên ac ecstasi, ac roedd dros y terfyn alcohol wrth iddo fynd â Chloe adref ar ôl noson allan ym Mhontypridd.

Trwy system cyfiawnder adferol, fe gafodd ei mam Danielle O'Halloran gwrdd â Roberts yn y carchar er mwyn ceisio dod o hyd i atebion.

Mae hi nawr yn gobeithio y gallan nhw, un diwrnod, siarad mewn ysgolion gyda'i gilydd i rybuddio pobl ifanc am ganlyniadau dinistriol gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Chloe mewn sbectol haul Ffynhonnell y llun, Danielle O'Halloran
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Chloe Hayman ar 24 Gorffennaf 2022

Dywedodd Danielle, 37, o Aberpennar, mai ei merch Chloe oedd ei ffrind gorau, ei bod yn "brydferth y tu mewn a'r tu allan", a'i bod yn arfer gweld y da ym mhawb.

Ar ôl i ddigwyddiad cerddorol ddod i ben am 04:00, dywedodd Danielle fod Chloe wedi aros ar ôl pan adawodd ei ffrindiau ac wedi ymddiried yn Roberts, a ddywedodd ei fod wedi trefnu lifft.

Tua phum munud o'i dŷ, penderfynodd ddod allan o'r cerbyd a gyrru ei gar ei hun er mwyn iddo allu mynd â hi adref yn y bore.

Eiliadau'n ddiweddarach, tarodd y car grid gwartheg, ac aeth un o'r rheiliau drwy'r ffenestr flaen, gan ladd Chloe.

Yn y misoedd ar ôl marwolaeth Chloe, dywedodd Danielle ei bod wedi'i llethu gan alar, dicter a chasineb, yn methu bwyta, cysgu na gweithredu'n iawn.

Roedd Roberts, o Rhymni, Sir Caerffili, wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad yn ymwneud â marwolaeth Chloe.

Ar ôl iddo gael ei ddedfrydu ym mis Mehefin 2023, fe wnaeth ei theulu apelio yn llwyddiannus, gan gynyddu ei gyfnod o garchar i bum mlynedd a thri mis, a'r gwaharddiad gyrru i dros 12 mlynedd a hanner.

Mae Danielle yn cyfaddef ei bod hi yn casáu Roberts ar y dechrau, gan deimlo bod y dicter yn rhoi rhywfaint o reolaeth iddi, ond dywedodd iddi sylweddoli fod hynny yn niweidiol iddi.

"Ro'n i'n teimlo'n sâl y tu mewn gyda faint o ddicter a chasineb oedd gen i," meddai.

"A nes i feddwl, alla i ddim caniatáu i'r teimlad yma fy mwyta i fyny mwyach."

Keilan RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Medi 2023 cafodd dedfryd Keilan Roberts ei chynyddu i bum mlynedd a thri mis

Tua blwyddyn ar ôl y digwyddiad fe wnaeth Danielle ddewis cwrdd â Roberts, oedd yn 22 oed bryd hynny.

"Roedden ni'n dau'n emosiynol pan gerddodd i mewn," meddai, gan egluro bod ganddi lawer o gwestiynau, gan gynnwys pam yr oedd wedi cymryd cyffuriau'r noson honno.

Yn fuan, dywedodd Danielle ei bod wedi sylweddoli nad oedd Roberts wedi bwriadu lladd Chloe - a'i fod ond yn ddyn ifanc oedd wedi gwneud "dewis anghywir".

"Ne i gofleidio fe a dweud 'mae'n ddrwg gen i mai ti yw'r un sy'n gorfod byw gyda hyn'.

Mae Danielle yn credu na allai unrhyw ddedfryd o garchar fod yn waeth na'r edifeirwch a'r euogrwydd gydol oes y mae Roberts yn ei deimlo.

"Rwy'n credu bod dod yn ôl i'r gymuned, mewn gwirionedd, yn anoddach oherwydd mae'n rhaid i chi wynebu pobl," meddai.

Disgrifiodd faddeuant nid fel dweud ei fod yn iawn, ond fel rhyddhau'r "chwerwder fel nad yw bellach yn rheoli sut rydych chi'n teimlo".

Danielle a Chloe Ffynhonnell y llun, Danielle O'Halloran
Disgrifiad o’r llun,

Mae Danielle eisiau i bobl "feddwl ddwywaith" cyn gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau

Dywedodd Danielle ei bod hi eisiau gwneud i bobl "feddwl ddwywaith" cyn gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Mae'n dweud bod yn rhaid i gymdeithas wneud mwy i atal ymddygiad peryglus, cynnig cefnogaeth gymunedol, a hyrwyddo lles i amddiffyn pobl ifanc rhag "glamoreiddio" yfed a gweithgareddau niweidiol eraill.

Ychwanegodd, pe na bai Roberts wedi teimlo rheidrwydd i roi cynnig ar gyffuriau yn y lle cyntaf, efallai na fyddai'r gwrthdrawiad wedi digwydd.

Ers i'r ddau gwrdd, mae Roberts wedi cael ei ryddhau o'r carchar.

Dywedodd Danielle ei bod hi'n gobeithio yn y pendraw, pan y bydd ef yn barod, y gall y ddau fynd i siarad mewn ysgolion, gan rannu eu stori fel bod eraill yn deall y canlyniadau a gwneud penderfyniadau mwy diogel.

"Mae e [Roberts] bob amser yn dweud 'bydden i ddim yn dymuno'r teimlad hwn ar unrhyw un, unrhyw un yn y byd'," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.