'Cwmwl du uwch ein pennau': 25 mlynedd ers clwy'r traed a'r genau

Mae hi'n chwarter canrif union ers i glwy'r traed a'r genau daro Cymru, gan arwain at gyfyngiadau llym
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai
Ar 27 Chwefror 2001, chwarter canrif union yn ôl, fe welodd y diwydiant amaeth yng Nghymru un o'r heriau mwyaf erioed.
Cafodd yr achos cyntaf o glwy'r traed a'r genau y flwyddyn honno ei ddarganfod ym Môn, yn dilyn achosion blaenorol yn Lloegr yn gynharach yn y mis.
Fe arweiniodd at gyfyngiadau sylweddol ac fe gafodd da byw ar draws cymunedau ffermio Cymru eu difa.
Yn ôl rhai ffermwyr ar yr ynys, roedd y cyfnod a'r golygfeydd yn rhywbeth oedd "erioed wedi ei weld o'r blaen".
Cofio 25 mlynedd ers yr achos cyntaf o glwy'r traed a'r genau yng Nghymru
Cafodd yr achos cyntaf ei ddarganfod mewn lladd-dy yn Essex ar 19 Chwefror 2001, ac ymhen ychydig dros wythnos, roedd y feirws wedi cyrraedd Ynys Môn.
Cafodd oen heintus ei ddarganfod mewn lladd-dy yn ardal Gaerwen ar yr ynys.
Roedd Powys a Sir Fynwy ymysg y siroedd a gafodd eu taro yn ddrwg yn ddiweddarach hefyd.
Mewn sawl man, roedd golygfeydd arswydus o gyrff anifeiliaid yn cael eu llosgi neu eu claddu.
Roedd y polisi o ddifa anifeiliaid a dewis lle i gladdu'r gweddillion yn ddadleuol iawn, ac fe arweiniodd at brotestiadau lu ar draws y wlad.
Ym mis Mawrth 2001 daeth gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol - fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd - i ddifa miloedd o ddefaid yn ne-orllewin Môn, a hynny medden nhw, i atal lledaeniad y clwy.
Y cyn-brif weinidog Carwyn Jones oedd yr aelod Cynulliad â chyfrifoldeb dros amaeth ar y pryd, ac fe ddywedodd fod y penderfyniad wedi ei wneud yn dilyn y cyngor milfeddygol gorau bryd hynny.

Roedd Beryl a Phil Siddall wedi colli eu defaid ar eu fferm, ond fe gawson nhw gadw eu gwartheg
Roedd defaid Phil a Beryl Siddall o Niwbwrch ymhlith y rhai gafodd eu difa, er nad oedd y clwy wedi cyrraedd eu fferm nhw.
Dywedodd Beryl: "Ro'dd 'na ddau gymydog i ni wedi cael y clwy.
"Roeddan ni'n canol rhwng y ddau le, ac mi oedd y ffariar a rhiena'n dod yma, ac yn dweud 'o chi fydd nesa', ac oeddan nhw fath â bod nhw'n gwatshiad ni trwy'r adeg."
Yn ôl Phil, roedd y sefyllfa yn un "annifyr" tu hwnt.
"Ro'dd o'n brofiad i mi, to'n i 'rioed wedi'i weld o'r blaen," meddai.
"Oen yn cael ei eni yn berffaith iach, a'i ddifa fo. Ond oedd rhaid i chi mewn ffordd."
'Anhygoel'
Disgrifiodd pa mor arswydus o dawel oedd hi ar ôl difa'r anifeiliaid.
"Dim [sŵn] dafad wedi colli oen, neu oen 'di colli dafad, ac yn brefu. Doedd na'm twrw yma - anhygoel.
"Doeddach chi'm yn coelio bod o wedi dŵad. Oedd o'n rwbath toeddach chi ddim yn ddisgwyl."
Er bod Phil a Beryl wedi colli eu defaid, cafodd eu gwartheg aros ar y fferm.
Roedd Beryl hefyd wedi colli dafad oedd ganddi fel anifail anwes, ac fe soniodd am y profiad trist o'i cholli.
"Oedd gen i ddafad ddu. Fath ag anifail anwes. Ro'n i'n sefyll yn fan'na yn gweiddi 'Enlli ty'd yma'.
"Roedd hi newydd gael dau oen bach.
"Tasa honno wedi dod ar clwy yma a gorfod cael 'madael ar y gwartheg, fasa hi'n mynd yn ddrwg iawn - wedyn roedd rhaid i honno fynd hefyd."

Roedd yn rhaid i anifail anwes Beryl, Enlli y ddafad, a'i dau oen bach, gael eu difa
Dywedodd Beryl fod gweddill y teulu yn gorfod wynebu heriau drwy'r cyfnod hefyd.
"Ro'dd Geraint a Carwyn yn yr ysgol, y ddau hogyn, ond o'dd Geraint yn hynach ac yn g'neud mwy adra ar y ffarm. Oedd Geraint wedi gofyn os geith o aros adra.
"Mi aeth Carwyn [i'r ysgol], ond oedd 'na ffariar yn ista'n fan'na. Sais oedd o, ac roedd gan Carwyn oen llywaeth.
"Dwi'n cofio Carwyn yn dod i'r tŷ efo'r oen llywaeth dan ei fraich ac yn dweud, 'This is Jac'. A'r ffariar yn dweud, 'Well, you go to school now, we'll look after Jac for you'.
"Ond oeddan ni'n gwybod beth oedd yn digwydd i Jac."
'Newch chi'm anghofio'
Er y cyfnod heriol a thrist, dywedodd y ddau ei bod hi'n bwysig cadw'n bositif ac edrych ymlaen at y dyfodol ar y pryd.
"'Newch chi'm anghofio amdano fo," meddai Phil.
"Ond mae'n rhaid i chi symud ymlaen. Dim iws i chi sbïo nôl, neu ewch chi i le'n byd wedyn - mae'n rhaid i chi sbïo 'mlaen.
"Clywed nhw'n saethu'r gwartheg a ryw betha' felly ar ffarm drws nesa, a chitha'n 'neud eich gwaith yn y ffarm arall - oedda chi'n glywed o."
Roedd Beryl yn cyfri ei bendithion yn aml yn 2001, gan ystyried ei hun a Phil yn lwcus fod y teulu i gyd yn iach ac yn gefn i'w gilydd drwy'r cyfnod.
"O'dd o'n drist ofnadwy. Faswn i'm yn licio ei weld o eto byth," meddai.
"Ond yr unig beth oeddan ni'n dd'eud, oedd Phil yn d'eud cyn i ni fynd i'n gwlâu - mae'r hogia' gynno ni de... oedd hynny'n ddigon gwir doedd."

"Dwi'n gobeithio 'nawn ni byth, byth weld o eto yn ein bywydau ni," meddai Richard Rogers
Roedd fferm Richard Rogers o Fôn hefyd wedi ei tharo gan y clwy.
"Oedd hi'n adeg reit brysur. Oeddan ni'n ganol wyna defaid, neu ar fin cychwyn.
"Dwi'n cofio oedd hwn 'tha cwmwl du uwch ein pennau ni ar y pryd, ac oedd rhaid i ni gario ymlaen o ddydd i ddydd - a gwylio'r newyddion yn astud i weld be' oedd y diweddara.
"Oedd hi'n ddipyn o boen, oedd."
'Cofio gweld y mwg'
Yn 2001 fe wnaeth Richard ddyddiadur fideo ar gyfer rhaglen deledu yn cofnodi'r hyn oedd yn digwydd ar ei fferm o ddydd i ddydd.
"O'n i'n o'lew o newydd yn y diwydiant," meddai.
"Doeddwn i erioed wedi gweld dim byd yr un fath ag o, ac mi oedd o'n ddipyn o sioc. Oedd o'n beth mawr i ddelio efo fo."
Disgrifiodd y golygfeydd o'r tanau ar hyd y lle, wrth i gyrff anifeiliaid gael eu llosgi.
"Dwi'n cofio gweld y mwg o anifeiliaid yn cael eu llosgi. Oedd o'n dod yn nes bob dydd. Ac o'n i'n byw o ddydd i ddydd yn gobeithio.
"Oeddan ni'n byw mewn limbo, ond ar yr un adeg yn wyna lot o ddefaid. Oedd rhaid i ni ofalu am rheiny a chario 'mlaen i weithio."

Roedd nifer o gyfyngiadau llym mewn rhannau o'r wlad, gan gynnwys yn ardal Gaerwen ar Ynys Môn
Mae'r clwy yn hynod heintus, ac yn achosi tymheredd uchel a phothelli poenus yng nghegau a dan garnau'r anifeiliaid. Gall achosi i'r rhai ifanc farw hefyd.
Gan fod Richard ar ddechrau ei yrfa fel ffermwr ifanc ar y pryd, mae'n teimlo efallai fod hynny wedi bod o gymorth iddo.
"Ella oherwydd mantais fy oed i ar y pryd, ella bod fi'n fwy resilient ac wedi dod drosta fo," meddai.
"Dwi'n siŵr falla' pan mae rhywun yn hŷn, mae'n anoddach addasu i bethau fel'na mewn bywyd.
"Dwi'n gobeithio 'nawn ni byth, byth weld o eto yn ein bywydau ni. Faswn i ddim isio mynd drwyddo fo eto.
"Weithiau fydda i'n meddwl bod hi'n well peidio ailagor craith, a rhaid i ni symud yn ein blaenau."
Ffermwyr 'angen bod yn weddol resilient'
Gofynnwyd iddo a oedd y cyfnod heriol wedi ei siapio fel unigolyn ac fel ffermwr hyd heddiw.
Atebodd: "Dwi'n meddwl, os ydan ni'n licio fo neu beidio, mae mynd drwy amseroedd fel'na - maen nhw'n galed, ond maen nhw yn creu resiliance ynddo chi fel person, a dwi'n meddwl mae mynd drwy adegau anodd yn atgoffa chi bo' chi'n dod trwyddyn nhw.
"Mae cyfnodau fel'na yn ffaith o fywyd, mewn lot o wahanol ffyrdd, ac i fod yn y diwydiant amaeth, mae angen bod yn weddol resilient.
"Oedd honno'n amlwg yn adeg anodd, oedd, bendant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.