Heddlu'r Gogledd yn beirniadu gyrwyr sy'n 'parcio'n anghyfrifol' yn yr eira

Mae'r heddlu yn rhybuddio gyrrwyr i ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth ymweld â'r ardal
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn annog gyrwyr i barcio'n gyfrifol os yn ymweld ag Eryri dros y penwythnos, yn dilyn trafferthion y penwythnos diwethaf.
Dywedodd yr Arolygydd Jason Diamond o Heddlu Gogledd Cymru y gallai cerbydau gael eu symud yn y pen draw pe bai mwy o "ymddygiad anghyfrifol", ar ôl i yrwyr barcio ar ymylon ffyrdd yn Eryri i fynd am dro ac i dynnu "lluniau Instagram" penwythnos diwethaf.
Mae rhybudd melyn am rew mewn grym mewn rhannau helaeth o Gymru tan hanner dydd ddydd Sadwrn ar ôl eira Storm Goretti.
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis hefyd yn rhybuddio cerddwyr i fod yn ofalus ar rai o lwybrau mwyaf poblogaidd Yr Wyddfa gan fod cwympiadau eira yn bosib.
Storm Goretti: Cannoedd wedi bod heb bŵer a rhybudd am fwy o rew
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Lluniau: Storm Goretti a Chymru dan eira
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dywedodd Mr Diamond: "Rydyn ni'n deall bod yr ardal yn hynod o hardd – hyd yn oed yn fwy felly gyda blanced o eira, ond mae'n rhaid defnyddio synnwyr cyffredin.
"Mae parcio ceir ar ymyl ffyrdd sydd ag eira ac yn gwthio eraill i lwybrau cerbydau sy'n dod tuag atynt, ar y gorau, yn cynyddu'r risg o ddychwelyd at gerbyd sydd wedi'i ddifrodi, ond ar y gwaethaf, yn cynyddu'n sylweddol y risg o anafiadau difrifol.
"Mae angen rheoli atafaelu'r cerbydau sy'n cael eu gadael mewn sefyllfaoedd peryglus" i gadw pawb yn ddiogel.
Dywedodd y byddai penaethiaid y cyngor yn "anfon eu swyddogion gorfodi allan ac yn rhoi rhybudd i unrhyw gerbydau sy'n parcio'n anghyfreithlon".
Cyngor y Cynghorydd Craig ab Iago o Gyngor Gwynedd i bobl sy'n bwriadu ymweld â llefydd poblogaidd fel Pen y Pass yw i "barcio'n gyfrifol ac i beidio â rhwystro'r ffordd i eraill", ac ystyried defnyddio gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa.
Dywedodd: "Bydd ein swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid o awdurdodau eraill gyda'r nod o gadw'r ffordd yn glir.
"Oherwydd natur fynyddig a gwledig yr ardal, dylai ymwelwyr hefyd gofio y gall y tywydd effeithio ar y ffyrdd, sydd wedyn yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Gwiriwch y rhagolygon tywydd a gwybodaeth am y ffyrdd cyn cychwyn ar eich taith."
Rhybudd o eirlithriad ar Yr Wyddfa
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi rhybuddio am yr amodau ar Yr Wyddfa a sut roedd llwybrau "wedi'u claddu dan eira, gan amlygu pa mor bwysig yw sgiliau llywio da yn yr amodau hyn".
"Mewn rhai amgylchiadau, gall yr eira ansefydlog arwain at gwympiadau difrifol neu greu eirlithriadau lleol, yn enwedig lle mae llwybrau'n rhedeg yn agos at dir serth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.