Cyhoeddi argraffiad arbennig o 'glasur o bwys' i gofio Taid

Y darlledwr a'r llenor T Glynne Davies a gafodd ei eni yn 1926
- Cyhoeddwyd
I ddathlu canmlwyddiant ers geni y bardd a'r llenor T Glynne Davies mae ei ŵyr, Peredur Glyn, wedi golygu argraffiad newydd o'i nofel boblogaidd.
Mae'r nofel 'Marged' wedi bod allan o brint ers ei chyhoeddi yn 1974 a bydd hefyd yn cael ei chyhoeddi yn ddigidol am y tro cyntaf.
Yn ogystal bydd albwm o gerddi T Glynne Davies ar ffurf caneuon newydd yn cael ei gyhoeddi i ddathlu'r garreg filltir.

Argraffiad cyntaf nofel Marged gan T Glynne Davies yn 1974
Cafodd y nofelydd a'r darlledwr T Glynne Davies ei eni ar 12 Ionawr, 1926.
"Wrth ei bod hi'n ganmlwyddiant genedigaeth fy nhaid eleni, roedd y teulu yn teimlo y basai'n gyfle gwych i ni drio gael Marged mewn print eto am y tro cyntaf ers dros hanner canrif," meddai Peredur Glyn Cwyfan Webb-Davies.
"Dydw i ddim yn meddwl bod llawer yn ei chofio hi erbyn heddiw, er ei bod hi'n nofel o bwys yn y canon Cymraeg, felly dwi'n edrych ymlaen at ddarllenwyr yn medru ei mwynhau hi yn 2026."

Peredur Glyn oedd enillydd Medal Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol 2025
Roedd y nofel Marged "yn golygu lot i Taid gan ei fod wedi ei fagu yn Llanrwst", meddai Peredur Glyn.
"Nofel ydi hi am deulu dynes o'r enw Marged, sydd yn ddynes dosbarth gweithiol yn Llanrwst yn niwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed, ond yn fwy na hynny mae'n nofel am y dref ei hun a'r bobl sy'n byw ynddi – ac ar yr un pryd yn gyfle i'r awdur ddangos i ni sut beth oedd bod yn Gymry yn y cyfnod hwnnw, pan oedd aelodau cymuned wledig yn cael eu hyrddio i mewn i fyd-eangrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. "
Proses gymhleth wrth i dechnoleg newid
Roedd hi'n broses gymhleth mynd ati i greu'r ail argraffiad a'r dechnoleg wedi newid, meddai Peredur Glyn.
Doedd dim posib cael gafael ar y platiau argraffu gwreiddiol bellach gan fod y wasg cyhoeddi gwreiddiol ddim yn bodoli.
"Roedd angen digideiddio'r copi caled drwy ei sganio.
"Wedyn mi es i drwy'r ddogfen ar y cyfrifiadur efo crib mân – mae hi bron yn 180,000 o eiriau o hyd (!) er mwyn siecio pob gair i weld a oedd o wedi sganio'n gywir.
"Cymerodd hynny sawl mis o waith dygn, ond roedd hi'n brofiad diddorol medru darllen y nofel ar lefel eithriadol o fanwl, a thrwy hynny ymgyfarwyddo efo arddull a ieithwedd Taid," ychwanegodd.
Peredur Glyn yn ennill Medal Daniel Owen am ei nofel 'Anfarwol'
- Cyhoeddwyd5 Awst 2025
Creadigrwydd teulu'r Glyniaid
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2025
Bydd rhai newidiadau i'r nofel wreiddiol.
"Roedd ambell wall yn y testun gwreiddiol – cofiwch bod hyn cyn gwirwyr sillafu! – ac mae hynny i gyd wedi cael ei gywiro gen i hyd orau fy ngallu," meddai Peredur Glyn.
"Rydw i wedi cymryd y cyfle hefyd i wneud diwygiadau i'r testun er mwyn ei wneud mor ddarllenadwy â phosib, drwy ddiweddaru'r atalnodi a chysoni'r sillafu.
"Yr unig newid gwirioneddol sylweddol ydw i wedi ei wneud ydi symud y prolog a'r bennod gyntaf wreiddiol i atodiad yng nghefn y llyfr, fel bod y nofel rŵan yn dechrau efo be fu'r ail bennod yn y gwreiddiol.
"Y rheswm dros hyn ydi mod i ac eraill (teulu ac adolygwyr!) yn teimlo bod dechrau'r nofel wreiddiol yn od braidd – er enghraifft yn cyflwyno cymeriadau sydd prin byth yn ailymddangos wedyn – ac yn fy marn i mae dechrau lle mae hi rŵan yn llawer mwy effeithiol a ddim yn tynnu dim o'r nofel."
'Taid a fi ddim yn awduron tebyg'
Enillodd Peredur Glyn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 am ei nofel 'Anfarwol'.
Enillodd ei daid, T Glynne Davies, y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951 gyda'i bryddest 'Adfeilion'.

Yn ogystal â chyhoeddi straeon byrion , fe gyhoeddodd T Glynne Davies ddwy gyfrol o gerddi
"Er bod Taid wedi ennill y Goron yn 1951 ac yn fardd a llenor o bwys, ychydig iawn o'i waith sydd dal mewn print, a 'dan ni'n gobeithio bydd yr ailagraffiad yma o 'Marged' yn gam cyntaf i gynulleidfaoedd gael ailgyfarfod â gwaith T Glynne Davies.
"Bydd y teulu wrth eu boddau efo hynny, dwi'n siŵr," meddai Peredur Glyn.
"Dydw i ddim yn meddwl mod i a Taid yn awduron tebyg, ond dwi'n hoff iawn o'i weithiau fo er hynny.
"Mae o'n medru cyfuno dychan a chignoethni yn yr un testun, ac mae ei feistroldeb ar eiriau yn gwneud i lawer o'i ryddiaith deimlo fel barddoniaeth – mae hynny'n bethau dwi'n trio ei wneud ym mheth o fy ngwaith i hefyd.
"Dwi wastad wedi cael cefnogaeth gan fy nheulu efo fy ysgrifennu, ac mae hynny'n dod yn rhannol o'r gwerthfarwogiad sydd ganddyn nhw o bwysigrwydd meithrin llenyddiaeth a diwylliant.
"Dwi'n ddiolchgar dros ben i Taid a phawb am hynny."

Mae nifer o gerddi T Glynne Davies wedi'u gosod i gerddoriaeth gan ei fab, y cyfansoddwr a'r darlledwr, Gareth Glyn
Yn ogystal â chyhoeddi straeon byrion , fe gyhoeddodd T Glynne Davies ddwy gyfrol o gerddi, sef 'Llwybrau Pridd' (1961) a 'Hedydd yn yr Haul' (1969).
Yn ystod y flwyddyn bydd albwm yn cael ei ryddhau yn cynnwys nifer o gerddi T Glynne Davies wedi'u gosod i gerddoriaeth gan ei fab, y cyfansoddwr a'r darlledwr, Gareth Glyn.
"Mae'n golygu llawer iawn i mi bod y caneuon yma'n cael eu rhyddhau ar yr albwm newydd, yn enwedig gan fod eleni'n flwyddyn mor arwyddocaol i mi: carreg filltir fy mhenblwydd yn 75, ond hefyd wrth gwrs canmlwyddiant geni fy nhad," meddai Gareth Glyn.
Ychwanegodd: "Dwi wedi bod yn gosod ei gerddi ers bron i 60 mlynedd – nid achos ei fod o'n dad i mi, ond achos bod ei farddoniaeth o wastad wedi fy nghyffroi a fy ysbrydoli i.
"Mae ganddyn nhw i gyd rhyw rym aruthrol sy'n rhychwantu'r holl emosiynau, a hynny o hyd yn gignoeth tu hwnt.
"Ac mae'n rhaid dweud – mae caneuon y cylch 'Yr Oriau Oll a Welsom' i gyd yn ymwneud ag un o themáu cyson barddoniaeth fy nhad, sef treigl amser. A minnau ym mlwyddyn fy nhri chwarter canrif, mae'r thema honno, erbyn hyn, yn bersonol iawn i mi!"

Steffan Lloyd Owen fydd yn canu caneuon T Glynne Davies i gerddoriaeth Gareth Glyn
Y bariton Steffan Lloyd Owen fydd yn canu'r caneuon – llawer ohonyn nhw yn cael eu recordio am y tro cynta.
Bydd y caneuon yn cael eu cyhoeddi ddiwedd mis Ionawr fel rhan o'r dathliadau canmlwyddiant ers geni T Glynne Davies.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.