7 ffordd hawdd i drawsnewid eich cartref

- Cyhoeddwyd
Ydy tynnu'r addurniadau Nadolig i lawr yn gwneud i chi sylweddoli eich bod eisiau newid ychydig ar eich tŷ?
Mae Mairead Turner yn gynllunydd mewnol (interior designer) ar Ynys Môn, ac yma mae hi'n egluro sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i'ch cartref.

Ar ôl tymor o hwyl, efallai eich bod chi'n llawn mins peis a bwriadau da. Mae gymaint o amser yn edrych ar y waliau yn gallu eich sbarduno i adfywio eich cartref i groesawu'r flwyddyn newydd ac i gadw felan mis Ionawr draw.
Dwi wastad yn gweld tynnu'r addurniadau Nadolig i lawr yn esgus i roi trefn, gwneud lle i'r anrhegion ac i ail-feddwl am fy nhŷ ychydig.
Mae yna ddigon o ffyrdd i ychwanegu ychydig o fizz i'r lle yn 2026 heb wagio'r cyfrif banc. O batrymau a lliwiau sydd mewn ffasiwn i addasiadau dylunio clyfar, dyma syniadau fforddiadwy sut i wneud i'ch cartref deimlo'n newydd a ffres.
1. Estyn am y brws paent i gael effaith fawr
Wrth baentio, gallwch gael yr effaith fwyaf, ond am y pris lleiaf. Mae lliw newydd yn ffordd wych a hwyl i roi adfywiad llwyr.
Gallech chi wneud yn waeth na dechrau gyda chasgliad lliwiau Sweet Treats, sy'n gasgliad o shêds niwtral o fêl, caramel a siocled, wedi ei guradu gan Little Greene Paint Company o Fethesda. Mae'r shêd Muscavado mor hyfryd â mae'n swnio...

2. Y lliwiau a phatrymau ffasiynol ar gyfer 2026
Mae'r palet lliwiau a phatrymau sy'n amlwg iawn o fewn cynllunio mewnol yn 2026 yn cyfuno arlliwiau (tints) mentrus, bywiog gyda thonau di-amser, cadarn.
Disgwyliwch weld shêds priddlyd wedi eu cymysgu gyda phop o liw annisgwyl; terracotta, melyn mwstard dwfn a gwyrdd emrallt.
Dwi bendant yn defnyddio mwy o frown a llwydfelyn (beiges) hydrefol yn fy nyluniadau ar gyfer cleientiaid ar hyn o bryd, ac mae lliwiau pren bendant nôl mewn, wrth i'r gegin bren ddychwelyd.
3. Beth am bapur wal (y gallwch ei blicio i ffwrdd pan rydych chi'n symud!)
Dwi'n caru papur wal, ac un peth poblogaidd yw'r math sy'n gallu cael ei blicio i ffwrdd os ydych chi'n rhentu.
Mae'r murlun llawen yma gan gwmni Borastapeter wedi ei ddylunio gan Astrid Wilson. Mae hefyd ar gael mewn fersiwn nad yw'r plicio i ffwrdd, os ydych chi'n berchen ar eich tŷ ac yn barod i ymwymo.

4. Un buddsoddiad gwerth ei wneud yw goleuo
Os oes un dodrefnyn neu addurn gwerth buddsoddi yno eleni neu unrhyw flwyddyn, golau ydy hwnnw.
Yn 2026, bydd goleuo yn parhau i fod yn elfen gynllunio bwysig – nid yn unig i oleuo'r stafell ond am ei effaith weledol. Gall lamp grog drawiadol, lamp llawr fawr neu – fy ffefryn – goleuadau wal, drawsnewid naws ystafell yn gyfan gwbl.
Felly dywedwch 'na' wrth y spotlights a meddyliwch am osodiadau golau prydferth.
Dwi'n caru cwmni Pooky oherwydd fod ganddyn nhw nifer o oleuadau wal aildrydanadwy (rechargeable), sy'n golygu fod yna ddim angen talu am drydanwr i'w gosod yn y waliau, i gael edrychiad gwesty crand.

5. Gwnewch newidiadau bach i adfywio'r gofod
Newid clustogau a thecstiliau: Rhowch ail fywyd i'ch soffas a gwelyau gyda chlustogau, blancedi neu rỳg clud newydd.
Os ydych chi wir eisiau sbwylio'ch hun, buddsoddwch mewn carthen oes gyda blanced Melin Tregwynt.

Ychwanegu gwyrddni: Mae planhigion yn parhau i fod yn trend mawr yn 2026. Nid yn unig y maen nhw'n puro'r aer, ond maen nhw hefyd yn dod ag elfen organig i'r ystafell.
Os ydw i'n steilio ystafell, mae blodau ffres neu blanhigion bob amser yn hanfodol er mwyn gwneud i'r gofod deimlo'n naturiol.
Dwi'n meddwl mai fâs o flodau yw'r peth gorau y gallwch chi ei roi tu mewn.

Ad-drefnu dodrefn: Weithiau, y peth symlaf y gallwch chi ei wneud yw i ailgynllunio trefn ystafell. Gall symud eich dodrefn a thrio opsiynau gwahanol wir wneud gwahaniaeth mawr.
Fy top tip yw i dynnu eich soffa a'ch dodrefn oddi wrth y waliau fel eu bod yn medru anadlu, a gwnewch yn siŵr fod eich rygiau ddigon mawr; dylen nhw seilio eich holl ddodrefn a dylech osgoi rygiau bach trist!

Ychwanegu celf: Dewiswch rywbeth sy'n adlewyrchu eich steil bersonol.
Dwi wrth fy modd yn prynu celf vintage mewn siopau elusen ac addurno'r fframiau, a chelf wedi ei greu gan artistiaid lleol fel dyfrliwiau hiraethus Janet Bell.

6. Ewch i'r sêls Ionawr gyda chynllun
Dwi'n trio defnyddio'r sêls ar gyfer pethau dwi wir yn eu caru, dwi wedi bod yn aros amdanyn nhw, a sydd nawr wedi gostwng mewn pris.
Felly cadwch lygad allan am un neu ddwy eitem hoffech chi fuddsoddi ynddyn nhw cyn i'r sêls gyrraedd, ac yna gweld os ydy'r pris yn dod i lawr, fel eich bod yn gwybod eich bod o ddifri amdanyn nhw.
Gwell fyth, defnyddiwch wefannau ail-law i ddod o hyd i eitemau classic, rydych chi'n gwybod sydd wedi eu gwneud yn dda.
7. Mwynhewch gymryd eich amser wrth wneud eich cartref eich un chi
Does yna ddim rhaid i drawsnewid eich cartref gostio ffortiwn na digwydd yn gyflym. Dwi'n credu'n gryf mewn addurno eich cartref yn araf (oni bai fy mod i'n gweithio ar brosiect proffesiynol, wrth gwrs).
Blodau mewn fâs, llawenydd o batrwm papur wal neu glustog syml ac addurniadau cytûn i mi yw gwir foethusrwydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2025
