Pwy sy'n byw yn Wales' Home of the Year?
- Cyhoeddwyd
Rhyd y Garreg Ddu yw enillydd Wales’ Home of the Year 2023. Datgelwyd yr enillydd ar y rhaglen ar BBC One Wales. Yn Sir Gâr mae’r tŷ ac mae’n gartref i David, Anthony a’u ci, Llwyd.
Sgwrs gyda David ac Anthony, perchnogion Wales' Home of The Year 2023
“Doedden ni ddim yn disgwyl ennill o bell ffordd,” meddai David Thomas, fydd yn gyfarwydd i rai fel enillydd Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2021. “Pan welon ni’r tai eraill yn y gyfres, doedden ni ddim yn disgwyl ennill y gystadleuaeth... maen nhw mor dda, mor polished.”
Symudodd y cwpl yn ôl i Gymru yn 2015 wedi dwy ddegawd yn byw yn Llundain gyda’r bwriad o brynu plot i adeiladu tŷ newydd. Ond pan welodd y ddau’r tŷ fferm sydd nawr yn gartref iddyn nhw, roedden nhw’n gwybod ei fod yn rhywle arbennig.

Rhyd y Garreg Ddu yn Sir Gâr
Syrthiodd David mewn cariad â’r safle yn syth gan ddweud bod yn rhaid ei gael, cyn hyd yn oed gweld y tu mewn. Ond roedd Anthony Rees, sydd o ardal Llanelli’n wreiddiol, yn betrusgar am brynu tŷ fferm am ei fod “... yn ormod o waith.”
Dywedodd: “Tyfais i fyny ar fferm ac o’n i’n gwybod fod pethau’n tyfu, rhaid cadw ar ben popeth.” Ond gyda dyfalbarhad, mae’r ddau’n fodlon iawn eu byd yno heddiw.
Prynon nhw’r tŷ ym mis Hydref 2015. Er bod cyflwr y tŷ yn dda, roedd gwaith i’w wneud arno meddai David: “Roedd y tŷ mewn stâd eitha’ da i fod yn onest, ond doedd e ddim yn ein steil delfrydol ni. Penderfynon ni adnewyddu pethau.”

Roedd nodweddion gwreiddiol y tŷ fferm wedi cael argraff fawr ar y beirniaid
Gan ei fod yn dŷ fferm â hanes iddo roedd y pâr yn awyddus i gadw nodweddion gwreiddiol y tŷ cystal ag y gallen nhw. Felly’r hyn maen nhw wedi’i wneud yw cymysgu traddodiadau tŷ fferm gyda phethau cyfoes hefyd. Er enghraifft mae pegiau dal yn y nenfwd sydd yn ôl un o’r beirniaid, Owain Wyn Evans, yn “adrodd stori”. Roedd Mandy Watkins, hefyd yn feirniad, yn dweud fod y cartref yn “atsain o’i ddechreuad” gan ei fod yn cyfuno’r cyfoes gyda nodweddion hen iawn.
“Doedden ni ddim moyn troi’r tŷ mewn i new home,” eglurodd Anthony, “oedd rhaid iddo ddangos bod hanes i’r tŷ.”

Estyniad newydd sy'n cymryd mantais ar yr olygfa wledig o amgylch y tŷ
Does gan yr un o’r ddau brofiad blaenorol mewn cynllunio tai, ond mi wnaethon nhw’r cynllunio i gyd eu hunain wrth adnewyddu Rhyd y Garreg Ddu. Y tirwedd a’r tywydd oedd eu prif ysbrydoliaeth ac nid yw hynny’n fwy amlwg nag yn yr estyniad maen nhw wedi’i adeiladu yng nghefn y tŷ. Dywedodd y trydydd o’r tri beirniad, y pensaer Glen Thomas, ei fod yn “gwahanu’r hen a’r newydd, nid yw’n ceisio efelychu dim, mae’n dathlu’r ffaith fod y tŷ yn hen a’r estyniad yn newydd.”
Parhaodd Anthony: “Sdim un ohonon ni â hanes mewn interior design, ni’n dodi pethe at ei gilydd sy’n gweithio i ni.”

Mwynhau paned gyda Llwyd y ci
Yn ogystal â’r tŷ fferm ei hun, mae’r cwpl wedi gwneud defnydd o un o siediau’r fferm. Maent wedi ei thrawsnewid yn ddistyllfa jin. Sefydlon nhw fusnes bychan Jin Talog yn 2018 ac mae’r busnes wedi bod yn llwyddiannus iawn medden nhw. Dywedodd David: “Mae wedi cymryd drosto ein bywydau ni, mewn ffordd. Y bwriad oedd creu rhyw fath o lifestyle business...”
Ychwanegodd Anthony: “Ie, mae’r busnes wedi tyfu a’r lifestyle wedi mynd yn llai!!” Ond maen nhw’n falch o hynny.
Mae’r fenter wedi’u galluogi i ddod i adnabod llawer o bobl yn yr ardal. “Mae’r bobl leol wedi bod mor gefnogol i ni,” meddai David, “ac i mi yn enwedig achos pan wnaethon ni symud yn ôl wnes i ddysgu Cymraeg ac mae’r bobl leol wedi bod yn allweddol i ni deimlo ein bod ni wedi integreiddio yn y gymuned leol.”

Mae'r busnes yn cadw'r ddau yn brysur ers 2018
Mae holl bennodau ail gyfres Wales' Home of the Year ar gael ar BBC iPlayer nawr.

Y beirniaid: Mandy Watkins, Owain Wyn Evans a Glen Thomas